Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/MarkDrakeford.jpg)
Cynllun newydd tair blynedd i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru
Heddiw, cyhoeddodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod gwella gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl a phobl hŷn â dementia ymysg blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.
Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, sef strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a llesiant, yn cwmpasu pobl o bob oedran. Mae’n ystyried y boblogaeth gyfan er mwyn gwella llesiant meddwl pobl Cymru ac mae’n cefnogi pobl sy’n dioddef o salwch meddwl.
Heddiw, lansiodd y Gweinidog yr ymgynghoriad ffurfiol ar y cynllun cyflawni cam dau ar gyfer Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Mae’n nodi’r camau gweithredu allweddol a fydd yn cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru, gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau partner yn y sector statudol a’r trydydd sector dros y tair blynedd nesaf.
Un o’r blaenoriaethau allweddol yw gwella ansawdd bywyd a gofal i bobl sydd â dementia neu sydd â risg o ddementia a’u gofalwyr. Bydd Llywodraeth Cymru yn llunio cynllun strategol ar gyfer dementia erbyn mis Rhagfyr 2016.
Mae’r cynllun hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol, fel anhwylder ar y sbectrwm awtistig ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, yn gallu cael asesiad a thriniaeth amserol sy’n cefnogi’u datblygiad cymdeithasol a phersonol parhaus.
Mae’r meysydd eraill o flaenoriaeth yn cynnwys:
* Sicrhau y caiff llesiant meddwl yr un blaenoriaeth â llesiant corfforol wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau
* Darparu canlyniadau gwell i fenywod, eu babanod a’u teuluoedd sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl amenedigol neu sydd mewn risg o ddatblygu hyn. Bydd byrddau iechyd yn sicrhau bod gwasanaeth amenedigol cymunedol hygyrch ar gael ym mhob rhan o Gymru erbyn mis Tachwedd 2016
* Sicrhau y gall pobl o bob oed sy’n dioddef o anhwylder bwyta gyrraedd at wasanaethau priodol yn amserol. Bydd byrddau iechyd yn darparu gwasanaethau ar gyfer anhwylderau bwyta mor agos at y cartref â phosibl, mewn lleoliad i gleifion mewnol neu gymunedol
* Gwella ansawdd bywyd, iechyd a llesiant pobl hŷn yng Nghymru trwy leihau unigrwydd ac ynysu digroeso. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r rhwydwaith Heneiddio'n Dda yng Nghymru i ddatblygu rhaglen waith sydd â’r bwriad o leihau unigrwydd ac ynysu ymysg pobl hŷn erbyn mis Mawrth 2019
* Ymdrech ar y cyd i barhau i leihau’n gynaliadwy y stigma a’r gwahaniaethu y mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu.
Yng Nghymru, mae dros £600m y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl, sy’n fwy nag unrhyw wasanaeth arall yn y GIG.
Llynedd, cyhoeddwyd bod £16m y flwyddyn yn ychwanegol i gael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd y buddsoddiad hwnnw, ynghyd â’r buddsoddiad ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gyhoeddwyd fel rhan o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17, yn sicrhau bod adnoddau ar gael i gyflawni’r blaenoriaethau hyn.
Mae’r £16m eisoes yn helpu i ddatblygu gwasanaethau amenedigol effeithiol, gwella mynediad at therapïau seicolegol a gwasanaethau iechyd meddwl i blant a’r glasoed, a darparu cymorth i bobl sydd wedi cael diagnosis o dementia.
Dywedodd yr Athro Drakeford: “Iechyd meddwl yw un o’n prif flaenoriaethau. Fel llywodraeth, rydyn ni’n buddsoddi mwy nag erioed – dros £600m eleni – yn ein gwasanaethau iechyd meddwl.
“Mae mwy nag un o bob pedwar oedolyn yn dioddef problemau iechyd meddwl neu salwch meddwl yn ystod eu bywydau, ac mae un o bob chwech ohonom yn dioddef symptomau ar unrhyw adeg unigol. Mae un o bob 10 plentyn rhwng pump ac 16 oed â phroblem iechyd meddwl, a llawer mwy â phroblemau ymddygiad.
“Mae’n cynllun cyflawni tair blynedd newydd ar gyfer strategaeth iechyd meddwl Cymru yn nodi’r prif flaenoriaethau rydym am roi sylw iddynt dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
“Rydyn ni am sicrhau bod pobl o bob oed yn gweld gwelliant parhaus yn eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Ond os a phan fydd iechyd meddwl yn dirywio rydyn ni am sicrhau bod pobl yn cael eu trin ag urddas a pharch, a’u bod yn cael mynediad at wasanaethau priodol ac amserol, wedi’u seilio ar dystiolaeth, a bod y gwasanaethau hynny wedi’u darparu mor agos i’w cartrefi ag sy’n bosibl.”
Mae’r cynllun cyflawni’n destun ymgynghoriad, sy’n dod i ben ar 4 Ebrill 2016.