Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/Simon-Lloyd.jpg)
Prif weithredwr i’r Eglwys yng Nghymru
MAE arweinydd busnes, gyda phrofiad ar raddfa uwch mewn diwydiant a hefyd yr eglwys, yn dychwelyd i’w wreiddiau i helpu llywio dyfodol yr Eglwys yng Nghymru.
Penodwyd Simon Lloyd yn Ysgrifennydd Taleithiol newydd – y swydd leyg uchaf yn yr Eglwys ac yn ymarferol y prif weithredwr. Bydd yn dechrau ar y swydd ym mis Mai, yn dilyn ymddeoliad John Shirley.
Mae Mr Lloyd, sy’n hanu o Gaerdydd, yn ymuno â’r Eglwys o Esgobaeth Coventry lle bu’n arwain fel Ysgrifennydd yr Esgobaeth am y 10 mlynedd ddiwethaf.
Cyn hynny bu ganddo yrfa yn y diwydiant gweithgynhyrchu, ar ôl graddio mewn peirianneg drydanol a hyfforddi fel peiriannydd dylunio gyda GEC (General Electrical Company).
Bu ganddo nifer o swyddi mewn marchnata, rheoli ffatri, gwerthiant rhyngwladol ac fel rheolwr gyfarwyddwr cwmnïau’n gwneud cynnyrch trydanol.
Yn ei swydd fel Ysgrifennydd Taleithiol, bu Mr Lloyd yn cefnogi gwaith yr esgobaeth yn ei phlwyfi, Cadeirlan, ysgolion eglwys ac academïau ac mewn cwmni menter ar y cyd gyda Chronfa Drefol yr Eglwys.
Mae hefyd yn Ganon Lleyg Cadeirlan Coventry a bu’n ymwneud yno fel aelod o’i Siapter ac yn ei haddoliad drwy arwain gwasanaethau a phregethu.
Wrth gyhoeddi ei benodiad dywedodd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru: “Daw Simon â’i brofiad helaeth a’i arbenigedd i swydd Ysgrifennydd Taleithiol, ar ôl gwasanaethu am 10 mlynedd fel ysgrifennydd Esgobaeth Coventry a chyn hynny ym myd busnes.
“Wedi’i eni a’i fagu yng Nghymru nes oedd yn naw oed, mae’n dychwelyd i’w wreiddiau ac rydym yn ei groesawu gartref.”
Dywedodd James Turner, Cadeirydd Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru: “Rydym yn hynod falch fod Simon Lloyd wedi derbyn y rôl allweddol yma yn yr Eglwys.
“Mae’n cyrraedd ar adeg pan fo’r Eglwys yn mynd drwy newidiadau sylweddol fel rhan o’i strategaeth twf Golwg 2020 ac edrychwn ymlaen at yr arweiniad a’r gefnogaeth y bydd yn eu rhoi i gynorthwyo gyda hynny.”
Cafodd Mr Lloyd ei eni yng Nghaerdydd a bu’n byw yno nes oedd yn naw oed pan symudodd ei deulu i ogledd Swydd Stafford. Pan oedd ym Mhrifysgol Sheffield, cyfarfu â’i wraig Faye a gafodd ei geni a’i magu yn y Coed-duon, lle mae ei rhieni’n dal i fyw.
Mae ganddynt ddau o blant sy’n oedolion erbyn hyn. Yn ogystal â’i gysylltiad gyda De Cymru, mae gan Mr Lloyd gysylltiadau teuluol gyda’r Canolbarth a’r Gogledd ac wedi bod ar wyliau yma’n gyson dros y blynyddoedd.
Meddai: “Ar ôl deng mlynedd hapus yn gwasanaethu Eglwys Lloegr yn Coventry a swydd Warwick, rwy’n edrych ymlaen at ddod â’r cyfan a ddysgais yno mewn gwasanaeth i’r Eglwys yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at yr heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn fy rôl newydd i alluogi’r Eglwys i ffynnu ym mhob rhan o’r wlad.”
Dywedodd Dr Christopher Cocksworth, Esgob Coventry: “Mae Simon Lloyd wedi gwasanaethu Esgobaeth Coventry gyda llawer iawn o egni, gallu a doethineb am y 10 mlynedd diwethaf. Bu’n gydweithiwr gwych a byddaf i – ynghyd â chynifer arall yn yr Esgobaeth – yn gweld ei golli’n fawr. Serch hynny, rydym yn ei anfon ymlaen yn falch at yr Eglwys yng Nghymru, gan fod yn ddiolchgar am bopeth a roddodd i ni ac yn llawen y caiff Talaith gyfan o’r Cymun Anglicanaidd yn awr ei bendithio gan ei ddoniau niferus.”