http://www.y-cymro.comY CymroPedwar cyn-Lew yn dweud eu dweud am garfan 2017
Gydag S4C yn darlledu uchafbwyntiau o bob gêm yn Nhaith Llewod Prydain ac Iwerddon 2017, mae'r sianel wedi cael cymorth pedwar cyn-Lew ar gyfer yr ymgyrch hyrwyddo.

Gyda 24 cap prawf y Llewod rhyngddyn nhw, bydd Syr Gareth Edwards, Gerald Davies, Dwayne Peel a Stephen Jones yn ymddangos yn yr ymgyrch aml-lwyfan, i adrodd eu hanesion yn y crys coch enwog yn ogystal â rhoi eu barn am y garfan bresennol.

Eleni fe fydd y daith yn cychwyn oddi cartref yn erbyn Barbariaid Taleithiau Seland Newydd ddydd Sadwrn, 3 Mehefin, gydag uchafbwyntiau yn cael eu dangos ar S4C am 8.30yh

Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau gêm rhwng Llewod Prydain ac Iwerddon a'r Auckland Blues yn Eden Park, am 10.00yh. Catrin Heledd fydd yn arwain y tîm cyflwyno ar gyfer y ddwy gêm, gyda Gareth Rhys Owen yn y blwch sylwebu.

Felly, beth oedd gan y pedwar Llew i'w ddweud?

Syr Gareth Edwards – 3 taith, 10 gêm prawf

"Rwy'n credu bod y garfan yn un o'r rhai cryfa' sydd wedi gadael Prydain ac Iwerddon. Mae'r garfan yn llawn chwaraewyr arbennig. Mae'r Crysau Duon 'di bod gyda'i gilydd ers blynyddoedd. Er bod carfan y Llewod yn gryf ac er bod 'na unigolion arbennig yno, a oes gan Warren Gatland yr amser i'w tynnu nhw at ei gilydd? Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i weld beth yw'r ateb.

"Rwy'n mynd i edrych yn fanwl ar Maro Itoje - fydd hi'n ddiddorol gweld os bydd e'n chwarae yn y rheng ôl neu yn yr ail reng. Mae 'na lawer o redwyr cryf ac mae Iain Henderson yn un dwi'n edrych ymlaen at ei weld. Byddaf i'n edrych ymlaen at weld hefyd shwt mae'r rheng ôl yn mynd i chwarae, achos fydd hynny'n hollbwysig i weld pa ffordd mae pethau'n gweithio mas."

Gerald Davies – 2 daith, 5 gêm prawf, 3 chais, a chyn-reolwr taith a chadeirydd y Llewod

"Mae'r ffaith eu bod nhw 'di dewis Sam fel capten yn rhywbeth gwych iddo fe ond hefyd i ni fel Cymry. Wrth gwrs, dyma'r ail dro iddo gael ei ddewis, felly mae'n amlwg eu bod nhw'n hoff o'i bersonoliaeth ac mae e wedi chwarae'n gryf yn ddiweddar.

"Dwi'n gobeithio bod y bobl ifanc sy'n mynd ar y daith yn mynd yno i fwynhau'r wlad a'i phobl. Os nad wyt ti'n hapus ac yn gyfforddus, dwyt ti ddim yn mynd i ennill. Bydd y pwysau'n drwm a bydd y chwaraewyr yn nerfus. Bydd yr awyrgylch mas yn Seland Newydd yn un heb drugaredd, felly mae eisiau iddyn nhw fod yn gyfforddus yn eu hunain, a gyda'i gilydd."

Dwayne Peel – 1 daith, 3 gêm prawf

"Mae hi'n garfan gref a chyffrous. Bydd hi'n ddiddorol iawn gweld sut mae'r Llewod yn chwarae a shwt maen nhw'n mynd i ymdopi gyda chyflymder Seland Newydd. Yn Super Rugby ar y funud mae timoedd Seland Newydd yn chwarae'n arbennig o dda hefyd. Chwarae yn y steil cywir fydd yn hollbwysig os ni moyn ennill gemau ar y daith."

Stephen Jones – 2 daith, 6 gêm prawf, 53 pwynt

"Mae'r Crysau Duon yn dda oherwydd bod eu doniau yn wych, ond maen nhw'n gorfforol hefyd. Maen nhw'n gallu chwarae mewn sawl ffordd wahanol ac mae hynny'n achosi problemau i unrhyw amddiffyn. Pob clod i'w hyfforddwyr nhw, maen nhw hefyd wedi creu diwylliant rygbi llwyddiannus hefyd.

"Dwi'n meddwl y gall Sam gael effaith enfawr ar y daith. Fe yw'r capten ac mae e mor gorfforol a mor effeithiol yn ardal y dacl. Mae'r ffordd mae Seland Newydd yn chwarae'r gêm yn dibynnu gymaint ar gyflymder y bêl, felly mi fydd rhywun fel Sam yn medru arafu pêl Seland Newydd fel bod ni'n gallu trefnu ein hamddiffyn ni."

Bydd S4C yn dangos rhagor o rygbi ym mis Mehefin wrth i Gymru deithio i Georgia i gymryd rhan ym Mhencampwriaethau Dan 20 y Byd. Bydd pob gêm tîm Jason Strange i'w gweld yn fyw ar y sianel. Yr wythnos hon, bydd Cymru yn herio Lloegr ddydd Sul, 4 Mehefin, cyn eu gêm grŵp olaf ddydd Iau, 8 Mehefin yn erbyn Samoa.

Taith y Llewod 2017: Provincial Union XV v Y Llewod

Nos Sadwrn 3 Mehefin 8.30, S4C

Taith y Llewod 2017: Blues v Y Llewod

Nos Fercher 7 Mehefin 10.00, S4C

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill

Cyd-gynhyrchiad Sunset + Vine Cymru and Sports Media Services i S4C

Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 Y Byd: Lloegr v Cymru

Dydd Sul 4 Mehefin 5.15, S4C

Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 Y Byd: Cymru v Samoa

Dydd Iau 8 Mehefin 9.45, S4C

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill

Cyd-gynhyrchiad Sunset + Vine Cymru and Sports Media Services i S4C

Llun: Gerald Davies a Sam Warburton

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/5262/
2017-06-01T00:00:00+1:00Y penwythnos mwyaf o rygbi clwb yng Nghymru
Bydd y penwythnos mwyaf yng nghalendr clybiau a rhanbarthau Cymru yn ei ôl dros y Pasg, wrth i gemau Dydd y Farn a Diwrnod y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol gael eu cynnal yn y Stadiwm Principality.

Bydd y pedwar rhanbarth yn brwydro yn erbyn ei gilydd; bydd tîm mwyaf llwyddiannus yr Uwch Gynghrair yn herio tîm y Gogledd; bydd breuddwydion chwaraewyr clwb yn cael eu gwireddu wrth iddyn nhw gamu ar y cae - ac efallai bydd Shane Williams yn ei ôl.

Ar ddydd Sadwrn, 15 Ebrill, fe fydd Clwb Rygbi yn dangos y gêm Dydd y Farn rhwng Dreigiau Casnewydd Gwent a'r Scarlets yn fyw o 5.00. Yna ar ddydd Sul, 16 Ebrill, bydd S4C yn dangos tair gêm y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol yn fyw.

Am 12.45, bydd Yr Aman yn herio Caerffili yn rownd derfynol y Bowlen Genedlaethol; am 3.00, darlledir Rownd Derfynol y Plât Cenedlaethol rhwng Penallta ac Ystalyfera; ac i orffen am 5.15, cawn ddilyn holl gyffro gêm y Cwpan Cenedlaethol rhwng Pontypridd ac RGC 1404. Yn arwain y tîm cyflwyno bydd y cyflwynydd a'r dilynwr rygbi brwd sy'n hanu o Borthmadog, Owain Gwynedd.

Dywedodd Owain, sydd hefyd yn ddyfarnwr rygbi yn ei amser sbâr, "Tu allan i'r gemau rhyngwladol, hwn yw'r penwythnos rygbi mwyaf yng Nghymru erbyn hyn ac mi fydd 'na dorfeydd anferth yna dros y penwythnos. I'r chwaraewyr sy'n cystadlu ar y lefelau yma, dyma uchafbwynt eu tymor nhw os nad eu gyrfa nhw. Mae'n anrhydedd iddyn nhw fod ar y cae heb sôn am godi cwpan.

"Y gobaith i gefnogwyr Yr Aman fydd gweld Shane Williams yn troedio maes y Principality unwaith eto. Yn eu herbyn mae Caerffili, sy'n dîm â hanes disglair iawn, sy'n ceisio adennill eu safle tua'r uchelfannau. Mae Brett Davey wedi dychwelyd i'r clwb i hyfforddi, ac mae Matthew Nuthall yn chwarae ac yn hyfforddi ac mae hynny'n talu ffordd iddyn nhw.

"Yn y Plât mi fydd Penallta eisiau cywiro'r cam o'r llynedd, pan gollon nhw yn erbyn Bedlinog, ond mae Ystalyfera wedi edrych yn dda yn y Plât hyd yma."

Mae'r brif gêm ar ddydd Sul rhwng Pontypridd ac RGC yn addo bod yn gêm i'w chofio wedi i'r ddau dîm ennill eu lle ar ôl gemau rownd gynderfynol llawn cyffro. Fe lwyddodd Pontypridd i ddal ymlaen a threchu Cross Keys o 42 i 37, tra y gwnaeth RGC sicrhau buddugoliaeth funud olaf dros Ferthyr diolch i gais gan Sam Jones, mewn gêm a ddangoswyd ar S4C.

"Bydd hi'n gêm ddiddorol dros ben," meddai Owain. "Bydd Pontypridd, y clwb sydd wedi bod yn hawlio'r fraint i fod y pumed rhanbarth fel petai, yn erbyn RGC, y clwb sy'n tyfu yn eu statws a'u dilyniant ac sy'n hawlio mai nhw dylai fod y pumed rhanbarth yn y dyfodol.

"Mae'r Gogs yna am y tro cyntaf yn eu hanes, a dwi'n disgwyl bydd 'na dorf fawr yno o'r gogledd. Tu hwnt i bob disgwyl, maen nhw wedi bod yn hynod o lwyddiannus yn barod y tymor hwn ac wedi pasio unrhyw darged gafodd ei osod cyn dechrau'r tymor.

"Ond, maen nhw'n gorfod curo'r tîm sydd wedi gosod y safon dros y blynyddoedd diwethaf, Pontypridd. Ar ôl dechrau anodd, maen nhw wedi codi'r safon ar adeg iawn y tymor. Ac mi fyddan nhw'n siŵr o ddod â'u dilyniant brwd gyda nhw hefyd. Dwi'n rhagweld gêm eithaf hafal, a phwy bynnag sy'n delio â'r achlysur orau, mae'n debyg, fydd yn fuddugol.

