Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/Elwyn-Jones.jpg)
Y Cyngor Llyfrau yn croesawu tro-pedol Llywodraeth Cymru
Croesawodd y Cyngor Llyfrau y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru na fydd y diwydiant cyhoeddi yn wynebu toriad ariannol yn y flwyddyn ariannol nesaf gan ddatgan eu diolch am yr holl gefnogaeth a gafwyd dros yr wythnosau diwethaf.
“Yn naturiol, y mae hi wedi bod yn gyfnod pryderus i’r Cyngor ac i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru,” meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, “gan ein bod yn ofni’r effaith ar y ddarpariaeth bresennol o ran dewis a safon y llyfrau.”
Bu nifer o awduron Cymraeg a Saesneg yn mynegi eu gofid am y toriadau arfaethedig ac mae’r Cyngor Llyfrau yn hynod ddiolchgar i’r Dirprwy Weinidog, Ken Skates, am fod mor barod i ystyried y dystiolaeth ac i ymateb mewn ffordd bositif.
“Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae’r diwydiant cyhoeddi wedi ymgyrraedd at gymunedau o ddarllenwyr ar draws ffiniau cymdeithasol a daearyddol Cymru”, meddai'r Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau.
“Gyda’n gilydd rydym wedi ategu llyfrau print gydag e-lyfrau, sicrhau twf yn y diddordeb mewn llyfrau o Gymru, wedi meithrin awduron a chefnogi rhwydwaith o fusnesau ffyniannus, yn gyhoeddwyr ac yn llyfrwerthwyr. Y mae llyfrau o Gymru hefyd yn asgwrn cefn i’r sector addysg a’r llyfrgelloedd fel ei gilydd.”
Ychwanegodd Elwyn Jones “Mewn cyfnod o gynni rydym yn gwerthfawrogi hyder y Llywodraeth yn ein gwaith a byddwn yn mynd ati’n egnïol i gefnogi’r diwydiant ac i hyrwyddo llyfrau yn y ddwy iaith. Byddwn hefyd yn parhau gyda’n hymdrech i ganfod ffynonellau ariannol eraill i gynnal a datblygu’n gwaith.”
Llun: Elwyn Jones