Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Mehefin 2016

Mynediad am ddim i safleoedd Cadw wrth i’n tîm pêl-droed roi Cymru ar y map yn Ewro 2016

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi mynediad am ddim i bob un o safleoedd Cadw sy’n cael eu rheoli’n uniongyrchol a hynny ddydd Sul 26 Mehefin.  Mae hyn i ddathlu’r ffaith bod tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd yr 16 olaf yn Nhwrnamaint Pêl-droed Ewro 2016.

Yn dilyn buddugoliaeth ragorol Cymru neithiwr ble y gwnaethon nhw guro Rwsia 3-0 a hefyd y ffaith eu bod nawr ar frig eu grŵp, dywedodd Ken Skates:  “Llwyddodd y tîm i ennill eu lle yn Ewro 2016; roedd y grŵp hwn o chwaraewyr yn iawn i gredu mai dim ond dechrau’r daith fyddai hynny.

“Mae popeth, o’r ffordd y mae’r cefnogwyr wedi bod yn ymddwyn i berfformiad Cymru ar y cae wedi cael gafael yng nghalon ac enaid pob un o ddinasyddion Cymru; mae wedi helpu i ddangos i weddill y byd y pethau rhagorol y mae Cymru’n gallu eu cyflawni.”

Yn gynharach y mis hwn, dywedodd Ken Skates, sydd hefyd yn gyfrifol am Ddigwyddiadau Pwysig a Chwaraeon Elitaidd yng Nghymru, y byddai’n hapus iawn i gynnig mynediad am ddim i gestyll a henebion Cadw ar 26 Mehefin os byddai’r tîm yn cyrraedd yr 16 olaf.

Yn dilyn canlyniad neithiwr dywedodd:  “Rydym wedi aros 58 mlynedd am hyn; mae yn bendant wedi bod yn werth aros amdano.

“Heb amheuaeth, dyma yw uchafbwynt ein Blwyddyn Antur hyd yma a gobeithio y bydd ein llwyddiannau’n parhau.  Rwy’n falch iawn o allu cadarnhau y bydd nid yn unig ein cestyll yn parhau i gael eu goleuo’n goch, ond hefyd, y Sul hwn, bydd mynediad am ddim ar gael i safleoedd Cadw sy’n cael eu rheoli’n uniongyrchol.

“Rwy’n gobeithio y bydd pobl Cymru yn manteisio ar y cyfle hwn ac yn mwynhau diwrnod llawn hwyl, gwybodaeth a boddhad ac ar yr un pryd, yn helpu i ddathlu llwyddiant ein tîm pêl-droed cenedlaethol.”

Ledled Cymru, mae yna ddewis o dros 130 o safleoedd i ymweld â hwy.  Mae rhagor o wybodaeth am bob un o gestyll a safleoedd Cadw ar gael ar eu gwefan:  http://cadw.gov.wales  

Mae 24 o safleoedd Cadw yng Nghymru yn cael eu rheoli’n uniongyrchol sy’n cynnig y cais arbennig hwn:

Castell Biwmares

Castell Caernarfon

Castell Conwy

Castell Harlech

Castell Criccieth

Tŷ Tref Oes Elizabeth Plas Mawr

Castell Dinbych

Castell Rhuddlan

Capel y Rhug

Abaty Glyn y Groes

Castell Cilgerran

Castell Cydweli

Castell Talacharn

Castell Oxwich

Palas Esgob Tŷ Ddewi

Abaty Ystrad Fflur

Castell Caerffili

Castell Coch

Castell Cas-gwent

Castell Rhaglan

Abaty Tyndyrn

Llys a Chastell Tre-tŵr

Gweithfeydd Dur Blaenafon *

Baddondai Rhufeinig Caerllion *

* Mae hi eisoes yn bosib cael mynediad am ddim i Faddonau Rhufeinig Caerllion a Gweithfeydd Dur Blaenafon felly, er eu bod hwy wedi cael eu cynnwys ar y rhestr hon, nid yw mynediad am ddim yn gyfyngedig i 26 Mehefin yn unig.

Rhannu |