Mwy o Newyddion
Sian Gwenllian AC - Fedra i ddim cuddio fy siom heddiw yn sgil canlyniad y Refferendwm
Mae Aelod Cynulliad Arfon, Sian Gwenllian, wedi dweud bod y 75% o bobol ifanc wnaeth bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd angen ein cefnogaeth ni heddiw.
Meddai: "Fedra i ddim cuddio fy siom heddiw yn sgil canlyniad y Refferendwm.
"Roeddwn wedi gobeithio fod newid wedi digwydd i'r farn gyhoeddus yn wythnos olaf yr ymgyrch - ond yn anffodus, roeddwn yn anghywir.
"Dwi'n drist ein bod wedi siomi ein pobol ifanc ond yn cymryd cysur o'u ffydd nhw yn y dyfodol.
"Mae'r 75% o bobol ifanc wnaeth bleidleisio i aros angen ein cefnogaeth ni heddiw,
"Roedd y canlyniad yng Ngwynedd yn galonogol hefyd - a'r ffaith fod Arfon yn gryf iawn o blaid aros ( 65%+.) heb sôn am y canlyniad yn yr Alban.
Ond does dim dwywaith fod hyn yn newyddion trychinebus i economi Cymru a'r bobl fwyaf bregus fydd ar eu colled.
"Byddaf yn gweithio yn ddiflino i ganfod atebion ymarferol i warchod ein economi yn Arfon.
"Bydd Plaid Cymru yn sefyll yn unedig dros ein cenedl - yn gryf a di-sigl yn ein ffydd yn ein gwlad a'i phobol.
"Camgymeriad tactegol anferth Cameron sydd wedi arwain at y sefyllfa yma.
"Mae diffyg arweiniad enbyd Llafur o dan Corbyn wedi chwarae i ddwylo Brexit.
"Bydd Plaid Cymru yn parhau i weithio'n angerddol dros ein gwlad a'i phobol."