Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/SimonThomas.jpg)
Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn creu 50,000 o brentisiaethau newydd
Heddiw bydd Llefarydd Cysgodol Plaid Cymru ar Addysg, Simon Thomas AC, yn cyhoeddi cynlluniau ei blaid i wneud buddsoddiad sylweddol mewn 50,000 o brentisiaethau i'n pobl ifanc dros y pum mlynedd nesaf.
Wrth siarad cyn y lansiad yn Academi Hyfforddiant British Gas yn Nhredegar, dywedodd Simon Thomas AC y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn defnyddio cyfran Cymru o'r ardoll prentisiaethau i greu'r llefydd ychwanegol hyn dros dymor nesaf y Cynulliad.
Mae disgwyl i'r ardoll ddod a thua £150m i Gymru bob blwyddyn o ganlyniad i gynnydd mewn gwariant yn Lloegr a gyhoeddwyd yn yr Adolygiad Gwariant fis Tachwedd.
Ychwanegodd fod Plaid Cymru wedi ymrwymo tuag at sicrhau nad oes unrhyw bobl ifanc yng Nghymru ddim mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant tra rhwng 16 a 24 oed, er mwyn gwella cyfleoedd i'r genhedlaeth nesaf.
Dywedodd Simon Thomas: "Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi yn nyfodol ein pobl ifanc a sicrhau cyfleoedd i bawb. Rydym yn awyddus i adeiladu ar ein gwaith o sicrhau 5,500 o brentisiaethau fel rhan o'r gyllideb Gymreig yn 2012.
"Ar hyn o bryd, mae 12,200 o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant yng Nghymru. Maent yn cynrychioli un o bob 10 o bobl ifanc o fewn yr amrediad oed hwnnw.
"Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn defnyddio cyfran Cymru o'r ardoll prentisiaethau i fuddsoddi mewn 50,000 o brentisiaethau newydd dros gyfnod y Senedd nesaf.
"Credwn fod prentisiaethau yn cynnig trywydd yr un mor werthfawr i waith a graddau prifysgol, ac rydym yn anelu i sicrhau cydraddoldeb rhwng y ddau drywydd hwn.
"Mae prentisiaethau hefyd yn fuddsoddiad economaidd gwych. Yn ôl Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru maent yn darparu £74 yn ol am bob £1 a fuddsoddir.
"Mae Plaid Cymru yn cydnabod fod creu cyfleoedd ystyrlon yn hanfodol er lles y gweithlu Cymreig a chyfoeth y genedl.
"Byddai'r buddsoddiad allweddol hwn yn nyfodol ein pobl ifanc yn rhoi hwb i obeithion y genhedlaeth nesaf, cau'r bwlch sgiliau mewn sectorau hollbwysig megis peirianneg a chyfrifiadureg, a gwella iechyd yr economi Gymreig."