Pêl-droed
O Sweden 1958 i Ffrainc 2015
Bosnia-Herzegovina 2 Cymru 0
Cymru 2 (Ramsey 50, Bale 86) Andorra 0
Do, cynhaliwyd Y PARTI MAWR ar lechweddau Lecwydd nos Fawrth i ddathlu claddu hunllef a barhaodd dros 57 mlynedd ers i’n tîm pêl droed cenedlaethol fod yn rhan o rowndiau terfynol Cwpan y Byd 1958 yn Sweden.
Mae sawl cenhedlaeth o ddilynwyr Cymreig y bêl gron wedi gorfod dioddef yr hunllef dros yr hanner canrif diwethaf heb unrhyw atgof o’r ymgyrch honno yn Llychlyn pan dorrodd crwt ifanc o’r enw Pelé ein calonnau.
PERTHNASOL: Ar ôl yr holl ddathlu, dyma stori pêl-droed Cymru
Dim ond brith gof sydd `da fi o’r ymgyrch pan oedd enwau John Charles, Ivor Allchurch, Cliff Jones ac eraill ar flaen ein tafodau’n feunyddiol yn yr un modd ag y mae enwau’r arwyr cyfoes ar flaen tafodau’r to ifanc o gefnogwyr Cymreig.
Gyda dwy, os nad tair, cenhedlaeth wedi gorfod byw heb weld ein tîm pêl droed yn cyrraedd uchelfan tebyg (dydy 1976 ddim yn cyfrif gan nad oedd gystadleuaeth yn un cyflawn tan yn hwyr iawn), y gobaith yw y bydd y garfan bresennol yn gallu cadw at eu trywydd llwyddiannus ac adeiladu ar hynny ar gyfer y dyfodol.
Yn sicr, bu cryn drafod dros y dyddiau diwethaf am y modd y dechreuodd John Toshack a Brian Flynn y gwaith o adeiladu fframwaith ar gyfer cadw’n tîm cenedlaethol yn mynd o nerth i nerth ar hyd y blynyddoedd.
 chlod haeddiannol yn cael ei dalu i’r diweddar Gary Speed hefyd, mae eu holynydd Chris Coleman yn haeddu canmoliaeth am barhau gyda’r un strwythur hyfforddi ac Osian Roberts a bellach Paul Trollope yn cynorthwyo i gadw’r safonau’n uchel.
Yn sgîl cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, prin fod neb yn gofidio am golli yn Zenica nos Sadwrn diwethaf nac am y methiant i sgorio mwy na dwy gôl yn erbyn corachod Andorra nos Fawrth.
Gydag Israel yn colli o 2-1 i Israel nos Sadwrn, ni chafodd colli i Bosnia unrhyw effaith ar lwyddiant Cymru i gyrraedd Ffrainc ond yn sicr bu cryn ddadansoddi gan Coleman a’i gyd-hyfforddwyr am y modd yr ildiwyd y ddwy gôl ar dir mawr Ewrop y tro hwn.
Do, collwyd y record 100% nos Sadwrn er mawr siom i’r 750 a mwy a deithiodd i ddilyn eu ffefrynnau, ond llwyddwyd i ddathlu beth oedd wedi ymddangos yn anochel ers curo Gwlad Belg ym mis Mehefin.
Parti bychan iawn oedd hwnnw yn Zenica o’i gymharu gyda’r hyn ddigwyddodd ar gyrion ein Prifddinas cyn, yn ystod ac ar ôl y gêm nos Fawrth wrth i’r Super Furry Animals godi’r canu cyn y gic gyntaf mewn dull cyfoes sydd wedi tyfu’n ddigon cyfarwydd i’r to ifanc o gefnogwyr.
Er hynny, trowyd yn ôl at ddull traddodiadol o ganu sawl gwaith yn ystod y chwarae wrth i’r dorf droi at “Hen Wlad Fy Nhadau” drosodd a thro wrth gefnogi’r tîm a cheisio’u hysbrydoli i gyflawni gorchestion mawreddog.
Os na ddeilliodd toreth o goliau o hynny nac o lwyddiant Ashley Williams a’i dîm i greu sgôr tebyg i gêm o griced, doedd `na ddim amheuaeth am y canlyniad o weld Cymru yn hawlio 81% o’r meddiant o’r bêl wrth i chwaraewyr Andorra orfod cwrso cysgodion am gyfnodau hirion.
Do, fe sgoriodd Aaron Ramsey a Gareth Bale gôl yr un tra ni welwyd bygythiad go iawn i Wayne Hennessey, mor gadarn oedd gwaith amddiffynnol Ashley Williams a James Chester, y pâr fydd yn debyg o fod yn ddewis cyntaf yn Ffrainc.
Braf gweld Coleman yn manteisio ar gyfle, yn dilyn canlyniadau nos Sadwrn a’r sicrwydd o le yn y rowndiau terfynol, i newid y tîm a rhoi profiad pellach i un neu ddau fel Jon Williams a Sam Vokes a’r profiad hwnnw, o bosib, yn gallu bod o fudd mawr i’r ymgyrch yn ystod misoedd Mehefin a (gobeithio) Gorffennaf y flwyddyn nesaf.
Fel y crybwyllais wythnos diwethaf, mae’n debyg nad yw hi’n profi’n hawdd i Gymdeithas Bêl Droed Cymru ddenu rhai o’r mawrion i herio Bale, Ramsey, Joe Allen a’r criw mewn gemau cyfeillgar ond mae un tîm cyfandirol allan o Ewro 2016 ac yn bosibilrwydd go iawn yn ôl y sôn o ddod i Gaerdydd fis nesaf.
Gorffennodd yr Iseldiroedd yn drydydd yng Nghwpan y Byd 2014, ond methiant fu eu hymgyrch dros y misoedd diwethaf a falle cawn eu gweld yma yng Nghymru o fewn ychydig wythnosau.
Ryn ni wedi dioddef digon oddi wrth yr Iseldirwyr yn y gorffennol ac oni fyddai’n braf gweld cyfle i dalu’r pwyth yn ôl a gwneud hynny, o bosib, yn Stadiwm y Mileniwm lle gellir dychmygu’r parti mwyaf erioed i ddathlu cau pen y mwdwl ar 57 mlynedd o boen?
Llun gan Andrew Orchard