Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Mehefin 2016

Mudiadau Iaith Prydain ac Iwerddon yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd

Mae cynghrair o fudiadau iaith ym Mhrydain ac Iwerddon wedi rhyddhau llythyr ar y cyd heddiw sy’n cefnogi’r ymgyrch i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, gan bwysleisio’r manteision diwylliannol ac economaidd.

Mae ymgyrchwyr a mudiadau sy’n cefnogi’r Gernyweg, y Sgoteg, yr Aeleg, y Wyddeleg a’r Gymraeg ynghyd â grwp ymbarél ymgyrchwyr iaith Ewrop wedi llofnodi llythyr sy’n dadlau bod aros yn yr Undeb yn bwysig er mwyn hybu a hyrwyddo ieithoedd llai.

Ymysg y llofnodwyr mae Dr Loveday Jenkin o Gymdeithas Iaith y Gernyweg, Jamie Bevan o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Michael Hance o Gymdeithas yr Iaith Sgoteg, Dr Gwenllian Lansdown Davies o’r Mudiad Meithrin, Dr Davyth Hicks o ELEN, Liam Ó Flannagáin o gyngor addysg cyfrwng Gwyddeleg, a Garry Nicholas o’r Eisteddfod Genedlaethol.

Dywed y llythyr ar y cyd: “Petai ein gwledydd yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, byddem yn cael ein hamddifadu o’r hawliau a rennir gan ddinasyddion Ewrop.

"Ymhellach, byddem ar drugaredd llywodraethau nad ydynt wedi dangos nemor ddim diddordeb nac awydd i amddiffyn nac i hyrwyddo hawliau siaradwyr ieithoedd ein cenhedloedd a’n bröydd ac sydd wedi gweithredu polisïau ymosodol gyda’r bwriad o ddifodi’n hieithoedd drwy gyfnodau helaeth o’n hanes cyffredin.

"Ni allem ychwaith gyrraedd nawdd Ewropeaidd ar gyfer prosiectau iaith, a byddai cyrff anllywodraethol ac addysgiadol ar eu colled.

"Byddai Brexit yn rhwystro gobeithion ein hieuenctid a’u cyflogadwyedd; mae nawdd Ewropeaidd wedi darparu buddsoddiad hanfodol i lawer o economïau ein cymunedau.

"Y mae’r Undeb Ewropeaidd wedi bod, ac fe all fod eto, yn gadernid ac yn obaith i ieithoedd lleiafrifoledig ein gwledydd.

“Ofnwn y byddai Brexit yn esgor ar ddyfodol ansicr i’n cymunedau fel y dengys y penderfyniad diweddar gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiddymu ei nawdd i’r Gernyweg.

"Gyda’i gynulliad cydnerth o ddiwylliannau mwyafrifol a lleiafrifol, y mae bod yn rhan o Undeb Ewropeaidd sy’n llawn amrywiaeth yn galluogi gwell dealltwriaeth a nawdd ar gyfer ein priod ieithoedd ein hunain…

"Yn anuniongyrchol gallai Brexit effeithio’n drychinebus ar ein hieithoedd.

"Y mae cyswllt clòs rhwng cynaliadwyedd a hyfywedd parhaol ein hieithoedd ac iechyd economaidd y cymunedau sy’n siarad yr ieithoedd hyn.

"Heb economi lewyrchus sy’n darparu cyflogaeth werthfawr i’r sawl sy’n byw yng nghymunedau brodorol ieithoedd lleiafrifol, gwêl y cymunedau hyn drai siaradwyr o achos allfudiad wrth i bobl ymadael er mwyn cael hyd i waith a chartrefi fforddiadwy.

“O’r herwydd, yr ydym ni, fel cynrychiolwyr cymunedau ieithoedd llai yn yr ynysoedd hyn, yn dod i’r casgliad bod rhaid i ni aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau diogelwch a ffyniant ein hieithoedd a’u cymunedau a chyfrannu tuag at ddatblygiad pellach yr Undeb Ewropeaidd yn ysbryd Ewrop fel cywaith hawliau dynol ac fel gwarcheidwad heddwch, cydweithio a chyfle cyfartal ar gyfer pobloedd ein Cyfandir ac Ewrop sy’n undod yn ei hamrywiaeth.”

Rhannu |