Clwb Rygbi: Dreigiau Casnewydd Gwent v Scarlets

Sadwrn 15 Ebrill, 5.00, S4C

Cynhyrchiad BBC Cymru

Uchafbwyntiau dwy gêm Dydd y Farn nos Lun am 10.00, S4C

Diwrnod y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol

Rygbi: Yr Aman v Caerffili, 12.45, S4C

Rygbi: Penallta v Ystalyfera, 3.00, S4C

Rygbi: Pontypridd v RGC 1404, 5.15, S4C

Sylwebaeth Saesneg ar gael

Cynhyrchiad Sunset+Vine ac SMS ar gyfer S4C

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/5221/
2017-04-12T00:00:00+1:00Gêm fawr i Ferched Cymru yn erbyn Iwerddon
Mae cyn-asgellwraig Cymru, Caryl James, yn credu bod tîm merched Cymru wedi tangyflawni hyd yn hyn ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad RBS 2017.

Wedi buddugoliaeth yn eu gêm gyntaf oddi cartref yn erbyn Yr Eidal o 20 pwynt i 8, mae tîm Rowland Phillips wedi colli eu dwy gêm ddiweddaraf; 0-63 mewn gêm gartref i bencampwyr y byd, Lloegr, ac o 14 bwynt i 15 oddi cartref yn erbyn yr Alban.

Bydd camerâu S4C ym Mharc yr Arfau BT Sport ar ddydd Sadwrn, 11 Mawrth wrth i'r tîm groesawu Iwerddon i Gaerdydd yn eu gêm nesaf o flaen tyrfa fydd yn sicr yn talu teyrnged i'r chwaraewraig Elli Norkett fu farw mor drasiediol o ifanc mewn damwain car ar ôl y gêm yn erbyn Yr Alban.

Bydd Caryl, a enillodd 27 cap rhyngwladol ac sy'n hanu o bentre' Login, Sir Gâr, yn rhan o'r tîm cyflwyno, tra bydd hi hefyd yn ymuno â Gareth Charles a chyn gapten Cymru, Gwyn Jones, yn y blwch sylwebu.

Dyma ei hasesiad hi o ganlyniadau Cymru hyd yma.

Faint fydd yr her yn erbyn Iwerddon?

Mae Iwerddon wedi ennill pob gêm hyd yn hyn, felly mae'n amlwg mai nhw yw'r tîm i guro nawr. Mae'r gemau dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn agos iawn; pwyntiau yn unig sydd wedi bod rhyngddynt, ac yn sicr, mae'r gallu yno gan Gymru i ennill y gêm.

Ar ôl bod 14-0 ar y blaen yn erbyn Yr Alban, colli 15-14 wnaethon nhw yn y diwedd. Pa mor boenus yw colli gêm fel yna?

Roedd e'n hollol annisgwyl iddyn nhw golli i'r Alban yn y ffordd wnaethon nhw ac mae'r golled yna'n mynd i frifo'n lot fwy na'r golled yn erbyn Lloegr.

Gwelwyd cymaint o ddiffyg disgyblaeth yn y gêm, a'r Alban yn manteisio ar bob cyfle.

Rhaid hefyd cwestiynu strategaethau'r tîm; cymaint o gicio meddiant yn ôl i'r Alban.

Buasai wedi bod yn wych gweld yr asgellwyr yn cael y cyfle i redeg at y gwrthwynebwyr.

Mae 'na lot fwy o gwestiynau yn cael eu gofyn o'r tîm hyfforddi erbyn hyn, oherwydd mae'r canlyniadau yma'n adlewyrchiad arnyn nhw hefyd.

Felly ar ôl dwy golled ac un fuddugoliaeth, ydy'r tîm wedi tangyflawni hyd yma?

Yn sicr maen nhw wedi tangyflawni a byddan nhw'n teimlo'r siom yn enfawr.

Y cwestiwn ydy, pam maen nhw wedi tangyflawni?

Maen nhw'n cael yr arweiniad gorau maen nhw erioed wedi derbyn gan y tîm hyfforddiant a'r tîm wrthgefn llawn amser.

Mae Cwpan y Byd yn agosáu mewn ychydig o fisoedd, a dylai Rowland Phillips fod yn eithaf sicr o'i garfan erbyn hyn.

Ond mae dal angen gweithio allan y partneriaethau gorau a mwyaf effeithiol.

Maen nhw i gyd mewn tipyn bach o benbleth ar y funud, ond mae gen i bob ffydd ym mhotensial y tîm ifanc yma i ddatblygu a llwyddo.

Rhaid cofio, gyda thîm hyfforddi newydd, mae angen amser iddynt ymgyfarwyddo â'i gilydd.

Yn amlwg, mae marwolaeth ddiweddar Elli Norkett wedi rhoi pethau mewn persbectif i bawb. Sut effaith gaiff hynny ar dîm Cymru?

Mae'r garfan i gyd yn upset iawn – roedd rhai o'i ffrindiau gorau yn chwarae dros Gymru. Bydd e'n achlysur emosiynol iawn yn erbyn Iwerddon.

Yn hwyrach ymlaen ar yr un diwrnod, bydd S4C hefyd yn darlledu gêm tîm Cymru Dan 20 yn erbyn Iwerddon Dan 20, yn fyw ac yn ecsgliwsif o Barc Eirias, Bae Colwyn. Bydd y rhaglen yn cychwyn am 6.15 ar ddydd Sadwrn, 11 Mawrth.

Rygbi Merched: Cymru v Iwerddon

Dydd Sadwrn 11 Mawrth 11.15, S4C

Cymru Dan 20 v Iwerddon Dan 20

Dydd Sadwrn 11 Mawrth 6.15, S4C

Sylwebaeth Saesneg

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad BBC Cymru

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/5105/
2017-03-06T00:00:00+1:00Gwyliwch dîm Rygbi’r Gynghrair Cymru ar S4C
Fe fydd gêm ragbrofol Cwpan y Byd tîm Rygbi’r Gynghrair Cymru yn erbyn Serbia yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C, o Barc Stebonheath, Llanelli ddydd Sadwrn, 15 Hydref.

Dyma’r tro cyntaf i’r darlledwr ddangos gêm fyw Rygbi’r Gynghrair ers 2008 a’r tro cyntaf i gêm tîm cenedlaethol gael ei dangos yn fyw ers Cwpan y Byd 1995.

Bydd y rhaglen yn dechrau am 2.45, gyda’r gic gyntaf am 3.00. Yn ogystal â sylwebaeth Gymraeg, fe fydd sylwebaeth Saesneg ar gael trwy’r gwasanaeth botwm coch.

Enillodd tîm Cymru Bencampwriaeth Ewrop y llynedd ar ôl buddugoliaethau dros Ffrainc, Yr Alban ac Iwerddon, a’r tro hwn byddan nhw’n cystadlu mewn grŵp rhagbrofol o dri thîm. Ar gyfer yr unig gêm arall yn eu grŵp, fe fydd tîm Cymru yn teithio i Monza yn Yr Eidal ddydd Sadwrn, 29 Hydref.

Bydd enillydd y grŵp yn sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair 2017 yn Awstralia a Papua New Guinea, tra bydd y tîm sy’n ail yn cystadlu mewn gêm ail gyfle yn erbyn y tîm sy’n ail yng ngrŵp sy’n cynnwys timau Iwerddon, Sbaen a Rwsia. Bydd y gêm yna’n cael ei chwarae yn stadiwm y tîm Super League, Leigh Centurions, ar Dachwedd 4.

Mae hyfforddwr tîm Cymru, John Kear, wrth ei fodd fod S4C wedi dewis darlledu’r gêm fawr a bod mwy o Rygbi’r Gynghrair i’w weld ar deledu.

“Mae hyn yn newyddion gwych. Fe ddangosodd S4C uchafbwyntiau o’n hymgyrch llwyddiannus ym Mhencampwriaeth Ewrop ac mae’r ffaith fod nhw wedi dewis dangos ein gêm Cwpan y Byd yn erbyn Serbia, i’w gweld yn fyw ac yn rhad ac am ddim, yn tanlinellu’r cynnydd mae’r garfan wedi ei wneud yn ddiweddar.

“Os ydan ni’n chwarae cystal ag y gwnaethon ni'r llynedd, fe wnawn ni ennill.

“Bydd S4C yn dangos y gamp i gynulleidfa newydd ac mae angen i ni greu argraff ar y gwylwyr. Mae’n rhaid i ni sicrhau fod y stadiwm yn llawn yn ogystal, er mwyn ychwanegu at yr awyrgylch.”

Dywedodd Golygydd Chwaraeon S4C, Sue Butler: “Rydym yn falch iawn i gynnwys y gêm Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair yn ein portffolio chwaraeon. Rydym ni’n edrych ymlaen at ddangos y gêm yma’n fyw ac yn ecsgliwsif, ac yn dymuno pob lwc i’r tîm wrth iddyn nhw gynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.”

Bydd tocynnau i’r gêm yn £10 i oedolion, £8 am gonsesiynau a £5 i blant. Bydd y tocynnau ar gael i’w brynu ar http://www.walesrugbyleague.co.uk/wales/match_tickets. Nodwch mai 6.00 oedd amser y gic gyntaf yn wreiddiol.

Llun: John Kear

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/4384/
2016-09-28T00:00:00+1:00Clwb Rygbi yn dychwelyd i amserlen nos Sadwrn
Mae rygbi byw yn ôl ar nos Sadwrn ar S4C gyda thîm Clwb Rygbi yn barod am yr her o daclo gemau byw Pencampwriaeth y Guinness PRO12.

Gyda’r gic gyntaf am 7.35, bydd Clwb Rygbi yn rhan o amserlen gyffrous nos Sadwrn fydd hefyd yn cynnwys gêm bêl-droed fyw ar Sgorio, ac yna adloniant wedi 9.00.

Mae'r cyfan yn dechrau gyda'r ornest rhwng y Gleision a Chaeredin ym Mharc yr Arfau BT Sport nos Sadwrn 3 Medi. Fe fydd gemau i gyd ar gael i'w gwylio mewn HD ar blatfformau Sky a Freesat. Mae'r gemau ar gael i'w gwylio ar alw ac ar-lein ledled y DU ar s4c.cymru ac ar BBC iPlayer.

Mae cyflwynydd newydd, Gareth Rhys Owen, yn arwain rhaglen Clwb Rygbi, sy’n cael ei chynhyrchu gan BBC Cymru.

Mae Gareth yn wyneb a llais cyfarwydd i nifer fawr o wylwyr, ac yntau’n ohebydd chwaraeon ar deledu a radio ac yn sylwebu ar gemau rygbi a seiclo ers blynyddoedd.

Mae'n ystyried y cyfle i angori'r rhaglen yn fraint wrth ddilyn ôl troed Gareth arall, y cyn gyflwynydd Gareth Roberts.

"Mae Gareth Roberts wedi arwain y gad o ran darlledu yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf. Felly mae'n dipyn o her i'w ddilyn ond mae'n un rwy'n edrych ymlaen amdani," meddai Gareth Rhys Owen, sy'n wreiddiol o Gydweli ac nawr yn byw yng Nghaerdydd.

