Mwy o Newyddion
Esgobion Cymru’n pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd - mewnfudwyr yn cael eu ‘pardduo’
Mae mewnfudwyr yn cael eu ‘pardduo’ yn y ddadl ynglŷn â’r Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd. Dyna rybudd rhai o arweinwyr yr eglwys, wrth gyhoeddi eu bwriad i bleidleisio dros aros.
Mewn datganiad ar y cyd i’r wasg, dywed holl esgobion yr Eglwys yng Nghymru eu bod yn poeni bod y ddadl ‘synhwyrol’ ar fewnfudo yn cael ei boddi gan iaith ofn.
Maent hefyd yn gofidio bod y ddadl hyd yma wedi canolbwyntio ar y gost economaidd i’r Deyrnas Gyfunol o fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, yn hytrach nag ar fuddiannau heddwch a chyd-gyfnewid diwylliannol.
Hwn, meddent, fydd y penderfyniad mwyaf mewn cenhedlaeth, ac maent yn annog pobl i beidio â’i wneud yn fyrbwyll.
Arwyddwyd y datganiad isod gan: Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan; Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Davies; Esgob Tyddewi, Wyn Evans; Esgob Bangor, Andy John; Esgob Llanelwy, Dr Gregory Cameron; ac Esgob Mynwy, Richard Pain.
DATGANIAD MAINC YR ESGOBION
"Yn refferendwm yr wythnos nesaf ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, bydd pobl Prydain yn gwneud penderfyniad a gaiff effaith ddofn ar fywyd a ffyniant y Deyrnas Gyfunol am flynyddoedd a hyd yn oed ddegawdau i ddod. Mae’n fwy na thebyg mai dyma’r penderfyniad pwysicaf mewn cenhedlaeth, ac ni ddylid felly ei wneud yn ysgafn nac yn fyrbwyll, ond yn dilyn ystyriaeth fanwl.
"Mae’n fater o bryder mawr i ni y gosodir y ddadl yn aml yn iaith emosiynol ofn. Nodwn yn arbennig y defnyddir pwnc cynhennus mewnfudo, a’r pardduo ar fewnfudwyr, mewn modd sy’n peryglu dadl synhwyrol ar y mater. Mae hyn yn anwybyddu’r ffaith i fewnfudo fod o fudd i’r wlad, ac mai canran fechan iawn o’r boblogaeth yw mewnfudwyr o hyd.
"Bu tuedd hefyd i’r ddadl ganolbwyntio ar gyfrifiad economaidd moel o’r hyn a delir i’r Undeb Ewropeaidd, heb fesur y buddiannau o heddwch, partneriaeth economaidd a chyd-gyfnewid diwylliannol sy’n deillio o aelodaeth Prydain o Ewrop.
"Ar sail eu myfyrdodau personol, cytunodd yr esgobion, sy’n cyfarfod yn Nhyddewi yr wythnos hon, eu bod yn hapus i wneud yn hysbys y byddant yn pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd."