Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Mehefin 2016

Catrin Stewart yn derbyn y wobr am y perfformiad gorau yn Ngwyl Ffilm Ryngwladol Caeredin

Catrin Stewart sydd wedi derbyn y wobr am y perfformiad gorau yn Ngwyl Ffilm Ryngwladol Caeredin am ffilm Gymraeg a leolir yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae Y Llyfrgell wedi ei seilio ar nofel Fflur Dafydd o’r un enw ac wedi ei chyfarwyddo gan Euros Lyn, ei ffilm hir gyntaf.

Caiff y wobr ei rhoi am y perfformiad gorau mewn ffilm hir Brydeinig ac roedd y rheithgor eleni yn cynnwys y sêr rhyngwladol Kim Cattrall, Clancy Brown ac Iciar Bollain. Yn ôl y tri roeddent yn teimlo fod perfformiad Catrin yn haeddu canmoliaeth uchel,

“Roedden ni am gydnabod perfformiad gwych Catrin Stewart yn Y Llyfrgell. Mae’r cymhlethdod a’r cynildeb angenrheidiol i chwarae cymeriadau sydd yn efeilliaid yn heriol a llwyddodd i gyflawni hyn a chyflwyno’r ddwy rôl mewn modd unigryw.” 

Cafodd y ffilm ei dangosiad cyntaf yn Ngwyl Ffilm Ryngwladol Caeredin a derbyniodd adolygiadau gwych. Caiff ei dangos y tro cyntaf yng Nghymru mewn digwyddiad arbennig yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Fenni ym mis Awst. 

Yn y ffilm “thriller” hon mae Catrin, sy’n adnabyddus i lawer yn sgil ei pherfformiadau yn Dr Who and Stella, yn chwarae’r efeilliaid Nan and Ana, sy’n awyddus i ddial ar lofrudd ei mam yn ystod un noson gythryblus yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Mae Catrin ar hyn o bryd yn rhan o gynhyrchiad y West End o waith George Orwell, 1984, ac roedd wrth ei bodd gyda’r newyddion.

Meddai: “Diolch Caeredin! Mae cael y wobr hon yn anrhydedd enfawr. Dyma fy ffilm hir gyntaf ac roedd yn her wych i gael chwarae dau gymeriad ochr yn ochr.

"Roedd yn gret cael gweithio gydag Euros Lyn ac roedd sgript Fflur Dafydd mor gyffrous.

"I fi’n bersonol roedd yn arbennig iawn i allu gwneud ffilm yn y Gymraeg, ac rwy’n ofnadwy o falch o’r hyn sydd wedi ei greu. Diolch yn fawr!”

Dyma’r tro cyntaf i berfformiad yn yr iaith Gymraeg gael ei wobrwyo a chred yr awdur Fflur Dafydd fod hyn yn adlewyrchu’r hyder cynyddol yn y sector greadigol yma yng Nghymru.

Eglurodd: “Wedi sgwennu’r llyfr yn wreiddiol ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol doedd dim amheuaeth mai Cymraeg fyddai’r ffilm hefyd.

"Mae llwyddiant Catrin yn profi y gall unrhyw waith creadigol, os yw o safon uchel, groesi ffiniau ieithyddol.

"Ar ran pawb sydd ynghlwm â’r gwaith hoffwn longyfarch Catrin ar ei gwobr – mae’n dalent prin ac yn llawn haeddu’r clod.”

Caiff y ffilm ei dangos yn sinema’r Fenni ar nos Lun, 1 Awst, ac mae tocynnau ar werth drwy swyddfa docynnau’r Eisteddfod Genedlaethol.

Yn dilyn yr Eisteddfod caiff y ffilm ei dangos yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth, Canolfan Chapter, Caerdydd a Chanolfan Gelfyddydol Pontio, Bangor (5-11 Awst) a chaiff lleoliadau eraill ar draws Cymru eu cyhoeddi’n fuan. 

Hon yw’r drydedd ffilm i gael ei gwneud gan Cinematic, cynllun talent newydd Ffilm Cymru Wales. Dyfeisiwyd a datblygwyd Cinematic mewn partneriaeth â’r BFI Film Fund, BBC Films, Creative Skillset, Edicis, a Soda Pictures ac S4C.

Mae’r cynllun hwn yn cefnogi talent creu ffilmiau newydd yng Nghymru, gyda’r bwriad o greu cynhyrchiadau cyfoes, deinamig ac arloesol a dyma’r cyntaf i gael ei ffilmio yn yr iaith Gymraeg.  Soda Pictures sydd â’r hawliau dosbarthu yn y DG ac Iwerddon, ac S4C fydd yn gyfrifol am ei darlledu rywdro yn y dyfodol. 

Llun: Catrin Stewart yn Y Llyfrgell (Llun gan Warren Orchard)

Rhannu |