Mwy o Newyddion
Galw ar y Grid Cenedlaethol i gadw etholaeth Arfon yn rhydd o unrhyw beilonau newydd
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams a’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian yn galw ar y Grid Cenedlaethol i gadw etholaeth Arfon yn rhydd o unrhyw beilonau newydd, wrth i’r cwmni gyflwyno cynllun i gysylltu cebl tanfor o dan y Fenai ag is-orsaf newydd ym Mhentir.
Mae Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AC, a fu’n arwain yr ymgyrch i warchod y Fenai rhag cynllun i godi coridor o beilonau, eisiau gweld y llwybr 2 cilomedr sy’n weddill o Nant y Garth i Bentir yn cael ei danddaearu.
Dywedodd Hywel Williams AS: “Roedd sicrhau nad oedd peilonau yn cael eu gosod ar draws y Fenai yn fuddugoliaeth arwyddocaol i’r ymgyrch Dim Peilonau. Roedd gwrthwynebiad lleol chwyrn i gynigion y Grid ac roedd y penderfyniad terfynol a wnaed yn cydnabod yr egwyddor na ddylai peilonau fod y dewis cyntaf bob tro.
“Ond newid meddwl yn rhannol oedd yma gan y Grid wrth iddynt rwan gyflwyno cynllun i godi peilonau hyd at Is-orsaf newydd ym Mhentir.
“Rwy'n annog y Grid Cenedlaethol i ystyried yn ofalus iawn rhinweddau tanddaearu y 2 cilometr olaf y cysylltiad rhwng y Fenai a Phentir, fel y gallwn gadw Arfon yn rhydd o unrhyw ddatblygiad peilonau newydd."
Dywedodd Siân Gwenllian AC: “Mae'r Grid Cenedlaethol bellach wedi cadarnhau na fydd yna unrhyw geblau na pheilonau dros Afon Menai a Pharc y Faenol, sy'n newyddion gwych ac yn rhywbeth y mae Hywel a minnau wedi bod ymgyrchu drosto ers peth amser.
“Fodd bynnag, mae'r Grid bellach yn bwriadu dod â'r ceblau tanddaearol i fyny i'r wyneb rhywle yng nghyffiniau Rhiw Nant Y Garth. Byddent wedyn yn codi llinell o beilonau i'r is- orsaf ym Mhentir.
“Byddai hyn ond tua 2 cilometr o hyd. Mae'n gwneud synnwyr i mi i danddaearu y darn olaf yma hefyd, gan sicrhau nad oes unrhyw beilonau newydd yn ardal Arfon i gyd.”