Teledu

RSS Icon
25 Medi 2015

Dathlu canmlwyddiant 'brenin llenyddiaeth plant Cymru' T Llew Jones

Bydd S4C yn darlledu rhaglenni am fywyd a gwaith yr awdur T Llew Jones i nodi canmlwyddiant ei eni ym mis Hydref. Bydd pecyn o raglenni difyr i gyd-fynd â phen-blwydd geni'r cawr llenyddol, a aned ym Mhentre-cwrt ger Llandysul ar 11 Hydref 1915.

Mae'r cyfan yn dechrau gyda'r rhaglen ddogfen T Llew Jones nos Fawrth, 6 Hydref wedi'i chyflwyno gan Beti George.

Mae T Llew Jones yn enw cyfarwydd i blant o bob oed gyda'i straeon am Barti Ddu, Twm Siôn Cati a Siôn Cwilt ymysg rhai o'r ffefrynnau cofiadwy. Roedd hefyd yn adnabyddus fel prifardd ar ôl ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy flynedd yn olynol. Ond pwy oedd y dyn y tu ôl i'r ffigwr cyhoeddus?

PERTHNASOL: Dathlu canmlwyddiant geni T Llew Jones mewn ysgolion

Mae gan y cyflwynydd Beti George gysylltiad personol â'r llenor; fe wnaeth gyfweld ag ef nifer o weithiau ar radio a theledu, ac mae'n dod o bentre' Coed-y-bryn, nid nepell o Landysul.

Yn ystod y rhaglen ddogfen ddadlennol hon, bydd Beti yn sgwrsio â nifer o bobl sy'n cofio T Llew fel athro a phrifathro cyfareddol, fel chwaraewr gwyddbwyll a chricedwr dawnus, yn ogystal â'r awdur a ysbrydolodd lawer awdur arall.

Mae un o'r cyfranwyr, y prifardd a'r awdur Mererid Hopwood, yn cofio'r profiad melys o gwrdd â'i harwr. "Dwi'n cofio cael mynd i gwrdd â T Llew a’r bardd Tudur Dylan yn mynd â fi draw. Y jôc fach oedd ei fod e'n fy nghyflwyno i i fy hen dad-cu barddol i," meddai Mererid.  "T Llew oedd wedi dysgu John Gwilym i gynganeddu, John Gwilym oedd wedi dysgu Tudur Dylan a Tudur Dylan wedi dysgu finnau. Beth sy'n amlwg yn eu gwaith yw'r hiraeth a'r dyheu am rywle gwell. Dyma'r themâu sy'n dod 'nôl bob tro. Mae'r ofn yno."

Mae Emyr Llywelyn, mab T. Llew Jones yn trysori’r cof, am ei dad fel dyn creadigol.

“Mae llenorion plant yn fwy caeth nag unrhyw fath o lenor i’w plentyndod. Roedd fy nhad, fel Robert Louis Stevenson, Hans Christian Andersen a Rudyard Kipling, yn gallu ail greu byd plentyndod yn eu cerddi a’u straeon am fod eu plentyndod wedi rhewi am byth y tu mewn iddyn nhw.

"Roedd fy nhad yn ffoi o dlodi ac amgylchiadau anodd i fyd darllen, byd rhamant ac antur, byd o arwyr ac arwresau, byd o ddu a gwyn a’r arwyr bob amser yn ennill.

"Ddeunaw mis yn ?l fe ddigwyddodd rhywbeth pleserus iawn i fi a Iolo, fy mrawd - bod gen i chwaer na wyddem ni am eu bodolaeth.

"Mae dod i nabod Eira, ein chwaer, wedi dod ? llawer o bleser a hapusrwydd i’n bywydau ni ac mae Iolo a fi’n edrych ymlaen nawr i wneud fyny am yr amser a gollwyd."

Bydd Eira, Emyr a Iolo’n sôn am y profiad o ddod i nabod ei gilydd yn y rhaglen.

Bydd nifer o raglenni eraill ar S4C i gyd-fynd â'r canmlwyddiant. Nos Sadwrn, 10 Hydref bydd cyfle i wylio addasiad ffilm o'r nofel Tan ar y Comin ac yn Dilyn Afon Cletwr: T Llew Jones, ffilm o archif y BBC, awn am dro ar hyd yr afon yng nghwmni T Llew ei hun. 

Bydd Dechrau Canu Dechrau Canmol gyda Nia Roberts nos Sul, 11 Hydref – diwrnod y pen-blwydd - hefyd yn dathlu bywyd a gwaith yr awdur. Daw'r canu o Gapel y Tabernacl, Hendy Gwyn ar Daf lle mae ei ŵyr, Guto Llewelyn, yn weinidog.

Wrth edrych ymlaen at nodi'r canmlwyddiant, meddai Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, Dafydd Rhys: "Mae T Llew Jones wedi ysbrydoli cenedlaethau o blant ac oedolion drwy ei nofelau sydd yn nodweddiadol yn llawn antur, cyffro, dihirod peryglus ac arwyr di-ofn. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddathlu'r elfen yma o'i waith ar y sianel."

T Llew Jones

Nos Fawrth 6 Hydref 9.30, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad Silin ar gyfer S4C

Rhannu |