Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Mehefin 2016

Plant Cymru yn gweld hysbysebion alcohol bob 72 eiliad yn ystod Euro 2016

Wrth i bencampwriaeth Euro 2016 ddechrau poethi yn Ffrainc, mae ymchwil newydd yn datguddio bod y rhai ohonom sy’n gwylio’r gemau yng Nghymru wedi gweld marchnata alcohol unwaith bron i bob munud.

Yn ôl yr ymchwil, a lansiwyd heddiw gan yr elusen Alcohol Concern, yn ystod darllediadau teledu a gwe o bum gêm Cymru a Lloegr yng Ngrŵp B, roedd byrddau hysbysebu un o noddwyr y gystadleuaeth, y bragwr Carlsberg, i’w gweld ar ochrau’r cae cyfanswm o 392 o weithiau – ychydig mwy na 78 gwaith ymhob gêm ar gyfartaledd, neu unwaith pob 72 eiliad.

Roedd hynny’n cynnwys yr ornest fawr rhwng Cymru a Lloegr ar 16 Mehefin, gêm a ddenodd gynulleidfa o fwy na 11 miliwn o bobl ar y BBC ac S4C. Mae’n sicr bod cryn nifer o’r rhain o dan 18 oed, o gofio i ysgolion cynradd ac uwchradd led-led Cymru drefnu’n arbennig i ddisgyblion wylio’r gêm.

Dywedodd Andrew Misell, Cyfarwyddwr Alcohol Concern Cymru: “Mae llond y lle o farchnata alcohol o gwmpas pêl-droed, ac mae’r ymchwil yma’n dangos bod cwmnïau alcohol yn barod i wneud cryn ymdrech i roi eu brandiau o dan ein trwynau, hyd yn oed pan mae deddf gwlad yn dweud wrthyn nhw am beidio.

“Mae rheolau llym Ffrainc ar hysbysebu alcohol –  y Loi Évin – yn gwahardd nawdd i chwaraeon gan gwmnïau alcohol a hefyd hysbysebu alcohol ar y teledu.

"Llwyddodd Carlsberg i gamu heibio i’r ddeddf trwy roi un o’i sloganau poblogaidd ar hysbysfyrddau ochrau’r cae yn ffont adnabyddus y cwmni, yn lle enw’r cwrw ei hunan.

"Felly, pan eisteddodd plant yn neuaddau ysgolion Cymru ar gyfer y gêm fawr, cawson nhw brynhawn llawn dop o hysbysebion alcohol.

“Gwyddon ni o ymchwil wnaethon ni o’r blaen fod plant mor ifanc â 10 oed yn adnabod y prif frandiau alcohol yn well na rhai mathau o gacenni a chreision, ac bod llawer o blant yn cysylltu brandiau cwrw penodol â thimau pêl-droed mawr.

“Mae marchnata alcohol yn denu pobl i yfed, yn enwedig y rhai dan 18 oed. O ystyried apêl anferth pêl-droed i blant, mae’r hen bryd tynhau’r rheolau a chicio hysbysebu a nawdd alcohol allan o’r gêm.” 

Rhannu |