Mae'n ymuno â thîm cyflwyno profiadol sy'n cynnwys y tîm sylwebu Gareth Charles, Gwyn Jones ar sylwebwyr Deiniol Jones, Dafydd Jones ac Andrew Coombs. Maen nhw i gyd yn eiddgar i weld rhanbarthau Cymru yn cystadlu am y teitl a'r safleoedd uchaf.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld os gall rhanbarthau Cymru gamu i'r lefel nesaf," ychwanega Gareth. "Rwy'n meddwl bod 'na chwyldro tawel yn digwydd gyda Danny Wilson a'r Gleision. Yr un hen her sydd o flaen y Dreigiau, gyda diffyg cyllid a charfan lai profiadol, ond os yw Kingsley Jones yn medru rhoi tân yn eu calonnau, dwi'n meddwl bydden nhw'n medru cystadlu."

Connacht oedd pencampwyr y llynedd ond a fydd dau ranbarth gorllewinol Cymru yn gallu eu herio nhw a thimau mawr eraill Iwerddon a'r Alban?

"Gyda Jonathan Davies yn dychwelyd at y Scarlets a Rhys Patchell yn ymuno â nhw, mae ganddyn nhw linell ôl ddisglair. A phan da chi'n ystyried Olly Cracknell, Owain Watkin a Sam Underhill, mae 'na gnewyllyn o chwaraewyr dylanwadol ifanc gyda'r Gweilch. Os yw Steve Tandy'n medru defnyddio nhw'n effeithiol, fe all y Gweilch gystadlu am y safleoedd uchaf."

Clwb Rygbi: Gleision v Caeredin

Nos Sadwrn 3 Medi 7.15, S4C

HD ar Sky a Freesat

Isdeitlau a sylwebaeth Saesneg

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad BBC Cymru

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/4171/
2016-08-26T00:00:00+1:00Gemau byw PRO12 yn dychwelyd i nos Sadwrn ar S4C
Bydd gemau rygbi byw S4C o gystadleuaeth y Guinness PRO12 yn dychwelyd i nosweithiau Sadwrn o ddechrau tymor 2016-2017.

Yn dilyn trafodaethau gyda threfnwyr y Guinness PRO12, rhanbarthau, clybiau a’r taleithiau o'r pedair gwlad a’r partneriaid darlledu, bydd y rhan fwyaf o’r gemau byw yn cael eu darlledu nos Sadwrn, gyda’r gic gyntaf fel arfer am 7.35pm. Bydd y rhaglen Clwb Rygbi yn dechrau am 7.15pm.

Bydd y gyfres Clwb Rygbi yn ailddechrau ddydd Sadwrn, 2 Medi gyda’r Gleision v Caeredin o Barc yr Arfau BT Sport, Caerdydd, cic gyntaf am 7.35pm. Mae'r gemau eraill yn ystod saith penwythnos cyntaf y tymor yn cynnwys gêm rhwng y pencampwyr Connacht a’r Gweilch, Gleision v Leinster a dwy gêm ddarbi, Scarlets v Dreigiau a'r Gweilch v Dreigiau.

Bydd y gemau ecsgliwsif ar gael gyda sylwebaeth Saesneg ar y gwasanaethau botwm coch, a hefyd gydag isdeitlau Saesneg. Fe fydd y gemau ar gael mewn HD ar lwyfannau Sky a Freesat.

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon S4C, "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd ein gemau Guinness PRO12 byw yn cael eu darlledu ar nosweithiau Sadwrn unwaith yn rhagor. Am flynyddoedd lawer, dyma oedd y slot sefydlog ar gyfer gemau rygbi byw ar S4C ac roedd yn well gan wylwyr yr amser yma."

Mae rhaglenni Clwb Rygbi S4C yn cael eu cynhyrchu gan dîm chwaraeon BBC Cymru. Meddai Sian Gwynedd, Pennaeth Gwasanaethau a Rhaglenni Cymraeg BBC Cymru, “Mae yna gryn edrych ymlaen at dymor rygbi’r PRO12 bob amser a bydd dychwelyd i’r slot darlledu yma’n sicr o blesio’r cefnogwyr. Mae BBC Cymru yn falch iawn o allu darparu gemau byw ar gyfer gwylwyr, a’r rheini wedi’u darparu gan gyflwynwyr, sylwebwyr a thîm cynhyrchu arobryn BBC Cymru.”

Ychwanegodd Martin Anayi, Rheolwr Gyfarwyddwr PRO12 Rugby, "Gyda 70 o'r 78 gemau yn cael eu darlledu’n fyw, gallwn gynnig fwy o gemau i’w gwylio’n rhad ac am ddim nag erioed o'r blaen.

"Yng Nghymru, rydym wedi llwyddo i sicrhau slot nos Sadwrn wythnosol ar S4C, gyda’r gemau dydd Sul wedi cael eu lleihau i i dri yn unig dros y tymor cyfan, a’r gemau hynny’n cynnwys dwy gêm ar Ddydd Calan. Mae cefnogwyr yng Nghymru wedi gofyn am y newid yma ac rydym yn hapus ein bod wedi gallu trefnu hynny ar gyfer y tymor hwn.”

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/3945/
2016-07-13T00:00:00+1:00Y Crysau Duon yn Seland Newydd – yr her eithaf
Does dim her fwy anodd na wynebu tîm rygbi Seland Newydd ar eu tomen ei hunain ynghanol ei gaeaf nhw, meddai cyn ganolwr Cymru, Jamie Robinson.

Ond mae Jamie, fydd yn rhan o dîm cyflwyno S4C ar gyfer y gyfres brawf, yn credu bod yna obaith i Gymru ennill o leiaf un o’r tri phrawf yno.

Yn cadw cwmni i Jamie Robinson yn rhan o dîm cyflwyno S4C bydd y cyflwynydd Gareth Roberts, cyn gapten Cymru Gwyn Jones, a’r sylwebydd Gareth Rhys Owen, wrth i’r sianel ddangos uchafbwyntiau’r tri phrawf a’r gêm ganol wythnos yn erbyn y Waikato Chiefs.

"Hwn yw'r her anodda' un i chwaraewr o Gymru - ac mae chwarae tri phrawf yn sialens anferth," meddai Jamie, a gafodd 23 cap dros Gymru.

"Dwi ddim yn gweld Cymru'n ennill y gyfres brawf, ond mae yna obaith i ennill un o'r tair gêm.

"Fe fydd lot yn dibynnu beth sy'n digwydd yn y prawf cyntaf. Os bydd honno'n gêm agos, efallai y gallwn godi amheuon ymysg y Crysau Duon, a manteisio ar hynny yn y ddau brawf arall.

"Rydyn ni'n gallu cystadlu gyda nhw yn gorfforol, yr her feddyliol yw'r un fawr. Yn ugain munud ola'r gêm, mae cryfder meddyliol Seland Newydd yn dod i'r amlwg wrth iddyn nhw gynyddu'r pwysau a'r tempo.

"Mae Cymru yn gwybod sut i amddiffyn ond i ennill mae'n rhaid iddyn nhw gadw a defnyddio'r bêl yn glyfrach. Lledu'r bêl yn fwy, dyna sy'n anodd yn null chwarae corfforol Warren Gatland."

Mae Jamie, a chwaraeodd hefyd i'r Gleision, Toulon ac Agen, yn gwybod o brofiad talcen mor galed yw herio Seland Newydd ar eu tomen eu hunain. Roedd Jamie yno yn 2003 pan gafodd Gymru eu curo 55-3 yn Hamilton.

"Roedd yn brofiad anodd - fy nghof i o'r gêm oedd gweld Jerry Collins yn taclo Colin Charvis a bron ei dorri mewn hanner ar ddechrau'r gêm.

"Aeth e'n galetach o fan hynny ymlaen ac mae'r tywydd garw, y cefnogwyr angerddol a'r sylw yn y cyfryngau yno i gyd yn cynyddu'r pwysau.

"Mae'n rhaid cofio bod ein bois ni ar ddiwedd tymor hir ddechreuodd haf diwethaf gyda'r paratoadau at Gwpan y Byd."

Ond mae Jamie yn edrych ymlaen yn arw at y gemau prawf yn hemisffer y de a hefyd at gystadleuaeth Pencampwriaeth Dan 20 y Byd ym Manceinion. Bydd S4C yn dangos gemau Dan 20 Cymru yn fyw.

"Mae gan dîm Cymru obaith gwirioneddol o ennill Pencampwriaeth y Byd. Doedd neb yn disgwyl iddyn nhw ennill y Gamp Lawn a chwalu Lloegr fel y gwnaethon nhw.

"Ond yn wahanol i dimau dan 20 yn y gorffennol, mae'r bois yma yn fwy caled yn gorfforol ac yn gallu wynebu her gorfforol y cewri fel Seland Newydd, De Affrica a Lloegr.

"Fe fyddai'n siomedig iawn os na wnawn nhw gyrraedd y rownd gynderfynol o leiaf."

Rygbi: Seland Newydd v Cymru

Nos Sadwrn, 11 Mehefin 9.00, S4C

Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad Sunset+Vine a SMS ar gyfer S4C

Sky Sports yw perchnogion ecsgliwsif yr hawliau darlledu yn y DU ac Iwerddon, ac maen nhw wedi trwyddedu S4C i ddangos uchafbwyntiau'r gemau

Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd

Cymru v Georgia – Uchafbwyntiau – Sadwrn 11 Mehefin 10.00, S4C

Seland Newydd v Cymru – Yn fyw – Mercher 15 Mehefin 5.15, S4C

Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad Sunset+Vine a SMS ar gyfer S4C

Llun: Jamie Robinson

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/3809/
2016-06-08T00:00:00+1:00Tân y Dreigiau
Caerloyw 21 Dreigiau 23

Peidiwch dweud hynny yn ardal Llanelli a gweddill De Orllewin Cymru, ond mae `na bosibilrwydd go iawn y gallai’r Dreigiau orffen y tymor yn ennill yr unig dlws i Ranbarth Cymreig yn dilyn eu buddugoliaeth ryfeddol dros y ffin bnawn dydd Sadwrn diwethaf.

Dyddiau yn unig wedi cyhoeddiad y Gwentiaid eu bod yn chwilio am berchnogion newydd a buddsoddiad i roi hwb i fusnes y Rhanbarth, gwelwyd un o’u perfformiadau gorau yn y 13 mlynedd ers iddyn nhw gael eu sefydlu.

Do, fe gyrhaeddodd y Dreigiau rownd gynderfynol Cwpan Her Ewrop y llynedd hefyd cyn derbyn crasfa drom â sgôr o 45-16 yn erbyn Caeredin yn stadiwm Murrayfield, ond falle gallwn ddisgwyl gwell ganddynt eleni wrth i’w carfan ddatblygu ac er gwaetha’u siom yn y PRO12.

Taith anodd i Dde Ffrainc sydd ar y gweill i Taulupe Faletau a’i gyd-chwaraewyr a hynny i herio Montpellier Hérault Rugby, y clwb sy’n ail yng nghynghrair y Top14 ac yn meddu ar garfan yn llawn o sêr rhyngwladol profiadol.

