Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Mehefin 2016

Mae angen mwy o roddwyr organau byw ar Gymru

Ar hyn o bryd mae 191 o bobl yng Nghymru sy’n disgwyl cael trawsblaniad arennau, ac mae’r nifer yn cynyddu.

Arennau yw’r organau a roddir yn fwyaf aml gan roddwr byw.

Trawsblaniad llwyddiannus gan roddwr byw yw’r driniaeth orau ar gyfer pobl sy’n dioddef o glefyd yr arennau.

Mae prinder o organau sydd ar gael i’w trawsblannu o hyd, a bydd gormod o bobl Cymru’n marw heb fod angen oherwydd nad oes digon o roddwyr yn cynnig eu hunain.

Dim ond un ffordd o gynyddu’r niferoedd o arennau sydd ar gael i’w trawsblannu yw rhoi byw.

Mae rhoi aren er mwyn gwella neu hyd yn oed achub bywyd rhywun arall yn beth anhygoel i’w wneud, fel yr esbonia Hollie Bailey, 24, o Gaerffili, sy’n glaf gafodd drawsblaniadau arennau: “Cefais fy ngeni ag arennau oedd yn llai na’r cyffredin, a arweiniodd at fethiant arennol llwyr erbyn mod i’n 13 oed, ac fe ges i fy nhrawsblaniad cyntaf yn 2006.

"Dirywiodd fy iechyd eto yn 2014 ac roedd angen ail drawsblaniad aren arna i yn 23 oed.

"Mae byw gyda methiant arennau, wrth aros i organ addas fod ar gael i’w thrawsblannu yn her, a dweud y lleiaf!

"Pedair awr y dydd ar beiriant dialysis, dridiau bob wythnos am flwyddyn, ac roeddwn i wedi fy llethu’n llwyr, ac yn ei dro, fe gafodd hynny effaith ofnadwy ar fy ngallu i weithio.

"Roedd hi’n gymaint o ryddhad pan wnaethon ni ddarganfod fod fy llystad yn gymar rhoddwr aren byw addas.

“Fe ges i’r ail drawsblaniad aren ym mis Rhagfyr 2015 a dyna’r anrheg Nadolig orau erioed!

"Mae fy llystad yn byw bywyd hollol normal ag un aren ac rydw i wedi adfer fy iechyd yn llwyr, yn gweithio’n llawn amser ac yn mwynhau bywyd i’r eithaf.

"Dwi hyd yn oed yn gobeithio rhedeg ras 10k Caerdydd ym mis Medi i godi arian ar gyfer elusen Aren Cymru.”

Esbonia Dr Chris Jones, Prif Swyddog Meddygol Gweithredol Llywodraeth Cymru: “Rhywun sy’n rhoi un o’u harennau iach nhw i rywun y mae’u harennau wedi stopio gweithio ac sydd angen trawsblaniad yw rhoddwr aren byw.

"Gallai hyn fod yn ffrind neu’n aelod o’r teulu neu’n rhywun nad ydyn nhw’n ei adnabod o gwbl.

"Gall person iach fyw bywyd hollol normal ag un aren sy’n gweithio ac mae’r math hwn o drawsblaniad yn llwyddo’n aml iawn o ran yr un sy’n derbyn yr aren.”

Gall pobl iach sydd eisiau helpu rhywun annwyl iddyn nhw, neu ddieithryn sy’n dioddef o glefyd yr arennau hefyd wirfoddoli i roi aren fel rhoddwr byw.

Bydd angen mynd drwy gyfres o brofion meddygol gyntaf i weld a ydych chi’n addas i fod yn rhoddwr organau byw.

Fel arfer mae rhoddwr yn berthynas agos i’r derbyniwr, megis aelod o deulu, partner neu ffrind da.

Serch hynny, fe all pobl sydd ddim yn adnabod neb sy’n dioddef o glefyd yr arennau, ond sy’n dymuno rhoi, ddarparu aren ar gyfer rhywun ar y rhestr drawsblannu. Yr enw am bobl fel hyn yw rhoddwyr allgarol anghyfeiriedig.

I gael rhagor o wybodaeth am roi organnau a rhoi byw:

Ewch i www.organdonationwales.org

Neu ffoniwch 0300 123 23 23.

Llun: Rob a Hollie Bailey o Gaerffili

Rhannu |