Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Ionawr 2016

Bron i 300 o awduron ac ysgolheigion Cymraeg yn llofnodi llythyr yn pryderu am Gyngor Llyfrau Cymru

Mae bron i 300 o awduron ac ysgolheigion Cymraeg wedi llofnodi llythyr at Lywodraeth y Cynulliad yn mynegi pryder am y toriadau enfawr i gyllideb Cyngor Llyfrau Cymru erbyn y flwyddyn nesaf.

Mae'r llythyr yn mynegi pryder dwys y bydd y toriad o 10.6% (sy'n cyfateb i ryw £374,000 o bunnoedd mewn blwyddyn) yn cael effaith andwyol ar gyhoeddi llyfrau Cymraeg, gan effeithio ar waith cyhoeddwyr, awduron, golygyddion, darlunwyr, cysodwyr - ac yn bennaf oll ar ddarllenwyr Cymru.

Mae'r toriadau'n anghymesur, yn annheg ac yn annerbyniol, meddir.

Ofnir y byddant yn tanseilio holl lwyddiannau'r Cyngor Llyfrau dros y blynyddoedd diwethaf wrth feithrin diwydiant cyhoeddi bywiog a ffyniannus.

Bydd y llythyr, ynghyd â llythyr tebyg a anfonwyd gan awduron Saesneg Cymru (gyda dros ddau gant o lofnodion), yn cael ei anfon at gynrychiolwyr y Llywodraeth heddiw (19 Ionawr).

Ymhlith yr enwau ar waelod y llythyr mae rhai o awduron ac ysgolheigion amlycaf Cymru.

Dywedodd Angharad Price, a luniodd y llythyr: "Mae'r ymateb wedi bod yn syfrdanol.

"Mewn mater o ddeuddydd cysylltodd bron i 300 o bobl sy'n gweithio'n agos gyda'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru i ddweud eu bod yn dymuno llofnodi.

"A dwi'n credu y byddai'r ffigwr hwn wedi bod yn llawer uwch, petai amser heb fynd yn drech na ni.

"Mae'n adlewyrchiad o'r pryder eang sydd yna ymhlith awduron a darllenwyr Cymraeg.

"Mi fydd yn effeithio ar brofiadau darllen plant, pobl ifanc ac oedolion o bob cefndir ac oedran.

"Ac mae darllenwyr Cymraeg o'r tu allan i Gymru yn poeni hefyd: dwi wedi cael rhai o Batagonia, Moscow, yr Almaen ac o Brifysgol Harvard yn America yn gofyn am gael llofnodi'r llythyr.

"Mae'n amser anodd ar bawb yn ariannol, ond mae pawb yn teimlo bod cwtogiad o bron i 11% mewn blwyddyn yn annerbyniol."

Llun: Castell Brychan, cartref Cyngor Llyfrau Cymru yn Aberystwyth
 

Rhannu |