Prin iawn, heblaw am ffyddloniaid Rodney Parade, y bydd llawer yn rhagweld buddugoliaeth i’r Dreigiau wythnos i fory ym Mhrifddinas Languedoc- Roussillon.

Prin iawn, heblaw am ffyddloniaid Rodney Parade, yr oedd llawer wedi rhagweld buddugoliaeth y Dreigiau yn Kingsholm wythnos diwethaf, ond roedd y tîm Cymreig yn haeddu eu llwyddiant, hyd yn oed yn absenoldeb eu prif hyfforddwr, Lyn Jones, a oedd heb deithio oherwydd salwch.

Bu cryn drafod, cyn y gêm, am brofiad y dirprwy hyfforddwr, Kingsley Jones, yn gweithio yng Nghaerloyw rai blynyddoedd yn ôl a’i wybodaeth am seicoleg y cefnogwyr cartref yn y “Shed” enwog a bygythiol yn eu stadiwm.

Yn ôl ei arfer, roedd Faletau ar flaen y gad wrth i’w yrfa gyda’r Dreigiau ddirwyn at ei therfyn a’i allu fel chwaraewr a meddyliwr am rygbi yn arddangos pam y dylai barhau yn ffefryn i lanw safle’r wythwr ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 2017.

Bydd ymadawiad Faletau i Gaerfaddon y tymor nesaf yn golled enbyd i’r Dreigiau ac yn gadael bwlch y bydd yn anodd ei lenwi yn fuan er mor dda yw’r rhaglen datblygu ieuenctid yng Ngwent.

Llwyddwyd i elwa ar gryfderau Faletau ddydd Sadwrn ac fe ddilynodd gweddill carfan y Dreigiau ei esiampl i greu cyfleoedd i’r maswr, Dorian Jones gicio pump gôl i gosbi troseddau’r tîm cartref a chadw’r Dreigiau yn gystadleuol.

Sgoriodd cyn-wythwr y Sgarlets, Ben Morgan, a’r asgellwr chwith, Steve McColl, geisiau i Gaerloyw, y cyntaf o fewn y chwarter awr cyntaf a’r ail wedi dros awr o chwarae i atgyfodi eu gobeithion hwythau yn wyneb ymdrech glodwiw’r Gwentiaid.

Ciciodd Jones ei bedwaredd gôl gosb ar 39 munud i roi rhagoriaeth o 12-11 i’r Dreigiau ar yr egwyl ac fe ehangwyd y rhagoriaeth hwnnw gyda’i bumed o fewn pedwar munud ar ddechrau’r ail hanner.

Un o uchafbwyntiau’r ornest, yn ddi-os, fodd bynnag, oedd pan giciodd cefnwr y Dreigiau, Carl Meyer, gôl gosb o 56 metr neu fwy (ac roedd ganddo ddigon o bellter yn sbâr pan groesodd y bêl y trawst) i godi’r sgôr i 18-11 o blaid ei dîm ar 54 munud.

Roedd mewnwyr y ddau dîm, Sarel Pretorius o’r Dreigiau, a chapten Caerloyw, Greig Laidlaw, wedi treulio cyfnod yr un yn y cell callio, ond llwyddodd yr Albanwr i drosi cais McColl i ddod â’r sgôr yn gyfartal ar 18-18 cyn cicio’i drydedd gôl gosb ar 71 munud i roi ei dîm ar y blaen.

Gyda’r Cymro, James Hook, yn safle’r maswr i Gaerloyw, llwyddodd y Dreigiau i wrthsefyll y bygythiadau cyson o gyfeiriad y clwb Seisnig ac fe godwyd gwarchae hwyr a fu’n bygwth eu llinell gais i symud y chwarae i 22 y tîm cartref.

Ymdrechodd y blaenwyr, gyda chymorth y mwyafrif o’r olwyr, yn nerthol i symud sgarmes yn nes fesul modfedd at linell gais Caerloyw a gwelwyd eilydd fewnwr y Dreigiau, Charlie Davies, yn tyrchu drwy daclo ofer i groesi am y cais i arwain at y canlyniad annisgwyl.

Wrth reswm, beth bynnag fydd yn digwydd wythnos i fory yn Ffrainc, enwau Davies, Meyer a Jones fydd yng nghofnodion y fuddugoliaeth, ond roedd y garfan gyfan yn haeddu clod am frwydro mor galed, er nad yw tîm presennol Caerloyw yn un o’r goreuon yn eu hanes.

Tîm y Dreigiau gurodd Caerloyw: Carl Meyer; Adam Hughes, Tyler Morgan, Adam Warren, Hallam Amos; Dorian Jones, Sarel Pretorius; Phil Price, Elliot Dee, Brok Harris; Rynard Landman, Nick Crosswell; Lewis Evans [Capten], Nic Cudd, Taulupe Faletau. Eilyddion: Boris Stankovich, Shaun Knight, Matthew Screech, Charlie Davies, Angus O’Brien, Rhys Jones.

• YN y PRO12 y penwythnos hwn, y Gweilch fydd y cyntaf i fentro, pan fyddan nhw’n croesawu Treviso i Stadiwm Liberty heno a gobeithion Rhanbarth Tawe-Nedd-Penybont o orffen yn yr hanner dwsin uchaf, er yn brin iawn, yn dal yn fyw, ond rhaid iddyn nhw dderbyn nad yw’r tymor wedi bod yn un o’u goreuon o bell ffordd.

Bydd gêm y Sgarlets yn erbyn Glasgow ar gyrion Llanelli bnawn yfory yn allweddol i’w gobeithion am fod ymhlith y pedwarawd o dimoedd fydd yn cystadlu am le yn y Ffeinal Mawreddog, gyda’r Albanwyr wedi curo Zebre yn yr Eidal nos Wener diwethaf a chyflawni naid llyffant i godi i’r trydydd safle a disodli’r Cochion oddi yno.

Gorchwyl anodd i’r Dreigiau yw herio’r Gleision ym Mharc y Cardiff Arms bnawn drennydd.

Er taw dim ond pedair buddugoliaeth ddaeth i ran y Gwentiaid yn y PRO12 ar hyd y tymor hyd yn hyn, pwy a ŵyr, falle gallan nhw ein rhyfeddu wrth adeiladu ar lwyddiant wythnos diwethaf a ffrwyno gobeithion Rhanbarth ein Prifddinas yn eu hymdrech hwythau i orffen ymhlith y chwech uchaf?

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/3603/
2016-04-13T00:00:00+1:00Un o’r penwythnosau mwyaf cyffrous yn hanes gemau darbi rhwng y Rhanbarthau Cymreig
Dreigiau 20 Gweilch 26

Sgarlets 22 Gleision 28

Yn dilyn un o’r penwythnosau mwyaf cyffrous yn hanes gemau darbi rhwng y Rhanbarthau Cymreig cyfoes, rhaid aros i weld os gall y Gleision ein synnu a gorffen ymhlith yr hanner dwsin uchaf yn y PRO12.

Bu Rhanbarth y Brifddinas fel un o adar y nos yn ddiweddar, yn closio’n llechwraidd ychydig yn nes at gyrraedd y nod o fod ymhlith y timoedd fydd yn cystadlu ym mhrif gystadleuaeth Ewrop y tymor nesaf.

Er taw dim ond tair gêm yr un sydd yn dal i’w chwarae gan bob un o dimoedd y PRO12 heblaw am Glasgow a Zebre (y ddau yn chwarae eu gêm mewn llaw yn yr Eidal heno), os gall carfan Danny Wilson barhau ar eu trywydd diweddar, byddai’n goron ar dymor ddechreuodd yn dra siomedig iddyn nhw.

Y Gleision sy’n wir haeddu’r clod yn sgîl eu buddugoliaeth haeddiannol ar Barc y Sgarlets bnawn dydd Sadwrn diwethaf, gyda sawl aelod o’r tîm yn serennu a chapten Cymru, Sam Warburton, ar frig y rhestr yn ôl llawer o gefnogwyr a sylwedyddion.

Bu chwarae agored, rhedeg gyda’r bêl a’i thrafod yn gelfydd yn rhan traddodiadol o rygbi’r Sgarlets a chlwb Llanelli ar hyd y degawdau ond y Cochion oedd y tîm arddangosodd y lleiaf o’r sgiliau hynny yn y ddwy gêm ddarbi ac roedd hi fel petaen nhw yn dioddef o ymateb diflas i guro’r Gweilch wythnos ynghynt.

Agoriad gwefreiddiol yn Rodney Parade

Gwelwyd agoriad gwefreiddiol i’r ornest gan y ddau dîm yn Rodney Parade nos Wener, pan sgoriodd Jeff Hassler i’r ymwelwyr o fewn tri munud i’r gic gyntaf a Hallam Amos yn ymateb i’r Dreigiau yn fuan wedyn wrth i’r ddau gais orffen symudiadau pasio gwych yn y naill gornel chwith a’r llall.

Er i ni weld ymdrech arferol y Dreigiau, croesodd Rhys Webb yn ei ddull arferol yntau am ail gais i’r Gweilch ac fe greodd y canolwr ifanc cyffrous, Owen Watkin, y cyfle i’w gefnwr, Dan Evans, groesi am drydydd.

Â Dan Biggar wedi trosi dau o’r ceisiau, roedd Rhanbarth Tawe-Nedd-Penybont wedi creu rhagoriaeth o 19-8 erbyn yr egwyl a’r argoelion yn addawol am fuddugoliaeth gweddol gyfforddus er gwaetha absenoldeb Alun Wyn Jones a Justin Tipuric gyda Dan Lydiate ar fainc yr eilyddion ar ddechrau’r gêm.

Daeth ail gais i Amos yn gynnar yn yr ail hanner wedi iddo gicio dros ben Sam Davies (a oedd ymlaen erbyn hynny fel eilydd yn lle Hassler) a’r asgellwr yn dilyn ei gic i groesi yn y cornel chwith unwaith eto.

Gyda maswr y Dreigiau, Dorian Jones, wedi methu gyda’i ymdrechion i drosi ceisiau Amos, roedd y bwlch yn parhau yn 6 o bwyntiau cyn i flaenasgellwr y Gweilch, Sam Underhill, sgorio pedwerydd cais ei dîm i sicrhau pwynt bonws.

Cynyddwyd y bwlch i 13 pwynt gyda throsiad Biggar, ond, fel sydd wedi digwydd ar hyd y tymor, parhaodd y Dreigiau (dan gapteniaeth Taulupe Faletau, yn chwarae ei gêm gynghrair olaf yn Rodney Parade cyn gadael am Gaerfaddon) i frwydro i geisio achub y dydd.

Wrth i’r munudau dician heibio, cynyddodd y cyffro cyn i gefnwr y Dreigiau, Carl Meyer, ganfod bwlch, croesi am gais a’i drosi ei hunan i gau’r bwlch i 6 pwynt unwaith eto.

