Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Ionawr 2016

Plaid Cymru yn ymateb i adroddiad canser

Wrth ymateb i adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar ganser, dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones: “Mae’r adroddiad yn cydnabod fod targedau amseroedd aros o ran canser yn cael eu methu’n gyson, fod diagnosis hwyr yn parhau yn  broblem enfawr, a bod targedau sgrinio yn cael eu methu.

"Mae Llafur yn methu â chyflwyno eu haddewid i gleifion canser.

"Dim rhyfedd fod Llafur yn cael eu gorfodi i geisio hawlio’r clod am ddarganfyddiadau gwyddonol sy’n arwain at well cyfraddau goroesi pan fo hyn yn digwydd ledled Ewrop.

“Bydd Plaid Cymru yn sefydlu Contract Canser newydd fydd yn gostwng amseroedd aros trwy sefydlu tair canolfan ddiagnostig newydd ar hyd Cymru fel bod cleifion yn cael diagnosis neu gadarnhad nad oes clefyd arnynt o fewn 28 diwrnod.

"Fe fyddwn yn sefydlu Cronfa Triniaethau Newydd i roi mynediad at feddyginiaethau newydd, ar sail yr hyn mae’r meddyg yn ragnodi, nid eich cod post.

"Ac fe roddwn gefnogaeth unigol i bob claf cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth.

“Mae’n bryd cael llywodraeth sydd yn rhoi anghenion pobl Cymru yn gyntaf.”

Rhannu |