Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Ionawr 2016

Cynlluniau Plaid Cymru am y GIG i ostwng amseroedd aros a gwella mynediad at ofal

Plaid Cymru yw’r unig blaid i addo integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn gostwng amseroedd aros a rhoi gwell mynediad at ofal i bawb, dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol y blaid, Elin Jones.

Bydd cynigion uchelgeisiol Plaid Cymru yn gweld dileu’r byrddau iechyd, gyda’r cyfrifoldeb am ofal cymunedol yn cael ei ddwyn dan nawdd yr awdurodau lleol. Sefydlir un corff ysbytai i redeg ysbytai Cymru.

Dywedodd Elin Jones fod cytundeb eang fod angen integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn llawn, ond mai dim ond Plaid Cymru sydd wedi rhoi cynigion pendant gerbron i gyflwyno hynny.

Trwy integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, meddai, bydd Plaid Cymru yn rhoi diwedd ar y brwydro dros ofal cymdeithasol, yn dileu’r fiwrocratiaeth ddiangen trwy sicrhau bod holl wasanaethau cymunedol y GIG yn cael eu cyflwyno gan un corff. Bydd hyn yn rhoi mynediad diwniad i gleifion ac yn helpu i gadw cleifion yn iach gartref yn hwy.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi addo dileu taliadau gofal cymdeithasol i’r henoed a’r rhai â dementia, gan roi gofal am ddim ar y pwynt mae ei angen.

Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones: “Yr hyn mae Plaid Cymru eisiau weld yw gwasanaethau iechyd ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd, fel un system ddiwnïad.

"Mae’n cael ei gydnabod yn eang fod angen integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn, ond fel y mae pethau ar hyn o bryd, Plaid Cymru yw’r unig blaid gyda chynlluniau manwl i beri i hynny ddigwydd.

“Bydd unrhyw un sydd wedi wynebu oedi hirfaith cyn gweithredu eu pecyn gofal  cymdeithasol neu sydd wedi gorfod aros yn rhy hir yn yr ysbyty tra bod y prosesau biwrocrataidd yn llusgo ymlaen, yn gwybod fod angen dybryd mireinio’r system.

“Bydd cynlluniau Plaid Cymru i gyflwyno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi integreiddio yn llawn yn torri ar oedi biwrocrataidd, yn gostwng amseroedd aros ac yn gwella mynediad at ofal. Plaid Cymru yw’r newid y mae ar Gymru ei angen.”

Rhannu |