Roedd `na ond dwsin o funudau’n weddill erbyn hynny ac, er pwyso a chreu ambell gyfle yn eu hystod, methiant fu ymdrech y Dreigiau i gau’r bwlch ac fe’u gorfodwyd i fodloni ar bwynt bonws wrth gadw’r bwlch i lai na saith o bwyntiau ar y cae.

Mae casgliad y Gwentiaid o ddeg pwynt bonws wrth golli dan amgylchiadau tebyg yn fwy na nifer unrhyw dîm arall ac yn tystio i pa mor agos at lwyddo y mae carfan Lyn Jones ac, o gofio fod `na nifer o chwaraewyr addawol ifanc ar gael, falle bod `na ddyddiau gwell i ddod iddyn nhw y tymor nesaf.

Cyn hynny, wrth gwrs, mae ymweliad i Stadiwm Kingsholm amser cinio yfory i herio Caerloyw ar y gweill i’r Dreigiau yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Her Ewrop, a nhw yw unig gynrychiolwyr Cymru yng nghystadlaethau’r Cyfandir y tymor.

Penwythnos tawel

Dyna yw ffawd y triawd o Ranbarthau Cymreig eraill yr wythnos hon, gyda’r Gleision yn awyddus i gadw’u llif llwyddiannus yn rhedeg a’r Sgarlets yn gorfod llyfu ei briwiau yn dilyn eu methiant hwythau bnawn dydd Sadwrn diwethaf.

Er i’r sgôr fod llawn mor agos â’r canlyniad yng Nghasnewydd y noson gynt, byddai wedi bod yn dipyn o anghyfiawnder petai’r Sgarlets wedi llwyddo yn wyneb un o berfformiadau gorau diweddar y Gleision.

Does neb yn y PRO12 wedi sgorio cymaint o bwyntiau nag o geisiau na’r Gleision y tymor hwn ac fe welwyd pam wrth iddyn nhw garlamu ar y blaen yn gynnar ar gyrion Llanelli cyn i’r tîm cartref setlo i gywair y chwarae.

Dangosodd mewnwr Rhanbarth y Brifddinas, Lloyd Williams, ei fod yn meddu ar allu tebyg i Rhys Webb a’i wrthwynebydd uniongyrchol ar y dydd, Gareth Davies, i fylchu a rhedeg yn rymus am y cais cyntaf.

Gyda Gareth Anscombe yn trosi ac wedi cicio gôl gosb yn barod, roedd y Gleision wedi creu rhagoriaeth o 10-0 cyn i Dan Jones gicio gôl gosb ei hunan i agor cyfrif y Sgarlets.

Er i Jones ddyblu sgôr ei hunan ac un ei dîm a chau’r bwlch i bedwar pwynt, gorffennodd Tom James symudiad gwych i groesi am gais yn y cornel chwith ac, er i Anscombe fethu gyda’i ymdrech i drosi, ychwanegodd yntau gôl gosb i greu rhagoriaeth o 18-9 ar yr egwyl.

Gyda Jones a’i eilydd, Aled Thomas, yn cicio gôl gosb yr un ac Anscombe yn ymateb gydag un ei hunan yn yr ail hanner, roedd y sgôr o 21-15 yn ddigon agos i fygwth y Gleision cyn i Anscombe ei hunan arddangos ei allu cynhenid i agor y bwlch unwaith eto.

Pan aeth cic Hadleigh Parkes yn rhydd yng nghanol y cae, llwyddodd James i gael gafael ar y bêl cyn ei bwydo i’w faswr y tu mewn iddo.

Roedd `na ddigon o gefnogaeth ar gael i Anscombe allu pasio er mwyn curo’r amddiffynwyr oedd yn weddill, ond gwelodd yntau gyfle i ffug-basio a pheri dau o’r Sgarlets daro i mewn i’w gilydd yn hytrach na thaclo’r sgoriwr.

Ni chafodd Anscombe unrhyw drafferth i drosi ei gais ac, er i John Barclay gael ei wthio drosodd am gais cysur i’r Sgarlets a Thomas yn trosi, roedd yr ymdrech yn ofer ac yn rhy hwyr i effeithio ar y canlyniad.

Gorfodwyd y Gleision i chwarae’r munudau olaf heb un o hoelion wyth ei pac, y cyn-Sgarlet o ailrengwr, Josh Turnbull, ond roedd gweddill blaenwyr yr ymwelwyr, gyda'r rheng ôl o Warburton, Ellis Jenkins a Josh Navidi, ynghyd â’r prop profiadol, Taufa’ao Filise, bob amser ar flaen y gad ac yn ddigon cadarn i wrthsefyll y bygythiad.

Mae’n anodd gweld y Gleision yn cau’r bwlch o ddeng pwynt yn y Gynghrair rhyngddyn nhw a’r Sgarlets i fod ymhlith y pedwar fydd yn cystadlu am le yn y Ffeinal Mawreddog, ond gellir eu dychmygu’n gorffen ymhlith y chwech uchaf i ennill lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn yr Hydref.

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/3573/
2016-04-07T00:00:00+1:00Canu gyda’i gilydd
Cymru 67 Yr Eidal 14

Na, doedd `na ddim angen codwr canu ar y XV Cymreig yng Nghaerdydd bnawn dydd Sadwrn diwethaf wrth i Dan Lydiate a’i griw roi crasfa i’r Azzurri a sicrhau fod ein tîm rygbi cenedlaethol yn gorffen yn ail ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2016.

Cyn troi at drafod gêm olaf Cymru yn y Bencampwriaeth eleni, rhaid datgan canmoliaeth i’n tîm dan-20 mlwydd oed yn dilyn eu gorchest hwythau o gyflawni Camp Lawn haeddiannol sy’n arddangos i’r dim fod y dyfodol gweddol agos mewn dwylo da a’r gyfundrefn hyfforddi yn ei chyfanrwydd yn gweithio’n dda.

Gyda’r Eidal yn enwog am dai opera fel La Scala ym Milan a La Fenice yn Fenis, mae clywed anthem genedlaethol y wlad sef “Fratelli d’Italia” yn dueddol o’n hatgoffa o ambell aria opera, ond ryn ni’n dal i aros i weld eu tîm rygbi hwythau yn ymddangos yn gyson fel corws sy’n gyfarwydd â chanu gyda’i gilydd.

I’r gwrthwyneb yn llwyr, fodd bynnag, dechreuodd pob aelod o dîm Cymru ar yr un nodyn cyn gorffen gyda crescendo mawreddog i dawelu’r ymwelwyr unwaith eto a’u hanfon nôl gartref â’r llwy bren yn eu meddiant am flwyddyn arall.

O fewn pedair munud i’r gic gyntaf, lleddfwyd ein gofid am weld ailadrodd digwyddiadau Twicenham pan groesodd y mewnwr, Rhys Webb, am gais sydd mor nodweddiadol o’i chwarae trwy fylchu o fôn sgarmes yn agos at y llinell.

O weld ei faswr, Dan Biggar, yn cicio dwy gôl gosb yn ystod y chwarter awr canlynol ac amddiffyn yr Eidalwyr yn cael ei ymestyn fel darn o elastig a oedd ar fin torri, roedd hi’n anochel y deuai mwy o geisiau.

Biggar ei hunan greodd a sgoriodd yr ail gais ar 28 munud, wrth iddo fylchu yng nghanol y cae, cyfnewid pasiau gyda Jamie Roberts cyn croesi dan y pyst i wneud y gwaith o drosi ei gais ei hunan yn hawdd.

O fewn tri munud i’r trosiad hwnnw, gwelwyd un o geisiau gorau’r tymor, wrth i olwyr Cymru redeg â’r bêl o’u 22 eu hunain gan ei thrafod a’i phasio’n gelfydd a chywir i ryddhau Jonathan Davies a’r canolwr yn curo capten yr Eidal, Sergio Parisse, yn gyfforddus i groesi am gais arall dan y pyst.

Â rhagoriaeth o 27-0 i Gymru erbyn yr egwyl, roedd y gêm, i bob pwrpas, wedi ei hennill erbyn hynny a’r gobaith am wledd o rygbi agored wedi cynyddu i blesio’r cefnogwyr Cymreig yn dilyn y siom yn Nhwicenham wythnos ynghynt.

Pasio celfydd gan George North ganiataodd Roberts i groesi am bedwerydd gais Cymru o fewn pedwar munud i ddechrau’r ail hanner a phoen yr Eidalwyr yn cynyddu i ddinistrio’u tymor yn llwyr.

North ei hunan oedd y nesaf i groesi am gais yn fuan wedyn a’i redeg nerthol a thwyllodrus yn ormod i’r Azzurri ddygymod ag ef wrth iddo sgorio mewn pedair gêm ryngwladol yn olynol i efelychu record Shane Williams.

Gorfodwyd y cefnogwyr Cymreig i aros rhai munudau cyn i Liam Williams sgorio chweched cais ei dîm a hynny’n golygu fod pob un o olwyr Cymru heblaw’r asgellwr Hallam Amos wedi croesi.

Llwyddodd yr Eidalwyr eu hunain i sgorio dau gais ar 53 munud (trwy eu mewnwr Guglielmo Palazzani) ac ar 61 munud (eu canolwr Gonzalo Garcia yn croesi), ond doedd `na ddim gwir berygl y byddai Cymru’n colli’r dydd.

Ar ôl sgorio 39 pwynt cyn i’r Azzurri agor eu cyfrif eu hunain, cadwodd Cymru at yr un trywydd, gyda Ross Moriarty (ymlaen fel eilydd cynnar yn lle Justin Tipuric) yn sgorio dau gais i arddangos ei allu fel rhedwr grymus.

Erbyn cais cyntaf Moriarty, roedd Rhys Priestland ar y cae fel eilydd yn safle’r maswr yn lle Biggar ac, ynghyd â throsi ceisiau’r blaenasgellwr, gwelwyd yntau’n mwynhau’r rhyddid i redeg a gwelwyd yr eilydd fewnwr, Gareth Davies, yn sgorio nawfed cais i Gymru yn eiliadau ola’r ornest.

Â Priestland yn trosi eto, roedd y cyfanswm o bwyntiau Cymreig yn record newydd yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, ond a oedd hynny yn ddigon o gysur yn dilyn colli i Loegr a gweld y Saeson yn cyflawni Camp Lawn ychydig oriau’n ddiweddarach?

Yr ateb syml, wrth gwrs, yw na fydd gweld ein cymdogion daearyddol yn creu rhagoriaeth o’r fath ac fe fydd Warren Gatland a’i gyd-hyfforddwyr yn sicr o ddechrau gweithio ar dalu’r pwyth yn ôl, eto yn Nhwicenham ar 29 Mai cyn teithio i Seland Newydd i chwarae tair Gêm Brawf yn erbyn y Teirw Duon.

