Teledu
Ar ôl yr holl ddathlu, dyma stori pêl-droed Cymru
Gyda thîm Cymru yn cyrraedd twrnamaint rhyngwladol mawr am y tro cyntaf ers 1958, mae S4C yn darlledu cyfres deledu chwe phennod am hanes pêl-droed ein gwlad.
Mae Stori Pêl-droed Cymru yn dechrau nos Fawrth, 20 Hydref (9.30pm, isdeitlau Saesneg ar gael), ond deng niwrnod ar ôl cyrraedd Euro 2016.
Boddi ger y lan fu hanes tîm pêl-droed Cymru erioed heblaw am eu llwyddiant yn cyrraedd Cwpan y Byd yn Sweden ym 1958 pan gollodd Cymru yn rownd yr wyth olaf i Frasil gyda Pelé, bryd hynny'n 17 oed, yn sgorio'i gôl gyntaf yng Nghwpan y Byd.
Ond, meddai cyflwynydd y gyfres, yr awdur a'r cefnogwr brwd, Dewi Prysor: "Wrth feddwl am y ffordd wnaethon ni gyrraedd Sweden ym 1958, mae rhai pobl yn dweud ein bod wedi defnyddio gwerth hanner canrif o lwc yn y broses!
"Wrth ystyried be' ni wedi bod drwyddo fo ers hynny mi fyddai'n hawdd iawn cytuno achos, fel mae pob cefnogwr Cymru'n gwybod, er gwaetha'r buddugoliaethau dramatig a'r ymgyrchoedd cyffrous, 'bron iawn' oedd y stori bob tro. 'Da ni wedi boddi yn ymyl y lan gymaint o weithiau."
Er nad oedd Cymru wedi ennill eu ffordd drwodd i rowndiau olaf Cwpan y Byd 1958 yn uniongyrchol, rhoddwyd ail gynnig iddynt oherwydd penderfyniad gwledydd Arabia i beidio â chwarae yn erbyn Israel. Enillodd Cymru eu lle yn Sweden drwy guro Israel ddwywaith mewn gemau rhagbrofol pellach. Yn Sweden, llwyddodd y tîm fynd drwodd i rownd yr wyth olaf.
Mae rhaglen gyntaf Stori Pêl-droed Cymru yn mynd â ni nôl i hanes ffurfio Cymdeithas Pêl-droed Cymru yng ngwesty'r Wynnstay Arms yn Wrecsam ym 1876 a'r rhan allweddol a chwaraeodd y cyfreithiwr a'r chwaraewr pêl-droed Llewelyn Kenrick yn y stori. Yn 1876 rhoddodd Kenrick hysbyseb yng nghylchgrawn The Field yn gofyn am chwaraewyr i ffurfio tîm cenedlaethol cyntaf Cymru.
Mae Dewi Prysor hefyd yn adrodd hanes siomedigaethau'r timau fethodd ar y funud ola' ennill drwodd i dri thwrnamaint Cwpan y Byd - 1978 yn yr Ariannin, 1982 yn Sbaen a 1994 yn yr Unol Daleithiau ac i Euro 2004 ym Mhortiwgal.
Meddai cynhyrchydd Stori Pêl-droed Cymru, Euros Wyn: "Ar ôl cymaint o siomedigaethau, mae'n wych bod dilynwyr tîm Cymru'n medru dathlu o'r diwedd. Mae'r tîm presennol gyda'r gorau i chwarae dros Gymru erioed ac mae ganddyn nhw'r sgiliau a'r dalent i wneud argraff go iawn yn Ffrainc y flwyddyn nesaf. Fedrwn i ddim wedi breuddwydio am well diweddglo i'n cyfres Stori Pêl Droed Cymru."
Stori Pêl-droed Cymru
Nos Fawrth 20 Hydref 9.30, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C
PERTHNASOL: