Mwy o Newyddion
Comisiynydd y Gymraeg yn ymateb i ddata am y Gymraeg mewn gofal sylfaenol
Mae ystadegau newydd am wasanaethau gofal sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi cyfle i’r Llywodraeth a’r Gwasanaeth Iechyd weithio gyda’i gilydd i wella profiad y claf yng Nghymru, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Wrth ymateb i’r bwletin ystadegol, ‘Adnodd data ar y gweithlu a’r iaith Gymraeg i gefnogi cynllunio gofal cynradd’, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Un o’r 33 o argymhellion a wnaed yn fy adroddiad ‘Fy Iaith: Fy Iechyd, Ymholiad i’r Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol’, a gyhoeddwyd yn 2014, oedd bod Llywodraeth Cymru’n casglu a darparu cofnod clir o sgiliau ieithyddol y gweithlu.
"Mae cyhoeddi’r bwletin ystadegol hwn, felly, yn ganlyniad uniongyrchol i’r adroddiad, ac rwy’n croesawu bod y Llywodraeth wedi ymateb yn gadarnhaol i’r argymhelliad.
“Mae’r data yn yr adroddiad yn amlygu’r angen am wasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd trwy gyfrwng y Gymraeg ymhob rhan o Gymru.
"Nid ‘dewis’ yw cyfathrebu yn iaith y claf, ond rhan annatod o wasanaeth iechyd o ansawdd ac mae’n rhan o effeithiolrwydd gofal clinigol.
“Mae’r adroddiad hefyd yn cynnig gorolwg o faint o staff y gweithlu gofal sylfaenol sy’n gallu siarad Cymraeg, fesul proffesiwn ac mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.
"Mae hynny’n ddefnyddiol er mwyn adnabod bylchau y mae angen eu llenwi trwy addysgu a hyfforddi mwy o siaradwyr Cymraeg i weithio yn y maes hwn fel meddygon, therapyddion, seicolegwyr, nyrsys ac ymarferwyr iechyd eraill.
“Hyderaf y bydd Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth iechyd a sefydliadau addysgol yng Nghymru yn cydweithio ar sail y data yma er mwyn hyfforddi ymarferwyr iechyd sydd yn hyderus i weithio yn broffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg.”