Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Ionawr 2016

Jonathan Edwards - Llywodraeth y DU yn rhoi anghenion Tsieina o flaen y diwydiant dur yng Nghymru

Mae AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards AS wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o fod yn 'chwifio baner' Tsieina gan fethu a diogelu'r diwydiant dur yng Nghymru rhag dur rhâd yn cael ei fewnforio o'r wlad.

Yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog, cyhuddodd Jonathan Edwards AS y Llywodraeth o boeni mwy am sicrhau Statws Economi Marchnad Tsieina fel bod Llundain yn dod yn ganolfan fasnachu bwysig i'r Renminbi.

Hefyd, beirniadodd Mr Edwards yr Arweinydd Llafur am fethu a dwyn y Prif Weinidog i gyfrif am yr argyfwng dur presennol.

Dywedodd Jonathan Edwards AS: "Mae Llywodraeth y DU yn cefnogi Tsieina i gael ei dyfarnu â Statws Marchnad Economi am ei fod eisiau i Ddinas Llundain fod yn ganolfan fasnachu bwysig i'r Renminbi.

"Byddai rhoi Statws Economi Marchnad i Tsieina yn ei gwneud hi bron yn amhosib i osod tariffau ar ddur Tsieiniaidd er iddo gael cymhorthdal sylweddol, ac mae ei ddympio yn un o'r prif resymau dros y trafferthion a welwn yn y diwydiant dur gartref.

"Tra bod y diwydiant dur yng Nghymru yn parhau i gael trafferth â mewnforion rhâd sy'n boddi'r farchnad a than-dorri dur a gynhyrchir yng Nghymru, mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn parhau i gefnogi Statws Economi Marchnad i Tsieina.

"Mae'n ragrith ar ran y Llywodraeth Dorïaidd eu bod mor barod i gefnogi Tsieina ar yr un pryd a dadlau yn erbyn dympio dur Tsieiniaidd.

"Onid yw hyn yn enghraifft glasurol unwaith eto o Lywodraeth San Steffan yn rhoi blaenoriaeth i fancwyr Llundain cyn gweithwyr y diwydiant dur yng Nghymru a gweddill y DU?"

Ychwanegodd: "Mae'n anhygoel for arweinydd Llafur wedi dewis anwybyddu'r argyfwng yn y diwydiant dur er iddo gael chwe cynnig i godi’r mater gyda'r Prif Weinidog.

“Tra bod y Torïaid a Llafur yn gwrthod camu i’r bwlch, gan ddewis yn hytrach i chwarae gêm wleidyddol rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan, bydd Plaid Cymru yn pwyso Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu swyddi gweithwyr y diwydiant dur.

“Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno cynigion adeiladol i achub y diwydiant dur yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ar fyrder yr holl opsiynau, gan gynnwys cymryd cyfran dros dro yn Tata Steel i ddiogelu gweithwyr a gwarchod y diwydiant allweddol hwn, asgwrn cefn economi Cymru, yn erbyn amodau economaidd heriol.” 

Rhannu |