Mwy o Newyddion
Cannoedd yn cerdded i gopa'r Wyddfa gyda Mike Peters
Ymunodd dros bedwar cant o bobl â’r seren roc Mike Peters i gerdded i gopa’r Wyddfa ddydd Sadwrn.
Eleni roedd Mike a’r trefnwyr yn dathlu deng mlwyddiant y daith gerdded noddedig hon, sydd wedi datblygu a thyfu bob blwyddyn.
Mae’r arian a godir o’r daith eleni yn mynd tuag at ymgyrch gofal canser ‘Wrth Dy Ochr’ a drefnir gan yr elusen Awyr Las, sy’n gweithio i sicrhau gofal iechyd gwell yng ngogledd Cymru.
Eleni roedd cerddwyr yn gallu dewis cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia hefyd drwy godi arian at Ward Glaslyn Ysbyty Gwynedd a/neu Ysbyty Cefni ar Ynys Môn.
Yn ogystal, roedd dau drên llawn yn cludo cleifion canser, pobl â dementia a’u gofalwyr i gopa’r Wyddfa er mwyn cymryd rhan yn y digwyddiad a mwynhau gig gan Mike a cherddorion eraill.
Yn ei anerchiad i’r cerddwyr y tu allan i Gaffi Penceunant yn y bore, soniodd Mike am ei ddyled i wasanaethau canser ysbytai gogledd Cymru a’i awydd i gefnogi gwaith caled y staff meddygol yno.
“Dwi wedi cael gofal ardderchog gan y GIG,” meddai. “Erbyn hyn dwi’n cymryd tabledi cemotherapi ar gyfer fy leukaemia o dan ofal meddygon a staff meddygol rhagorol. Dwi wir yn ddiolchgar iddyn nhw.”
Roedd sawl wyneb cyfarwydd wedi ymuno â Mike ar gyfer y daith gerdded eleni, gan gynnwys cyflwynwyr rhagolygon tywydd y BBC, Derek Brockway a Sue Charles, cyn-gapten tîm pêl-droed Cymru, Barry Horne a chyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Rupert Moon.
Yn ei anerchiad ef, diolchodd Barry Horne i’r holl gerddwyr am gymryd rhan yn ‘Snowdon Rocks’ 2016, a soniodd am y ffaith ei fod wedi rhedeg marathon Llundain eleni er budd yr elusen.
Cyflwynodd Mike unigoyn arall sydd wedi codi miloedd o bunnoedd at ei elusen ganser, Love Hope Strength, sef Lydia Franklin. Mae Lydia wedi cwblhau sawl taith seiclo noddedig dros y blynyddoedd, gan gynnwys taith hir iawn yn Seland Newydd yn gynharach eleni.
Yn unol ag addewid Derek a Sue yn y bore, roedd y tywydd yn sych ac yn braf ar gyfer y daith gerdded i gopa’r Wyddfa eleni, er bod cymylau isel tua’r copa.
Perfformiodd Mike ganeuon acwstig cyn y daith, hanner ffordd i fyny ac eto ar y copa, ac roedd cerddorion eraill fel Chris Summerill a gitarydd The Alarm, James Stevenson, yn perfformio hefyd.
Cafodd pawb ddiwrnod ardderchog ar y mynydd, ac i gloi’r digwyddiad gyda’r nos bu Mike a cherddorion eraill yn perfformio yng ngwesty’r ‘Heights’ yn Llanberis.
Heb os, roedd hwn yn ddiwrnod ardderchog i godi arian at achos teilwng iawn sy’n agos iawn at galon Mike Peters.
Llun: James Stevenson, Mike Peters a Chris Summerill yn perfformio ar y mynydd