Tîm Cymru gurodd yr Eidal: Liam Williams (Sgarlets); Hallam Amos (Dreigiau), Jonathan Davies (ASM Clermont), Jamie Roberts (Harlequins), George North (Northampton); Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch); Rob Evans (Sgarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Sgarlets), Bradley Davies (Wasps), Luke Charteris (Raçing 92), Dan Lydiate (Gweilch [Capten]), Justin Tipuric (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Ken Owens (Sgarlets), Gethin Jenkins (Gleision), Aaron Jarvis (Gweilch), Jake Ball (Sgarlets), Ross Moriarty (Caerloyw), Gareth Davies (Sgarlets), Rhys Priestland (Caerfaddon), Gareth Anscombe (Gleision).

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/3481/
2016-03-23T00:00:00+1:00Nawr amdani!
Dim newid yn nhîm rygbi Cymru ar gyfer yfory, yr ail ymweliad i stadiwm rygbi cenedlaethol y Saeson yn Nhwicenham y tymor hwn, ond mae triawd o chwaraewyr yn dychwelyd o anafiadau i gryfhau ac atgyfnerthu mainc yr eilyddion.

Yn dilyn curo’r Ffrancod bythefnos yn ôl ac er gwaetha’r feirniadaeth o ambell gyfeiriad, mae Warren Gatland a’i gyd-hyfforddwyr wedi arddangos eu ffydd yn y criw sy’n parhau i feddu ar bosibilrwydd o orffen yn Bencampwyr y Chwe Gwlad er na ddaw Coron Driphlyg na Champ Lawn i Gymru eleni.

Gyda’r atgof yn fyw o’r fuddugoliaeth Gymreig yn Ne Orllewin Llundain yng Nghwpan y Byd ychydig fisoedd yn ôl, bydd y tîm a’r cefnogwyr yn teithio’n hyderus i gadeirlan rygbi Lloegr ac yn gobeithio chwalu gobeithion Lloegr o gipio Coron Driphlyg eu hunain, rhywbeth a fyddai’n eu cadw ar y llwybr am Gamp Lawn hefyd.

Oes, mae gan dîm y Rhosyn Coch hyfforddwr newydd, Eddie Jones, sy’n meddu ar gyfenw Cymreig ac mae ganddo brofiad eang yn cynnwys yr orchest o arwain Siapan i fuddugoliaeth dros Dde Affrica yn gynnar yng Nghwpan y Byd 2015 cyn i’r Springboks chwalu ymdrech Cymru yn rownd yr wyth olaf.

Does a wnelo digwyddiadau fisoedd yn ôl ddim byd i ddylanwadu ar ymdrechion Sam Warburton a’i gyd-chwaraewr, criw sydd bellach yn brofiadol iawn ac a ddylai fod wedi elwa o’r profiad o fethu â churo’r Gwyddelod ar benwythnos cyntaf Pencampwriaeth 2016.

Mae’n dda gweld y prop Paul James ar gael i gymryd ei le ar y fainc tra bod Gethin Jenkins yn dioddef o anaf i goes ac mae Luke Charteris wedi gwella o’i anaf yntau i figwrn ac wedi cymryd rhan cyflawn yn yr ymarfer ar hyd y dyddiau diwethaf.

Yn y cyfamser, mae’n fonws enfawr fod y mewnwr Rhys Webb nôl ar fainc yr eilyddion wedi chwe mis o absenoldeb yn sgîl anaf difrifol yn ystod y gemau paratoi ar gyfer Cwpan y Byd.

Manteisiodd Gareth Davies, mewnwr y Sgarlets, ar absenoldeb Webb, gan sgorio hanner dwsin o geisiau a rhedeg yn rymus mewn modd nad sydd yn annhebyg i ambell rediad ei gyd-fewnwr.

I raddau helaeth, gellid dadlau taw Davies sy’n meddu ar y ddawn orau o redeg yn gyflym a chryf o bellter, ond byddai dilynwyr selog y Gweilch yn gwrth-ddadlau taw eu mewnwr hwythau sy’n meddu ar yr holl sgiliau cyflawn.

Penderfyniad Gatland yw cadw’r blaenwyr ddechreuodd yn erbyn Ffrainc ac mae llawer yn gweld yr wythwr, Taulupe Faletau, a’r ailrengwr, Alun Wyn Jones, ymhlith y goreuon yn y byd yn eu safleoedd ar hyn o bryd ac yn allweddol yn y frwydr i sicrhau digon o feddiant o’r bêl.

Os gall y pac sicrhau digon o feddiant o’r bêl mae gan yr olwyr ddigon o arfau i greu cyfleoedd i George North ac Alex Cuthbert ar y ddwy asgell ac i’r cefnwr cyffrous, Liam Williams.

Mae rhedeg grymus Jamie Roberts a gallu Jonathan Davies i fylchu unrhyw amddiffyn yng nghanol y cae yn fygythiad i unrhyw amddiffyn tra bod cicio cywir Dan Biggar at y pyst yn parhau i fod yn rhan allweddol o ymgyrch Cymru.

Dydy hi ddim yn hawdd darogan canlyniadau gemau Cymru yn erbyn Lloegr, yn arbennig yn Nhwicenham, ond mae’r galon a’r ymennydd yn dweud taw Warburton fydd yn arwain y tîm buddugol y tro hwn.

Tîm Cymru i wynebu Lloegr: Liam Williams (Sgarlets); Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (ASM Clermont), Jamie Roberts (Harlequins), George North (Northampton); Dan Biggar (Gweilch), Gareth Davies (Sgarlets); Rob Evans (Sgarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Sgarlets), Bradley Davies (Wasps), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Sam Warburton (Gleision [Capten]), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Ken Owens (Sgarlets), Paul James (Gweilch), Tomas Francis (Caerwysg), Luke Charteris (Raçing 92), Justin Tipuric (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch), Rhys Priestland (Caerfaddon), Gareth Anscombe (Gleision).

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/3411/
2016-03-10T00:00:00+1:00Hemisffer gwag
De Affrica 23 Cymru 19

Seland Newydd 62 Ffrainc 13

Ariannin 43 Iwerddon 20

Awstralia 35 Yr Alban 34

Do, fe orffennodd diddordeb Hemisffer y Gogledd yng Nghwpan y Byd Rygbi dros y penwythnos diwethaf gyda’r pedwar tîm fydd yn cystadlu yn y rownd gynderfynol fory a drennydd i gyd yn aelodau o Bencampwriaeth Hemisffer y De.

O ran y cyffro dros y pedair gêm yn rownd yr wyth olaf, roedd yr achlysur fel brechdan gyda’r gyntaf a’r olaf fel dwy dafell flasus o chwarae grymus gan ddau dîm wedi eu llenwi gan ddwy ornest unochrog nad oedd yn llwyr mor ddeniadol heblaw i’r buddugwyr yn y ddau achos.

Tra gwelwyd Cymru a’r Alban yn brwydro i’r eithaf yn erbyn y Springboks a’r Walabîs, ildiodd y Ffrancod a’r Gwyddelod fel taeogion a rhoi rhwydd hynt i’w gwrthwynebwyr hwythau.

Er y siom i ninnau drigolion Gogleddol y blaned o weld mawrion Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cwympo un ar ôl y llall, rhaid i ni edmygu’r modd y mae’r pedwar tîm buddugol wedi adeiladu momentwm ar gyfer cymalau hwyr y gystadleuaeth eleni.

O gofio’r modd y curodd Siapan Dde Affrica ar gyrion dinas Brighton ar benwythnos cynta’r gystadleuaeth, mae’n dipyn o ryfeddod gweld y tîm gollodd y diwrnod hwnnw wedi adennill parch dilynwyr y gamp a chyrraedd y rownd gynderfynol.

Yn anffodus i dîm Cymru, roedd momentwm a dyfalbarhad y Proteas (enw sy’n fwy addas erbyn hyn ar gyfer yr “Enfys-Genedl”) wedi tyfu’n ddigonol i drechu’n ffefrynnau ninnau amser te ddydd Sadwrn a chwalu’r gobeithion o wella ar yr ymdrech yn Seland Newydd bedair blynedd yn ôl.

Wrth gynnal post-mortem ar ymgyrch Cymru yn ei chyfanrwydd, gellir honni i dactegau’r capten, Sam Warburton, yn ystod cyfnod allweddol yng ngornest olaf eu Grŵp yn erbyn Awstralia pan oedd dau o’r gwrthwynebwyr yn y cell callio, gostio’n ddrud iawn.

Beth bynnag am hynny, crëwyd sawl cyfle euraid i greu bwlch cynnar digonol i ennill y dydd ddydd Sadwrn diwethaf eto, tra ildiwyd cyfleoedd dianghenraid i Handré Pollard, maswr De Affrica, i gicio goliau cosb.

Roedd y ddau ailrengwr, Alun Wyn Jones a Luke Charteris yn euog o ildio ciciau cosb dwl, gyda’r chwaraewr tal o Landeilo yn newid cyfeiriad ei rediad unwaith i amharu yn anghyfreithlon ar lwybr gwrthwynebydd a gwneud hynny reit o dan drwyn y dyfarnwr o Loegr, Wayne Barnes.

Er hynny oll, mae pob aelod o garfan Cymru a gymerodd ran yng Nghwpan y Byd 2015 yn haeddu mesur hael o ganmoliaeth am eu hymdrechion a neb yn haeddu mwy o glod na’r haneri, Dan Biggar a Gareth Davies.

Gyda maswr y Gweilch yn profi ei hunan yn giciwr cywir o bob pellter ac o bob ongl, rhaid cyfaddef na welwyd colli’r anffodus Leigh Halfpenny o ran cronni pwyntiau nac o ddilyn ciciau uchel i adennill meddiant o’r bêl.

Llwyddodd mewnwr y Sgarlets i greu tipyn o hanes personol ar hyd yr ymgyrch trwy sgorio pump cais, gyda’r un yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn yn arddangos i’r dim gallu’r haneri i gyfuno’n effeithiol.

Roedd Biggar wedi cicio’r bêl yn uchel a’i hadennill yn wyneb ymdrechion gwrthwynebwr ac, wrth iddo fygwth cael ei daclo, gwelodd fod Davies ar garlam ychydig lathenni i’r dde yn barod i dderbyn pas i groesi er cael ei daclo ar y llinell gais.

Daeth y sgôr hwnnw yn haeddiannol yn dilyn sawl ymdrech a syrthiodd wrth ymyl y lan o George North yn cael ei daclo pan ymddangosai’n anochel y byddai’n sgorio yn y cornel chwith i bas Gethin Jenkins yn rhy gryf dros ben Tyler Morgan pan oedd y canolwr ifanc yn rhydd ar yr asgell dde a rhediad clir o’i flaen.

Gyda chicio proffidiol Biggar a chais Davies wedi creu rhagoriaeth o 19-18 i Gymru erbyn 64 munud o’r chwarae a phum gôl gosb a gôl adlam Pollard yn unig yn ymateb oddi wrth y gwrthwynebwyr, llwyddwyd i wrthsefyll ymosodiadau yn dwyn i gof y fuddugoliaeth yn erbyn yr Iwerddon nôl ym mis Mawrth.

