Mwy o Newyddion
Mynediad i’r farchnad sengl yn hollbwysig i swyddi Cymreig
Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi amlygu pwysigrwydd mynediad i’r Farchnad Sengl Ewropeaidd i’r economi Gymreig, gan gyfeirio at ffigyrau sy’n dangos fod 200,000 o swyddi Cymreig yn gysylltiedig â’r UE.
Dywedodd Leanne Wood y byddai parhad aelodaeth y DG o’r Undeb Ewropeaidd yn hwyluso twf economaidd Cymreig yn y dyfodol, gan ychwanegu mai pleidlais i Aros ddydd Iau sy’n “gwneud synnwyr economaidd” i Gymru.
Dywedodd Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru: “Gwyddom fod bron i 200,000 o swyddi yng Nghymru – bron un ym mhob chwech – yn rhan o’r Farchnad Sengl Ewropeaidd o tua 500 miliwn o bobl ledled y cyfandir.
“Golyga hyn, os ystyriwch eich teulu a’ch ffrindiau, byddwch yn sylweddoli fod nifer ohonynt yn gweithio i gwmni sydd unai yn mewnforio neu allforio nwyddau neu wasanaethau o gwmpas Ewrop, yn cynnwys nifer o bethau yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol, o geir i fwyd archfarchnad.
“Byddai’n anghywir dweud y byddai’r swyddi hyn yn diflannu pe bai Cymru’n pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond yn sicr byddai risg am na wyddom pa mor anodd fyddai’r broses ail-negodi neu a fyddai gwledydd yr UE yn ei gwneud hi’n anoddach i gystadlu gyda eu cynnyrch eu hunain o ganlyniad.
“Byddai unrhyw golli swyddi o ganlyniad i hyn yn cael effaith negyddol pellach ar ein heconomi a’n cymunedau lleol.
“Byddai hefyd cost o ran cyfle fyddai’n golygu nad ydym yn creu cynifer o swyddi yn y dyfodol am fod posib y byddai hi’n anoddach i ni fewnforio neu allforio i weddill yr UE, gan gynnwys ein cymdogion agosaf megis Gweriniaeth Iwerddon.
“Mae Plaid Cymru’n cefnogi pleidlais i Aros fel yr opsiwn sy’n gwneud synnwyr economaidd i Gymru. Rydym yn elwa o’n haelodaeth o’r Farchnad Sengl Ewropeaidd a chredwn fod y gallu i werthu ein nwyddau iddi yn gwasanaethu buddiannau cenedlaethol Cymru.”