Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Mehefin 2016

Lansio ymgyrch ym Mhen Llŷn i ddelio â beicwyr môr anghyfrifol

Bydd Ymgyrch Neifion yn cael ei lansio ym Mhen Llŷn heddiw er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gysylltu â’r awdurdodau os ydynt yn amau fod rhywun yn aflonyddu bywyd gwyllt y môr a thorri Côd Ymddygiad Morwrol.

Yn ymuno ag Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts bydd Rob Taylor o Uned Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru ynghyd â’r Cynghorydd lleol R H Wyn Williams, Catrin Glyn o Gyngor Gwynedd a defnyddiwr beic môr yn Abersoch i lansio’r ymgyrch cyn tymor yr haf. 

Lansiwyd Ymgyrch Neifion yn dilyn adroddiadau fod beicwyr môr yn aflonyddu a phoeni ddolffiniaid oddi ar arfordir Abersoch a Thywyn yn gynharach eleni. 

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Rwy’n falch o weithio ar y cyd âg Adran Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru a’r gymuned leol yn Abersoch er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r mater pwysig yma.

“Mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr beiciau môr a chychod yn cydymffurfio â rheolau y Côd Ymddygiad Morwrol ond mae’r rhai sy’n fwriadol aflonyddu a phoeni bywyd gwyllt y môr angen eu dwyn i gyfrif.

“Yn ddiweddar mae sawl adroddiad wedi bod o ddefnyddwyr beiciau môr yn aflonyddu ddolffiniaid oddi ar arfordir gogledd Cymru.

"Yr hyn sy’n amlwg yw fod y cyhoedd yn barod iawn i adrodd hyn i’r awdurdodau ond mae peth dryswch ynglŷn â sut a phwy i’w hysbysu.

“Bwriad yr ymgyrch yma yw hyrwyddo defnydd cyfrifol o gychod a beiciau môr a darparu’r cyhoedd â’r wybodaeth briodol er mwyn hysbysu’r awdurdodau o unrhyw weithred anghyfreithlon.

“Hyderaf bydd pawb sy’n dewis treulio’r haf ar ein harfordir godidog yn ymgyfarwyddo âg Ymgyrch Neifion fel bod ein amgylchedd morol yn derbyn y parch sy’n ddyledus iddi.”   

Dywedodd y Rhingyll Rob Taylor: “Mae arfordir gogledd Cymru yn cynnal cynefinoedd a bywyd gwyllt pwysig, felly rydym yn annog perchnogion cychod a beicwyr môr i barchu’r amgylchedd yma bob tro.

“Heddiw rydym yn lansio Ymgyrch Neifion i hyrwyddo ymddygiad cyfrifol ar ein arfordir. Bydd Ymgyrch Neifion yn weithredol trwy gydol yr haf.”

Ychwanegodd y Cynghorydd R H Wyn Williams: “Mae'r bae yma yn Abersoch yn lle prysur iawn gyda sawl math o gychod a nofwyr.

“Mae’n hynod o bwysig fod pawb sy’n defnyddio'r Bae yn ymwybodol o'r rheolau ac mae sawl pamffled a'r gael.” 

Rhannu |