Cadwyd y sgôr felly am 10 munud ac, wrth i’r ornest dynnu at ei therfyn, tyfodd y gobeithion am fuddugoliaeth ryfedd i efelychu camp 2011 o gyrraedd y rownd gynderfynol.

Hawliodd capten De Affrica, Fourie du Preez, wedi’r gêm, fodd bynnag, iddo sylwi fod chwaraewyr Cymru i’w gweld yn gynyddol flinedig ar ôl awr o chwarae a’i fod ef a’i dîm yn awchu i fanteisio ar hynny.

Boed hynny’n wir neu beidio, du Preez ai’i wythwr, Duane Vermeulen, gyfunodd i greu cyfle i’r mewnwr profiadol i groesi am gais ar 75 munud, pan ddenwyd Alex Cuthbert i mewn o’i asgell gan Vermeulen i greu’r gofod i du Preez sgorio ac mae’n debyg nad oedd modd cysuro chwaraewr y Gleision yn dilyn camgymeriad costus.

Gwelwyd Cymru’n colli mewn modd torcalonnus a’r ornest yn un, fel yn erbyn y Walabîs wythnos ynghynt, y gellid fod wedi ei hennill oni bai am frychau mân ac adlam y bêl yn mynd o blaid y gwrthwynebwyr, ynghyd, yn anffodus, ag ambell nam tactegol ac anhrefn achlysurol.

O leiaf, dyna’r teimlad ymhlith chwaraewyr a chefnogwyr Cymru nos Sadwrn, ond, yn dilyn gweld Ffrainc a’r Iwerddon yn cael eu chwythu i ffwrdd yn eu gemau hwythau, torrwyd calonnau’r Albanwyr mewn modd mwy creulon fyth.

Roedd y Sgotiaid wedi brwydro’n ddygn a chroesi am dri chais i’w gosod 34-32 ar y blaen yn erbyn Awstralia cyn i’r dyfarnwr, Craig Joubert, o Dde Affrica roi cic gosb ddadleuol yn erbyn Jon Welsh am gamsefyll.

Llwyddodd maswr y Walabîs, Bernard Foley, i gicio gôl gosb gydag ond eiliadau’n weddill i’w chwarae ac yna, o wylio’r “drosedd” ar fideo, sylweddolwyd nad oedd Welsh yn camsefyll am taw eilydd-fewnwr Awstralia, Nick Phipps, oedd yr olaf i gyffwrdd y bêl cyn Welsh.

Roedd capten yr Alban, Greig Laidlaw, a’u hyfforddwr, Vern Cotter, dan fwy o deimlad nag y bu Warburton 24 awr ynghynt yn dilyn y fath drychineb a bu cryn drafod am Joubert ar hyd y dyddiau canlynol yn dilyn gweld y dyfarnwr yn carlamu o’r maes wedi iddo chwythu ei chwiban i orffen y gêm

Wrth inni edrych nôl dros y gystadleuaeth o safbwynt Cymreig, mae’n anochel nodi i Warren Gatland a’i gyd-hyfforddwyr weld y rhestr o gleifion yn tyfu’n gyson i beri anawsterau a brofodd yn anorchfygol yn y diwedd.

Clod, fodd bynnag, i bawb oedd yn ymwneud ag ymgyrch Cymru am beidio â defnyddio’r holl anafiadau yn esgus am fethu’r tro hwn a gallwn ond dymuno gwellhad buan i’r holl gleifion a rhwydd hynt ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad fydd yn cychwyn ym mis Chwefror.

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/2869/
2015-10-21T00:00:00+1:00Holl gyffro Cwpan Rygbi'r Byd 2015 yn Gymraeg ar S4C
Fe fydd S4C yn darlledu cyffro a drama Cwpan Rygbi'r Byd 2015, gan gynnig gwasanaeth swmpus o gemau byw, uchafbwyntiau a rhaglenni trafod a dadansoddi.

Fe fydd gwasanaeth Cwpan Rygbi'r Byd 2015 ar S4C yn cynnwys naw gêm fyw, gan ddilyn holl gemau Cymru yn ystod y bencampwriaeth a gynhelir yn bennaf yn Lloegr, gyda rhai gemau yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

A beth bynnag fydd tynged Cymru yn ystod y gystadleuaeth, bydd S4C yn darlledu'n fyw un gêm o rownd yr wyth olaf, un gêm o'r rownd gynderfynol, y gêm efydd a'r ffeinal.

Bydd gwasanaeth S4C yn dechrau nos Fercher, 16 Medi, gyda rhaglen ragflas (Rygbi: Cwpan y Byd a Mwy), ac yn parhau ar 18 Medi gyda darllediad o'r seremoni agoriadol a'r gêm gyntaf, Lloegr v Fiji yn Twickenham.

Bydd ymgyrch Cymru yn y bencampwriaeth yng Ngrŵp A yn dechrau ar 20 Medi yn Stadiwm y Mileniwm yn erbyn Uruguay. Yna bydd Cymru'n chwarae Lloegr yn Twickenham ar 26 Medi. Ar 1 Hydref fe fydd Cymru yn wynebu Fiji yng Nghaerdydd ac Awstralia v Cymru fydd y gêm olaf hollbwysig yn y rowndiau grŵp ar 10 Hydref yn Twickenham.

Yn ogystal â'r darllediadau teledu, bydd y naw gêm ar gael i'w gwylio ar wasanaeth ar-lein ar-alw S4C, s4c.cymru. Gallwch hefyd fwynhau holl uchafbwyntiau'r gemau ar y wefan rygbi, s4c.cymru a hefyd ar iPlayer a llwyfannau eraill.

Mae'r tîm cyflwyno yn cynnwys chwaraewyr rhyngwladol sydd â mwy na 400 cap, dros 1300 o bwyntiau a rhagor na 80 cais dros Gymru. Ymhlith aelodau tîm cyflwyno S4C, mae pump Jones talentog – Gwyn, Dafydd, Deiniol, Derwyn a Stephen, y dewin bach Shane Williams a'r mewnwr medrus Dwayne Peel.

Gareth Roberts fydd yn cyflwyno'r gemau byw gydag Wyn Gruffydd a chyn gapten Cymru, Gwyn Jones fel sylwebwyr ac Owain Gwynedd fel gohebydd. Bydd Dot Davies yn cyflwyno sioe arbennig o ddadansoddi a thrafod Cwpan Rygbi'r Byd bob nos Fercher ar S4C - Rygbi: Cwpan y Byd a Mwy - gydag enwau amlwg o'r byd rygbi fel gwesteion a Rhys ap William fel gohebydd. Cynhelir y sioe mewn clwb rygbi gwahanol yng Nghymru bob wythnos, gan ddechrau gyda'r rhaglen ragflas o Heol Sardis, Pontypridd ar 16 Medi.

Bydd Dot yn croesawu Gwyn Jones fel gwestai bob nos Fercher a'r gwesteion eraill ar y sioe ac yn ystod darllediadau'r gemau byw bydd cyn chwaraewyr Cymru, Dafydd Jones, Deiniol Jones, Stephen Jones a Dwayne Peel. Gwesteion eraill sioe nos Fercher bydd Shane Williams, Derwyn Jones, Arthur Emyr, a'r brodyr Nicky a Jamie Robinson.

Meddai Dwayne Peel, cyn fewnwr Cymru a mewnwr presennol Bryste, "Rwy'n wirioneddol yn edrych ymlaen at fod yn rhan o dîm cyflwyno S4C. Dyma'r gystadleuaeth fwya' agored ers blynyddoedd. Efallai taw Seland Newydd yw'r ffefrynnau, ond fe all un o chwe gwlad ennill y gystadleuaeth eleni. Fe all yr enillydd ddod o grŵp Cymru, Grŵp A, gan y bydd y ddwy wlad fydd yn mynd trwodd i'r chwarteri eisoes wedi ennill momentwm ar ôl sawl brwydr galed."

Bydd llond cae o raglenni eraill i gyd-fynd â'r twrnamaint, gan gynnwys y sioe siarad hwyliog, Jonathan gydag arwr y maes rygbi, Jonathan Davies, a fu'n chwarae dros Gymru yn y ddau gôd, a'r cyflwynydd rygbi Sarra Elgan yn bwrw golwg ysgafn ar yr holl chwarae ar noswyl gemau Cymru.

Hefyd fe fydd pedwar côr rhanbarthol - Scarlets, Y Dreigiau, Y Gweilch a'r Gleision - yn ogystal â chôr o ogledd Cymru yn cystadlu yn Codi Canu, gyda'r enillwyr yn ennill gwobr gudd arbennig.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, "Rydym yn falch iawn o'r pecyn o raglenni, cyflwynwyr a sylwebwyr sydd gennym i'w cynnig ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2015. Bydd y tîm hwn yn cynnig gwasanaeth y bydd cefnogwyr rygbi am ei ddilyn. Bydd gwasanaeth S4C yn dangos cydbwysedd golygyddol ac arbenigedd rygbi bob amser, ond bydd y persbectif Cymreig yn siŵr o ddal eu diddordeb a'u sylw."

Am holl fanylion rhaglenni Cwpan Rygbi'r Byd ar S4C, ewch i amserlen S4C ar y wefan s4c.cymru

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/2731/
2015-09-15T00:00:00+1:00Amserlen newydd gemau byw Clwb Rygbi
Bydd gemau byw Clwb Rygbi o’r Guinness Pro 12 ar gyfer tymor 2015-2016 yn cael eu darlledu ar S4C ar amser newydd – 2.15 ar brynhawn Sul - gan ddechrau gyda gêm Y Gleision yn erbyn Zebre ar Sul, 6 Medi.

Bydd gêm Y Gleision yn erbyn yr Eidalwyr (cic gyntaf 2.30) yn cael ei darlledu’n fyw o Barc yr Arfau, Caerdydd fel rhan o arlwy cyffrous chwaraeon S4C ar gyfer y Sul yn cynnwys gemau byw'r Guinness Pro 12, goreuon rygbi Ffrainc - y Top 14 am 4.30 ac uchafbwyntiau o wahanol chwaraeon yn Clwb am 5.00.

Bydd gwasanaeth rhad ac am ddim Clwb Rygbi o’r Guinness Pro 12 a chystadlaethau clwb eraill ar brynhawniau Sul yn ychwanegol i raglenni’r sianel o Gwpan Rygbi’r Byd 2015. Bydd y sianel yn cynnig gwasanaeth swmpus o gemau byw, uchafbwyntiau a rhaglenni trafod a dadansoddi o Gwpan Rygbi’r Byd. Yn ystod y twrnamaint ac ar ambell adeg arall, bydd amseriad darlledu Clwb Rygbi weithiau’n amrywio.

Mae isdeitlau Saesneg a sylwebaeth Saesneg ar gael drwy'r gwasanaeth botwm coch/dewis iaith ar gyfer gemau byw.

