Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/Leighton-Andrews.jpg)
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus yn herio San Steffan ynghylch y Bil Undebau Llafur a'i effaith niweidiol
Mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, yn mynnu bod Llywodraeth y DU yn diwygio ei deddfwriaeth fel na fydd ei Bil Undebau Llafur yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae wedi ysgrifennu unwaith eto at Nick Boles AS, Gweinidog Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau, i rybuddio ynghylch yr effaith niweidiol y bydd y Bil Undebau Llafur yn ei chael yng Nghymru.
Gan gyfeirio at lythyr blaenorol a anfonwyd ym mis Tachwedd, mae'r Gweinidog yn tynnu sylw Llywodraeth y DU at Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a gyflwynwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ynglŷn â'r Bil Undebau Llafur. Bydd y Cynnig hwnnw'n cael ei drafod ar 26 Ionawr.
Gyda'r llythyr, anfonwyd papur yn amlinellu nifer o ddiwygiadau i'r Bil. Byddai'r diwygiadau hyn yn eithrio’r sector cyhoeddus yng Nghymru o'r darpariaethau a ganlyn;
* cyflwyno trothwy cefnogaeth ychwanegol o 40% o'r aelodaeth gyffredinol ar gyfer gweithredu diwydiannol mewn 'gwasanaethau cyhoeddus pwysig';
* yr hawl i osod gofynion adrodd a chyfyngiadau ar amser a ganiateir ar gyfer gweithgarwch undebau llafur yn yn sector cyhoeddus; a
* gwahardd trefniadau lle didynnir taliadau yn uniongyrchol o gyflogau pobl, yn y sector cyhoeddus.
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, hefyd wedi herio Llywodraeth y DU ynglŷn â’r Bil Undebau Llafur.
Ym mis Medi y llynedd, ysgrifennodd Carwyn Jones at David Cameron, gan fynegi pryder ynghylch effaith y Bil a nodi y dylai hyn fod yn fater i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd: "Mae'n amlwg bod elfennau sylweddol o'r Bil yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus, sy'n bendant yn gyfrifoldebau sydd wedi eu datganoli i Gymru.
"Nid wyf felly'n derbyn yr awgrym fod y Bil yn ymwneud â materion sydd heb eu datganoli yn unig."
Dywedodd Leighton Andrews: "Bydd y Bil yn niweidiol i'r dull o greu cysylltiadau diwydiannol drwy bartneriaeth gymdeithasol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Credwn mai gweithio'n adeiladol gydag Undebau Llafur yw'r ffordd orau i gyrff yn y sector cyhoeddus sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n effeithiol i'r cyhoedd.
"Mae Llywodraeth Cymru'n gwrthwynebu'r Bil hwn. Mae’n amlwg i ni nad yw'r Bil yn ymwneud â materion sydd heb eu datganoli yn unig. Mae'n ymyrryd â'r ffordd y darperir gwasanaethau cyhoeddus, ac mae gan Gymru'r hawl i ddatblygu ei dull ei hun o ddarparu'r gwasanaethau hynny.”