Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Medi 2015

Dathlu canmlwyddiant geni T Llew Jones mewn ysgolion

Mae disgwyl bwrlwm a gweithgaredd mawr mewn ysgolion ar draws Cymru ddydd Gwener, 9 Hydref, wrth i Gyngor Llyfrau Cymru drefnu dathlu canmlwyddiant geni brenin llenyddiaeth plant Cymru, T. Llew Jones. Toc wedi 9 y bore, trefnir bod pob ysgol yn dadorchuddio poster newydd gan Andy Robert Davies sydd wedi ei gomisiynu’n arbennig gan y Cyngor ar gyfer y digwyddiad.

‘Cwm Alltcafan’ oedd thema’r gwaith celf gwreiddiol a gomisiynwyd er mwyn cydnabod a dathlu gwaith y llenor.

‘Welsoch chi mo Gwm Alltcafan

Lle mae’r coed a’r afon ddofn?

Ewch da chi i Gwm Alltcafan,

Peidiwch oedi’n hwy…
Rhag ofn.’

"Mae hwn yn gyfle cyffrous i bawb uno i ddathlu pen-blwydd un o awduron plant mwyaf adnabyddus Cymru. Bydd cael pob ysgol gynradd yn dathlu ar y cyd yr un diwrnod ac ar yr un amser yn golygu bod enw T. Llew a’i weithiau llenyddol yn cael eu trafod yn helaeth ar y diwrnod arbennig hwnnw," esboniodd Prif Weithredwr y Cyngor, Elwyn Jones.

PERTHNASOL: Dathlu canmlwyddiant 'brenin llenyddiaeth plant Cymru' T Llew Jones

Mae T. Llew Jones, a hanai’n wreiddiol o Bentre-cwrt ger Llandysul, wedi ysbrydoli plant ac oedolion Cymru ers degawdau lawer, ac mae ei weithiau mwyaf adnabyddus megis Barti Ddu, Dirgelwch yr Ogof a Tân ar y Comin i’w gweld ar silffoedd llyfrau y mwyafrif o ddarllenwyr brwd Cymru – mewn cartrefi ac ysgolion.

Ychwanegodd Elwyn Jones: "Er mai dydd Sul, 11 Hydref, yw dyddiad y pen-blwydd go iawn, rhaid oedd dathlu ar ddiwrnod ysgol fel bod plant ar draws Cymru gyfan yn gallu bod yn rhan o’r achlysur pwysig."

Mae gwaith yr artist Andy Robert Davies, a ddaw’n wreiddiol o dde Cymru, yn canolbwyntio ar ddehongli tirlun, ac yn cynnwys delweddau wedi eu seilio ar farddoniaeth a dyfyniadau llenyddol.

"Pan oeddwn yn creu’r darn yma o waith," meddai, "roeddwn am ddarlunio T. Llew fel bachgen, yn mwynhau’r tirlun amlhaenog hyfryd y mae’n ei ddisgrifio mor fyw."

Rhannu |