Mwy o Newyddion
Cyn-smygwr am 45 mlynedd yn gobeithio ysbrydoli trigolion Aberystwyth i roi'r gorau iddi
Mae un smygwr o Aberystwyth sydd wedi llwyddo i roi'r gorau i'w ddibyniaeth pedwar degawd i sigaréts gyda chymorth gan Dim Smygu Cymru yn galw ar drigolion lleol i sicrhau eu dyfodol di-fwg eu hunain.
Ag yntau wedi dechrau smygu pan oedd yn 14 oed yn unig, mae Geoffrey Evans, 59, o Aberystwyth, wedi llwyddo i beidio â smygu sigarét ers mis Mawrth eleni, ac mae'n gobeithio y bydd y newid er gwell yn ei iechyd ers rhoi'r gorau iddi yn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Yn dilyn trawiad difrifol ar y galon, penderfynodd Geoff ei bod hi'n bryd iddo roi'r gorau i'r arfer unwaith ac am byth, a diolch i gymorth Dim Smygu Cymru, nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny.
Yn ystod ei 45 mlynedd fel smygwr, drwy fod yn gaeth i 20 i 30 y dydd smygodd Geoff dros 300,000 o sigaréts. Ers rhoi'r gorau iddi ym mis Mawrth, mae Geoff wedi arbed tua £600 – cyfraniad sylweddol tuag at ei ymddeoliad.
Mae smygwr 20 y dydd arferol yn gwario £56 yr wythnos, £243 y mis a'r swm enfawr o £2920 ar sigaréts mewn blwyddyn. Ac eithrio arbedion ariannol, mae rhoi'r gorau i smygu hefyd yn sicrhau manteision uniongyrchol i'r iechyd.
O fewn 24 awr i roi'r gorau i smygu, mae Carbon Monocsid yn cael ei waredu o'r corff ac mae'r ysgyfaint yn dechrau clirio gweddillion smygu; ac o fewn 72 awr, daw anadlu'n haws wrth i'r tiwbiau bronciol ddechrau ymlacio ac mae lefelau egni'n cynyddu.
Wrth siarad am ei daith, dywedodd Geoff: “Roedd fy meddyg wedi fy annog i roi'r gorau i smygu ers imi gael trawiad ar y galon, a chefais fy atgyfeirio i Dim Smygu Cymru. Ffoniodd y gwasanaeth fi a'm gwahodd i sesiwn grŵp yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a dwi heb edrych yn ôl ers hynny.
“I ddechrau defnyddiais glytiau a chymorth ymddygiadol i'm helpu i roi'r gorau iddi, ond nid oes eu hangen arnaf mwyach. Rwy'n dal i ddefnyddio ymanadlwr yn achlysurol, ond mae'r rhan waethaf yn sicr drosodd. Nid yw'n werth cael sigarét nawr, o ystyried yr holl waith caled mae fy llawfeddyg a gweithwyr iechyd proffesiynol amrywiol wedi'i neilltuo i'm hiechyd.
“Ar y cyfan, rwyf hefyd yn rhyfeddu mor hawdd oedd rhoi'r gorau i sigaréts. Roeddwn yn credu y byddai rhoi'r gorau iddi ar ôl 45 mlynedd yn anodd iawn, ond nid wyf wedi smygu ers mynd i'm sesiwn grŵp gyntaf. Mae'r cymorth emosiynol ac ymarferol a ddarparwyd gan y gwasanaeth wedi bod yn wych.”
Ers iddo gael trawiad ar y galon, mae Geoff hefyd wedi profi COPD (clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint) a phroblemau gyda'i gefn, gan ei gwneud yn bwysicach nag erioed ei fod yn rhoi'r gorau i smygu a chynyddu ei symudedd.
Mae Dim Smygu Cymru yn gobeithio y bydd stori Geoff yn annog smygwyr eraill yng Ngheredigion i geisio cymorth am ddim gan y GIG i roi'r gorau i smygu. Mae smygwyr bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi gyda chymorth Dim Smygu Cymru yn hytrach na cheisio rhoi'r gorau iddi ar eu pen eu hunain.
Dywedodd Susan O'Rourke, Uwch Arbenigwr Rhoi'r Gorau Iddi Dim Smygu Cymru yng Nghaerfyrddin: “Mae stori Geoff yn profi nad yw byth yn rhy hwyr i roi'r gorau i smygu. Hyd yn oed os ydych wedi smygu 25 y dydd am 40 mlynedd a mwy ac wedi cael problemau iechyd difrifol, mae bob amser yn bosibl trechu'r arfer ofnadwy hwn.
“Mae llawer o bobl sy'n dechrau smygu pan maent yn ifanc ac yn parhau i wneud hyn drwy gydol eu bywyd fel oedolyn yn aml yn derbyn bod eu harfer yn rhywbeth na fydd byth yn newid. Fel y mae Geoff wedi dangos, nid yw byth yn rhy hwyr i newid eich arferion iechyd ac mae manteision rhoi'r gorau iddi i'w gweld o fewn dyddiau ac wythnosau i roi'r gorau i sigaréts.”
Mae Dim Smygu Cymru yn cynorthwyo'r rhai sy'n rhoi'r gorau iddi yng Nghymru drwy sesiynau wyneb yn wyneb a gwasanaeth dros y ffôn. Mae'r gwasanaeth yn cynnal sesiynau wythnosol ar draws y rhanbarth a gall pobl sydd â diddordeb mewn cael cymorth am ddim fynd i dimsmygucymru.com neu ffonio 0800 085 2219 i gofrestru.