Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/BwlchNantyrArian.jpg)
Cwympo coed i ymladd clefyd yn Nant yr Arian
Mae ail gam gwaith sylweddol i gwympo coed bellach wedi cychwyn mewn canolfan boblogaidd yng nghanolbarth Cymru i arafu lledaeniad clefyd sy’n heintio coed llarwydd.
Bydd y gwaith hwn yn cael gwared o hyd at 20,000 o goed ym Mwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth a heintiwyd gan y clefyd ffyngaidd Phytophthora ramorum.
Bydd y gwaith cwympo yn cychwyn ddechrau mis Rhagfyr a bydd 34 hectar o goed llarwydd yn cael eu cwympo i atal lledaeniad y clefyd, sydd wedi heintio oddeutu 6.7 miliwn o’r coed hyn yng Nghymru.
Er gwaetha’r gwaith cwympo sylweddol hwn, bydd y ganolfan ymwelwyr, sy’n cael ei rhedeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn parhau i fod yn agored, a bydd y barcudiaid coch yn parhau i gael eu bwydo’n ddyddiol o 2pm ar y safle gwobrwyedig.
Mae CNC eisoes wedi ailblannu tua 12,000 o goed brodorol ym Mwlch Nant yr Arian ers cam diwethaf gwaith cwympo sylweddol 2013.
Bydd cymysgedd o rywogaethau yn parhau i gael eu hailblannu yn yr ardal, gan gynnwys ffynidwydd Douglas a chedrwydd coch.
Meddai Gareth Owen, Rheolwr Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian: “Gwyddom fod gan Fwlch Nant yr Arian le arbennig yng nghalonnau’r bobl leol ac ymwelwyr.
"Yn anffodus, ni allwn atal y clefyd hwn rhag lledaenu, ond gallwn gymryd camau i’w arafu. Mae hyn yn golygu cwympo’r holl goed sydd wedi eu heintio ym Mwlch Nant yr Arian.
“Mae’n drist fod yn rhaid inni gwympo cymaint o goed sydd wedi eu heintio, ond mae’n gyfle inni blannu amrywiaeth o rywogaethau yn eu lle ac ychwanegu at y coed llydanddail sydd yma eisoes.”
Gan fod y gwaith cwympo wedi cychwyn, mae gwyriadau arfaethedig yn weithredol ar rai llwybrau beicio mynydd a llwybrau cerdded yn yr ardal.
Bydd y rhain yn cael eu harwyddo’n eglur ac mae’r manylion ar gael ar wefan CNC ac ar dudalen Facebook Bwlch Nant yr Arian.
Mae’n hanfodol nad yw pobl yn mynd i’r ardaloedd hyn am resymau diogelwch.
Meddai Gareth: “Byddwn yn gofalu bod rhannau o’r goedwig bob amser ar agor i bobl i’w mwynhau a byddwn yn rhoi gwybod iddynt cyn gynted ag y gallwn os bydd llwybrau yn cau neu os bydd gwyriadau, ar ein gwefan, ar sianeli cyfryngau cymdeithasol ac yn y ganolfan ymwelwyr.
“Bydd mwy o bren yn cael ei gludo drwy’r maes parcio ond bydd yn parhau i fod yn agored.”
Ar ôl y gwaith cwympo bydd y pren yn cael ei anfon i felinau llifio lleol i’w ddefnyddio yn y diwydiant adeiladu.
Mae hwn yn gyfle i adfer rhywfaint o werth economaidd y pren y gellir ei ail-fuddsoddi yn Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru.
Bydd Tom Whitchurch, Rheolwr Contractau Canolbarth Cymru yn ysgrifennu blog ar wefan CNC am ei waith yn cwympo 34 hectar o larwydd i ymladd lledaeniad y clefyd, sydd wedi heintio tua 6.7 miliwn o goed llarwydd yng Nghymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i’r holl ymwelwyr helpu i rwystro lledaeniad Phytophthora ramorum drwy olchi esgidiau ac offer fel beiciau, cyn dychwelyd i unrhyw goetir.
Dylid gadael priciau neu ddail yn y goedwig, a dylid brwsio unrhyw nodwyddau oddi ar eich eiddo cyn gadael y coetir.