Mwy o Newyddion
Gwraig fentrus o Ddyffryn Clwyd yn buddsoddi mewn busnes gwledig arall
Deg mlynedd wedi i wraig fusnes sefydlu ei chwmni cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus ar ei fferm deuluol yn Henllan, Dinbych, mae hi wedi buddsoddi mewn busnes gwledig newydd.
Mae Ffion Clwyd Edwards, 40, sy'n byw ar fferm Tywysog gyda’i gŵr, Rhodri, yn awyddus i ddiogelu'r ffermdy 16eg ganrif teuluol ar y fferm ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Wedi ei magu ar fferm wartheg a defaid yn Nyffryn Conwy, dywedodd Ffion Clwyd: "Rydym yn ffodus o gael byw mewn lleoliad godidog yma yng ngogledd Cymru, ac mae’r teulu wedi gweithio'n galed dros y blynyddoedd i adnewyddu ffermdy hanesyddol o'i gyflwr adfeiliol truenus i fod yn eiddo gosgeiddig o safon uchel.
"Pan briododd Rhodri a minnau 14 mlynedd yn ôl, mi benderfynom adnewyddu'r hen granar ar fuarth Tywysog i fod yn gartref teuluol i ni. Cawsom help mawr gan y teulu a manteisio ar brofiad a chrefftwaith fy nhad-yng-nghyfraith o adnewyddu hen adeilad, gan ei fod eisoes wedi creu cartref teuluol hyfryd ar eu cyfer yn ffermdy Tywysog.
"Yn fuan wedi symud i'r granar a enwyd yn Llwyn Tywysog, i ddod â darn o dreftadaeth amaethyddol fy nghartref i, Llwyn Richard, Carmel, ger Llanrwst i Ddyffryn Clwyd - sefydlais fy nghwmni cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus, pi-ar. Y prif ysgogiad oedd sicrhau oriau gwaith mwy hyblyg o amgylch ein teulu ifanc, ac i fod wrth law i gynorthwyo yma, adref ar y fferm."
Roedd Ffion wedi gweithio yn y maes cyhoeddi a chysylltiadau cyhoeddus ers nifer o flynyddoedd, gan weithio fel golygydd gydag Urdd Gobaith Cymru cyn symud i weithio ym maes cyfathrebu gyda Heddlu Gogledd Cymru ac yna i NFU Cymru fel swyddog y wasg a cysylltiadau cyhoeddus dwyieithog.
"Mae pi-ar yn dathlu ei benblwydd yn ddeg oed eleni. Mae gen i swyddfa bwrpasol yn y granar lle dwi’n gweithio o ddydd i ddydd, gan gynorthwyo awdurdodau lleol, prosiectau Llywodraeth Cymru, sefydliadau ieuenctid, gwleidyddol, diwylliannol yn ogystal â'r sector tai gyda'u gwaith cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus dwyieithog.
"Dwi wedi bod yn ffodus o weithio gyda phobl dda a sefydliadau difyr, ac mae'r gwaith yn hynod amrywiol - does run diwrnod yr un fath. Mae hefyd yn fy ngalluogi i weithio oriau hyblyg i alluogi i mi gynorthwyo, yn fyr rybudd, adref ar y fferm yn ôl y galw."
Yr wythnos diwethaf, ffoniodd y contractwyr cneifio yn hwyr un noson i gadarnhau eu bod am fanteisio ar y tywydd da i ymweld â'r fferm i gneifio'r defaid y diwrnod canlynol.
"Mae ein meibion, Tomos, 13 a Brychan, 11 yn ddau ffarmwr brwd, felly roedd siom fawr o ddeall bod y cneifio i ddigwydd tra roeddent yn yr ysgol! Felly bu’n rhaid bwrw iddi a cynorthwyo Rhodri i hel y defaid o'r caeau i'r gorlan yn barod ar gyfer y cneifwyr, ac yna lapio’r cnu wrth i'r contractwyr gneifio’r gwlân oddi ar y mamogiaid.
