Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Ionawr 2016

Penderfyniad i ddileu grantiau cynnal a chadw myfyrwyr â goblygiadau uniongyrchol ar fformiwla cyllido Cymru

Mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams AS wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o anwybyddu myfyrwyr anabl a myfyrwyr o'r cefndiroedd tlotaf rhag cael mynediad i brifysgolion, wrth i ymgais olaf gael ei gwneud i atal grantiau cynnal myfyrwyr rhag cael eu sgrapio.

Mae pleidlais heddiw i ddirymu y mesur a sgrapiodd grant cynhaliaeth myfyriwr wedi ei ddynodi yn fater Lloegr yn unig o dan system Evel y Llywodraeth (pleidleisiau Saesneg ar gyfer Cyfreithiau Saesneg).

Ond mae Hywel Williams AS wedi galw ar y Llywodraeth am egluredr, gan fod y penderfyniad i gael gwared ar y grantiau cynhaliaeth â goblygiadau uniongyrchol ar fformiwla cyllido Cymru.

Bydd penderfyniad y Llywodraeth i gael gwared ar y grantiau cynhaliaeth yn golygu y bydd hanner miliwn o fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yn Lloegr bellach yn cael colli allan ar £3,387 i'w helpu gyda costau prifysgol.

Ymosododd Hywel Williams AS ar y Llywodraeth am gymryd cymorth ariannol oddi wrth y rhai sydd wir ei angen gan rybuddio y bydd myfyrwyr o'r cefndiroedd tlotaf yn gadael y brifysgol gyda dyled uwch na'u cyfoedion mwy cefnog, gan danseilio egwyddorion system gyllid addysg uwch.

Dywedodd Hywel Williams: “Mae'r Grant Cynhaliaeth i Fyfyrwyr yn hanfodol ar gyfer cynifer o fyfyrwyr o ran cael mynediad a llwyddo mewn addysg uwch, ac eto mae'r Llywodraeth wedi gwadu’r Senedd y cyfle rhesymol i drafod y mater pwysig hwn, gan orfodi y mater i bleidlais ar ddiwrnod dadl yr wrthblaid.

“Dylai'r Llywodraeth fod yn gwneud popeth yn eu gallu i wneud addysg yn agored ac yn hygyrch a helpu myfyrwyr sydd angen cymorth ychwanegol.

"Mae'r toriadau yma a chymhellion ariannol sydd heb eu seilio ar anghenion y myfyrwyr.

“Er bod cynigion y Llywodraeth i ddileu grantiau myfyrwyr yn cael eu hystyried yn fater Lloegr yn unig, mae myfyrwyr o Loegr sy'n astudio mewn prifysgolion yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dal yn gymwys i gael cymorth ariannol.

"Mae hyn yn cryfhau perthnasedd y mesur i Aelodau sy'n cynrychioli etholaethau tu allan i Loegr.

“Trwy dargedu y rhai sy'n ymdrechu i wella eu hunain drwy addysg uwch, mae’r Llywodraeth yn gwneud sbort o’r hawliad eu bod yn cefnogi y rhai sydd am symud ymlaen mewn bywyd.

“Dyma enghraifft arall o Lywodraeth y DU yn rhoi ideoleg Torïaidd cyn buddiannau ein pobl ifanc.

"Yr hyn sy'n fy mhoeni yw'r effaith gaiff y toriadau hyn ar y rhai o gefndiroedd difreintiedig, sy'n dibynnu ar gymorth ychwanegol i'w cael trwy fywyd prifysgol.”

Rhannu |