Rygbi

RSS Icon
20 Mawrth 2012

Croesawu arwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i’r Senedd

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi croesawu enillwyr y Gamp Lawn i’r Senedd i ddathlu eu buddugoliaeth ac i gyflwyno tlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn swyddogol iddyn nhw.

Daeth miloedd o gefnogwyr i wylio’r bechgyn ddydd Sadwrn yn curo Ffrainc o 16 pwynt i 9 gan ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad â’r Gamp Lawn hefyd.

Ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd, cyflwynodd Prif Weinidog Cymru’r tlws unwaith yn rhagor i’r Hyfforddwr, Warren Gatland a’r Capten, Sam Warburton.

Ar ôl y dathliadau cyhoeddus, cynhaliwyd derbyniad gan Brif Weinidog Cymru a Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru: "Yr unig beth sy’n bwysig heddiw yw’r Gamp Lawn.

“Mae’r chwaraewyr hyn yn arwyr sydd wedi rhoi Cymru ar y map. Maent wedi dangos cryfder, angerdd a dawn chwarae sy’n eu gwneud llawn cystal â mawrion rygbi’r gorffennol.

“Maen nhw’n dîm ifanc sydd wedi dangos aeddfedrwydd y tu hwnt i’w hoedran. Roedden nhw’n benderfynol o gyrraedd y brig ac am eu bod wedi gwneud hynny, maen nhw wedi symud gêm Cymru i’r uchelfannau.

“Pleser o’r mwyaf yw cael cyflwyno’r tlws hwn i Warren Gatland a’r tîm a’u llongyfarch yn fawr ar yr hyn y maen nhw wedi’i wneud dros ein gwlad.”

Rhannu |