"Ro’n i’n ffodus o allu tynnu cacen gartref o’r rhewgell yn barod iddynt gyda’r baned ar ôl gorffen y gwaith, arferiad allweddol a drosglwyddwyd i mi gan fy mam! Mae gwraig pob ffermwr yn gwybod y gallwch chi fod yn paratoi swper ar gyfer eich teulu eich hun, neu baratoi pryd i wyth ar amrantiad, yn ystod y cyfnodau prysur yn calendr amaethyddol! "
Mae'r teulu yn cadw diadell o famogiaid Llŷn wedi eu croesi â meheryn Suffolk a Charolais. Mae wyna yn digwydd dan do ganol mis Chwefror mewn sied fodern a adeiladwyd ar y fferm yn ddiweddar. Mae lloi Friesian yn cael eu magu â llaw yn Tywysog ac yna’n cael eu gwerthu yn syth ar ôl lloi. Yn y blynyddoedd diwethaf tarw potel a ddefnyddiwyd ar yr heffrod, ond yn ddiweddar buddsoddwyd mewn tarw Limousin newydd i redeg gyda'r heffrod yn y caeau.
Rai misoedd yn ôl prynwyd buches fechan o wartheg Duon Cymreig.
"Mae gennym wastad ddiddordeb mewn bridiau traddodiadol cynhenid, ac roedden ni’n chwilio am frîd rhwydd i’w lloiau a fyddai’n pori rhywfaint o eithin a grug ar ddarn o dir rydym yn ei rentu ym Modffari ond fyddai’n cynhyrchu cîg da. Mae rhai o'r gwartheg sugno eisoes wedi lloi ac mae’n hyfryd gweld lloia bach duon Cymreig wedi ymgynefino gyda’i mamau yn eu hamgylchedd naturiol," eglura Ffion.
Nôl adref yn Henllan, a chyda rhieni Rhodri bellach wedi ymddeol i fyngalo braf yn Ninbych, mae Tywysog yn symud yn nes at dymor prysura’r flwyddyn fel tŷ gwyliau o ansawdd ar osod i 10 o bobl ei fwynhau.
"Rydym wedi cael misoedd cychwynnol gwych, ac allwn ni ddim credu cymaint mae pobl yn fwynhau bod yma. Rydym yn tueddu i gymryd ein hamgylchedd yn gwbl ganiataol, ond wrth groesawu bobl ddiarth i aros yn y ffermdy, mae wedi agor ein llygaid i'r hyn sydd gennym yma ar garreg drws.
"Mae amrywiaeth o westeion wedi bod yma, rhai o ogledd orllewin Lloegr ac eraill yn teithio yn llawer pellach, gyda rhai yn ymweld o Lundain. Rydym wedi croesawu tair cenhedlaeth o'r un teulu i Tywysog, pum cwpl oedd yn dathlu penblwydd arbennig, yn ogystal â 10 o ferched a ddaeth i ddathlu penblwydd deugain oed. Cawsom grŵp arall o ddeg yn aros yn ddiweddar gan fod ganddynt briodas yn yr ardal.
"Gan ein bod ni’n byw yng nghanol cefn gwlad Dyffryn Clwyd, rydyn ni’n gweld llawer o fywyd gwyllt yma ar y fferm ac eleni mae un aderyn bach wedi creu nyth bach mewn pot blodyn sydd ar wal y drws cefn yn Tywysog.
"Fel roedd un grŵp yn gadael, trodd un o'r merched at Rhodri gyda golwg bryderus ar ei hwyneb a dweud: ‘Mae’n wir ddrwg gen i, wrth i mi ddyfrio’r blodyn, dwi’n meddwl mod i wedi boddi’r wyau oedd yn y nyth!’ Sicrhaodd Rhodri ei fod yn cadw wyneb syth wrth egluro i’r ymwelydd y byddai'r wyau wedi bod berffaith ddiogel yn y nyth. Mae’n addysg ymweld â ni yma hefyd,” chwarddodd Ffion Clwyd.
Ac wir i chi, deorodd pump o gywion bach hyfryd yn y nyth sy’n ffynnu wrth iddynt estyn croeso i ymwelwyr wrth ddrws cefn y tŷ gwyliau hardd yma yn Nyffryn Clwyd.
Lluniau:
Ffion Clwyd Edwards, 40, sy'n byw ar fferm Tywysog gyda’i gŵr, Rhodri (Llun Ceri Llwyd)
Yr olygfa wth gyrraedd tŷ gwyliau, Tywysog ger Dinbych (Llun Gorau o Gymru)
Cegin Cegin ffermdy traddodiadol Tywysog - llecyn hyfryd i hamddena dros bryd bwyd (Llun Gorau o Gymru)