Mwy o Newyddion
Cynnig Rhyddid Tref Y Bala i Gareth Bale
Wedi i bapurau newydd Y Cyfnod a’r Corwen Times dorri’r stori bod tref Y Bala i gael ei hail-enwi Y Bale, o fewn oriau, roedd y stori yn fyd-eang, ac ar wefannau a phapurau newydd led led y byd. Rwan, mae cynlluniau gan gynghorydd lleol i geisio cynnig Rhyddid Tref Y Bala i Gareth Bale.
Meddai Dilwyn Morgan, sy’n Gynghorydd Sir dros dref Y Bala, neu’r Bale: “Mae Gareth Bale, oherwydd ei enw ac oherwydd ei fod yn lysgennad gwerth chweil i Gymru, rŵan wedi cael ei gysylltu trwy’r byd hefo’n tref ni.
"Mi fydd angen i mi wneud ychydig o ymchwil, ond rydw i’n gobeithio trafod hefo Cyngor Tref Y Bala yn eu cyfarfod nesaf os oes modd cynnig rhyddid tref Y Bala i Gareth Bale.
"Rydw i yn edrych ymlaen i weld beth ydi’r posibiliadau.”
Cyn belled ag y gwyr, does neb wedi cael yr anrhydedd o’r blaen.
Wedi cysylltu â’r wasg gan obeithio y byddai’r stori yn rhoi’r Bala ar y map, roedd hi’n dal yn syndod i Mari Williams, sydd â gwasanaeth cyfathrebu ei hun, MariWilliamsPR, pa mor bell aeth stori newid enw’r Bala.
Roedd hefyd yn gychwyn ar nifer o drefi eraill i wneud rhywbeth tebyg - gyda Cynwyd yn troi’n Kanu-yd, Waunfawr yn troi’n Waunhennessey, Aberdaron yn troi’n Aberdaronramsey a’r Vale of Glamorgan yn troi yn Bale of Glamorgan.
“Roeddwn i yn gwybod ei bod hi’n stori dda o ystyried statws Gareth Bale yn y byd pêl-droed a hefyd gan bod y wasg a’r cyfryngau wrth eu bodd hefo storiau ysgafn, hwyliog ar adeg pencampwriaeth fel hyn,” meddai Mari Williams, sydd yn olygydd ar bapurau’r Y Cyfnod a’r Corwen Times yn ardal Y Bala a Chorwen
Crewyd y syniad gyda’i phlant Efan, 9, a Cadi, 7, wrth drafod be’ fyddai’r ardal yn gallu ei wneud i ddangos eu cefnogaeth i sgwad Cymru yn Euro 2016.
“Wnes i erioed ddychmygu y byddwn i yn darllen am dre’r Bala mewn papurau fel y Tribune India, Spanish News Today, Radio Columbia, Fox Sports, CNN Malaysia, Sky Sport, Y Mirror, BBC News online, ITV, Daily Mail, Guatemala News, Honduras News… roedd o’n afreal braidd ond yn wych!
“Mae enw’r Bala wedi mynd rownd y byd, trwy stori hwyliog a doniol.
"Ryden ni wedi gallu cyfleu bod Y Bala yn lle hardd a bywiog i ymweld ag o a dangos bod gan bobol Y Bala synnwyr digrifwch a brwdfrydedd di-ball at Gymru a’n tîm cenedlaethol.”
Meddai Dilwyn Morgan: “Mae’r stori yma wedi dod â llawer o sylw i’r dref ar ardal dros y byd ac edrychwn ymlaen efallai i Gareth Bale a gweddill carfan Cymru ymweld â’r Bale ryw ddydd.”
Mae’r Cyfnod wedi dechrau tudalen Facebook arbennig ar gyfer yr ymgyrch ac yn annog pobol i anfon hun-luniau gyda’r arwyddion newydd.
Meddai Mari: “Mae tudalen arbennig wedi ei neilltuo i’r stori a chyfrif Instagram hefyd. Plîs - rhannwch eich storiau a’ch lluniau - mae’n bwysig ein bod ni’n cadw cofnod cyflawn o’r wythnos aeth y byd yn boncyrs am Bale!”
#BalaBale ar Twitter
Facebook: facebook.com/Bala11Bale
Instagram: www.instagram.com/bala11bale