Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/angie_bowie.jpg)
Dagrau Angie Bowie
Pan gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf yn drist iawn fod y chwedl roc David Bowie wedi marw, un o’r ychydig bobl na chlywodd ar unwaith oedd ei gyn wraig, Angie.
Roedd yn cymryd rhan yn Celebrity Big Brother ac fe dorrwyd y newyddion iddi gan gynhyrchwyr y sioe a benderfynodd ffilmio ei hadwaith.
Heb yn wybod iddi hi, dangoswyd y foment hon o dristwch a galar i’r cyhoedd heb ei chaniatâd i geisio rhoi munud o gyffro i wylwyr syrffedus.
Yn dilyn ymosodiadau 9/11, disgrifiodd yr awdur a’r actifydd Arundhati Roy alar fel un o’r profiadau mwyaf personol a phreifat, a dywedodd fod ymelwa ar alar pobl eraill yn un o’r pethau mwyaf creulon a threisgar y gallai gwladwriaeth ei wneud.
Ar y pryd roedd yn cyfeirio at ymdrin â galar a deimlai gwlad ar ôl dinistr y ddau dŵr er mwyn cyfiawnhau mynd i ryfel yn Irac. Ond mae’r teimlad hefyd yn gymwys i driniaeth Angie Bowie.
Mae defnyddio munudau mwyaf preifat a phersonol a’u troi’n adloniant, yn dangos meddylfryd arbennig - un sy’n cael ei lunio gan syniadau cyffredinol o fewn ein cymdeithas.
Efallai y byddai’r rhai sy’n cefnogi rhaglenni teledu realaeth yn dweud bod cystadleuydd ar y fath sioe yn haeddu popeth roedd yn ei gael, ond mae hyn yn awgrymu nad oes unrhyw safonau moesol uwch yn ein cymdeithas na’r rhai sy’n seiliedig ar gytundebau busnes.
‘Roedd yn ddigon parod i gymryd eu harian,’ gellid dadlau, ond mae hynny’n golygu unwaith y bydd rhywun wedi talu am rywbeth, neu unwaith y bydd rhywun yn enwog, ei bod yn dderbyniol i’w diraddio neu eu cosbi mewn unrhyw fodd.
Mae’n iawn, wedyn, mewn cymdeithas sydd wedi’i seilio ar werthoedd materol, i awgrymu bod y bobl hyn wedi cael eu prynu gorff ac enaid ac nad oes ganddyn nhw unrhyw berchnogaeth dros eu hymddangosiad na’u triniaeth yng ngolwg y cyhoedd.
Rydyn ni hefyd yn dod i’r casgliad bod modd prynu popeth, hyd yn oed munudau preifat galar rhywun, ac y gall cymdeithas wawdio ynfydrwydd yr unigolyn am arwyddo’r cytundeb yn y lle cyntaf.
Pan ddown i gredu bod pob peth yn werthadwy, popeth yn ddim ond nwyddau, ac mai ffiniau dychymyg dyn yw’r unig beth sy’n cyfyngu ar gyfleoedd busnes newydd, yna rydyn ni wedi mynd yn gaethweision llwyr i ideoleg cyfalafiaeth marchnad rydd – lle mae pob ystyriaeth ddynol arall yn cael ei dallu – byd sydd yn ei dro yn afresymol ac yn greulon.
Ym maes trin dibyniaeth yr ydyn ni yn Stafell Fyw Caerdydd yn gweithio ynddo, mae’r anhrefn sy’n cael ei achosi gan ein mythau a’n credoau cyffredinol yn glir i’w weld.
Mae adictiaid sy’n ddibynnol ar yfed, cyffuriau, rhyw a gamblo wedi cael eu meddiannu gan eu dibyniaeth yn aml oherwydd mai dyma’r unig ffordd o ymdopi gyda’r gofynion a roddir arnyn nhw gan gymdeithas – cymdeithas sydd wedi’i meddiannu gan gystadleuaeth a diffiniad hynod gul o’r syniad o lwyddiant. Mae ysgolion, rhieni, gwleidyddion a darlledwyr yn cyflyru plant i ddiffinio llwyddiant a gwerth mewn termau ariannol a chystadleuol.
Pan fydd y fersiwn anghyflawn ac anysbrydol hwn o fywyd yn cael ei roi i blant, maen nhw’n aml yn ceisio ffordd o ddianc oddi wrtho, gan gynnwys y difodiant a ddaw gyda dibyniaeth, a dianc rhag bod yn ddilys (gan fod dilysrwydd yn rhywbeth sy’n aml yn cael ei gosbi).
Mae’r meddylfryd hwn yn creu’r math o bobl a all werthu a marchnata unrhyw funud o alar oherwydd ei bod yn cynrychioli ‘busnes da’, ac mae hefyd yn creu pobl sy’n mynd yn ddibynnol ar gyffuriau ac ymddygiadau niweidiol eraill oherwydd eu bod yn crefu am fywyd lle gallan nhw fod yn ddilys.
Ond yn lle hynny, cyflwynir hwy i fyd lle mae byw’n arwynebol ac yn ddau-ddimensiwn, gydag ymagwedd hollol wallgo tuag at eiddo materol, yn drech na phob dim.