Meddai Sue Butler, Golygydd Chwaraeon S4C: "Mae darlledu gêm fyw o’r Guinness Pro 12 ar yr amser newydd yn golygu bydd prynhawniau Sul yn llawn cyffro i ddilynwyr y gêm yng Nghymru. Gan fod y frwydr am leoedd yn y gystadleuaeth Cwpan Ewrop wrth galon ymgyrch y gynghrair, bydd pob gêm yn cyfri. Bydd hyn i gyd ar ben ein gwasanaeth cynhwysfawr Cwpan Rygbi’r Byd 2015, felly gall bawb sy’n caru rygbi edrych ymlaen am fisoedd cyffrous o wylio S4C.”

Cyflwynydd Clwb Rygbi, cynhyrchiad BBC Cymru ar S4C, fydd Gareth Roberts gyda Gareth Charles yn sylwebu. Meddai Geoff Williams, Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru, “Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i gynhyrchu tymor arall o raglenni byw Clwb Rygbi. Mae’r gwerthoedd cynhyrchu uchel a safon glodwiw tîm cyflwyno BBC Cymru yn helpu i wneud Clwb Rygbi yn un o gyfresi blaenllaw’r Sianel. Rydym yn gobeithio bydd yr amser newydd yn blatfform i sicrhau parhad llwyddiant y brand a’r gwasanaeth.”

Bydd Clwb Rygbi yn darlledu nifer o gemau darbi rhwng y rhanbarthau Cymreig yn ystod y tymor gan gynnwys Dreigiau v Gleision ddydd Sul 27 Rhagfyr a’r Gleision v Scarlets Ddydd Calan, Gwener 1 Ionawr.

Ymhlith y gemau byw eraill Guinness Pro 12 sydd wedi eu cadarnhau ar gyfer wythnosau cyntaf y tymor mae Gweilch v Munster ddydd Sul 13 Medi a Zebre v Scarlets ddydd Sul 4 Hydref.

Glasgow Warriors ddaeth i’r brig y tymor diwethaf ar ôl buddugoliaeth sylweddol yn erbyn Munster yn y Ffeinal, y tro cyntaf i dîm o’r Alban ennill y Gynghrair. Roedd hi’n stori gymysg i ranbarthau Cymru ac mi fydd y pedwar rhanbarth yn gobeithio gwella’u perfformiadau dros y tymor newydd. Bydd nerth a dyfnder sgwad pob rhanbarth yn dra phwysig yn gynnar yn y tymor gyda’u chwaraewyr cenedlaethol i ffwrdd ar ddyletswyddau Cwpan Rygbi’r Byd.

Yn dilyn Clwb Rygbi ar brynhawn Sul bydd rhaglen Top 14: Rygbi Ffrainc gyda goreuon y gêm yn y brif Gynghrair Ffrengig yn cael eu darlledu am 4.30.

Ar ôl prynhawn o rygbi gafaelgar ar S4C bydd Clwb, sioe chwaraeon y Sianel, nôl am 5.00 yng nghwmni’r cyflwynwyr Dylan Ebenezer a Geraint Hardy.

Wedi’i chynhyrchu gan gwmni Rondo Media yn fyw o’i stiwdios yng Nghaernarfon, fe fydd Clwb yn cynnwys pêl-droed o Uwch Gynghrair Cymru, seiclo, ralïo, rhedeg ac athletau ymhlith chwaraeon eraill.

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/2681/
2015-08-24T00:00:00+1:00Gormod o arbrofi
Cymru 21 Iwerddon 35

Nid dyma’r canlyniad yr oedd y miloedd a heidiodd i Stadiwm y Mileniwm bnawn dydd Sadwrn yn ei ddisgwyl er i’r ornest gael ei disgrifio ymlaen llaw fel un “gyfeillgar” a phawb yn ymwybodol nad yw unrhyw ornest ryngwladol yn un wir gyfeillgar.

Oes, mae rhaid cydnabod taw tîm arbrofol a ddewisodd Warren Gatland a’i gyd-hyfforddwyr wrth gymryd y cam cystadleuol cyntaf ar y ffordd i Gwpan y Byd fis nesaf.

Does dim amheuaeth, fodd bynnag, nad oes `na gystadlu go iawn yn mynd rhagddo rhwng nifer o chwaraewyr sy’n ceisio bod yn aelod o’r garfan derfynol o 31 ar gyfer yr Her Fawr, fydd yn cychwyn gyda gêm yn erbyn Uruguay ar 20 Medi yng Nghaerdydd.

Un peth sy’n sicr yn dilyn colli i’r Iwerddon yw y bydd sawl Cymro a chwaraeodd yn cael eu gollwng o’r garfan gyda nifer sylweddol o sylwedyddion yn darogan taw dyna oedd ymddangosiadau olaf Michael Phillips a James Hook yng nghrys coch ein tîm cenedlaethol.

Doedd `na ddim sicrwydd ar ddechre’r wythnos pryd yn union y byddai Gatland yn rhoi’r newyddion drwg i’r chwaraewyr cyntaf fyddai’n cael eu gollwng ac roedd blaenasgellwr y Gweilch, Justin Tipuric, yn barod â’u gyffes fod pawb yn teimlo’n nerfus wrth baratoi i dreulio’r cyfnod nesaf o ymarfer yng Ngogledd Cymru yn hytrach na Gwlad Pwyl.

Yn sgîl ei berfformiad clodwiw arferol ddydd Sadwrn yn cyflawni dyletswyddau’r is-gapten ynghyd â gweithio’n ddiwyd yn safle’r blaenasgellwr ochr olau’r sgrym, does dim angen i Tipuric ofidio am ei le yn y garfan derfynol, er y bydd e’n parhau, yn ôl pob tebyg, yn israddol i Sam Warburton.

Yn absenoldeb capten y garfan, ynghyd â’r mwyafrif o sêr Cymru, roedd wynebu her y Gwyddelod yn mynd i fod yn dalcen hynod galed i’w ddringo ac fe wireddwyd y gofidion yn gynnar wrth i’n cefndryd Celtaidd greu bwlch enfawr yn y sgôr.

O weld yr ymwelwyr yn sgorio pump cais ar hyd yr ornest a chreu rhagoriaeth o 25-7 erbyn diwedd yr hanner cyntaf cyn ei ymestyn i 35-7, roedd hi’n dipyn o gamp i Gymru adennill ychydig o hunan-barch â’r sgôr terfynol.

Diffygion amddiffynnol ildiodd geisiau cynta’r gêm i wythwr a chapten Iwerddon, Jamie Heaslip, a’r canolwr, Darren Cave, cyn i’r profiadol Keith Earls, fanteisio ar y bêl yn cael ei tharo’n rhydd oddi ar ben-glin Eli Walker yn dilyn tacl rymus ar asgellwr y Gweilch a’r canolwr Gwyddelig arall yn gwibio’n ddi-wrthwynebiad am drydydd cais ei dîm.

Cydweithio celfydd rhwng Tipuric a Richard Hibbard ar flaen lein greodd gyfle i’r bachwr groesi am unig gais Cymru yn yr hanner cyntaf, er i Walker fod o fewn dim i sicrhau ail gais ond iddo golli rheolaeth o’r bêl wrth geisio’i thirio.

Sgoriodd Simon Zebo, ymlaen fel eilydd yn lle Andrew Trimble, a Felix Jones geisiau eraill Iwerddon a Paddy Jackson yn cicio dwsin o bwyntiau i godi’r cyfanswm yn un tra sylweddol i dorri’n calonnau.

Ceisiau cysur yn unig oedd un yr un i Tipuric a’r asgellwr, Alex Cuthbert, er mor gelfydd oedd y gwaith arweiniodd at y ddau sgôr, gyda’r is-gapten yn arddangos i’r dim pa mor amryddawn yw e ar y cae rygbi wrth dwyllo’r darpar-daclwyr geisiodd ei rwystro rhag sgorio.

Dim ond yn eiliadau ola’r ornest y sgoriodd Cuthbert ei gais yntau i roi cyfle i Gareth Anscombe, a oedd erbyn hynny ymlaen fel eilydd yn lle Hook, i arddangos ei allu fel ciciwr wrth drosi’r cais o’r ystlys.

Roedd Hook wedi trosi cais Hibbard o’r ystlys, ond doedd chwarae’r maswr ddim yn llwyr argyhoeddi ac mae gan Anscombe well cyfle i barhau yn y garfan, fel sydd gan ei fewnwr gyda’r Gleision, Lloyd Williams.

O ran y blaenwyr ar y cae ddydd Sadwrn, doedd `na ddim digon o awch yn eu chwarae cyffredinol, heblaw am Tipuric, gyda Ross Moriarty, er iddo dreulio cyfnod yn y cell callio am ddefnydd or-rymus o fraich mewn tacl, yn arddangos ei addewid arferol.

Wrth inni ddeall fod Gatland wedi canolbwyntio ar drwytho’r chwaraewyr mewn cyfundrefn o greu ffitrwydd dros eu mis cyntaf gyda’i gilydd, gwelwyd yn amlwg fod angen i’r rhai oedd i’w gweld wythnos diwethaf dreulio llawer mwy o amser yn trafod y bêl os am ddod yn agos at dalu’r pwyth yn ôl i’r Gwyddelod yn Nulyn ymhen pythefnos.

Tîm Cymru wynebodd yr Iwerddon: Hallam Amos (Dreigiau); Alex Cuthbert (Gleision), Tyler Morgan (Dreigiau), Scott Williams (Sgarlets, [capten]), Eli Walker (Gweilch); James Hook (Caerloyw, Michael Phillips (Raçing Métro); Nicky Smith (Ospreys), Richard Hibbard (Caerloyw), Aaron Jarvis (Gweilch), Jake Ball (Sgarlets), Dominic Day (Caerfaddon), Ross Moriarty (Caerloyw), Justin Tipuric (Gweilch[is-gapten]), Dan Baker (Gweilch).

Eilyddion: Rob Evans (Sgarlets), Kristian Dacey (Gleision), Scott Andrews (Gleision), James King (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau), Lloyd Williams (Gleision), Gareth Anscombe (Gleision), Matthew Morgan (Bryste).

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/2662/
2015-08-14T00:00:00+1:00Arbrofol
Er i Warren Gatland lusgo carfan rygbi Cymru i uchelfannau’r Swistir a gwres llethol Qatar fel rhan o’r paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd fis nesaf, yfory yw’r diwrnod cyntaf pan gaiff y cefnogwyr weld a (gobeithio) deall canlyniadau’r teithiau.

Tîm digon arbrofol a gyhoeddodd Gatland ddydd Mawrth i wynebu’r Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm bnawn fory am 2.30 a pherfformiadau chwaraewyr unigol, er yr angen i arddangos eu gallu i gyfuno’n fygythiol, yn bwysicach na’r canlyniad.

Wrth reswm, byddai ennill yfory yn ganlyniad digon boddhaol i Gatland ac i’r cefnogwyr, ond o weld absenoldeb cynifer o chwaraewyr profiadol, ni ddylai fod yn ormod o siom petai’r tîm hwn yn colli.

Oes, mae `na chwaraewyr ifainc ac addawol cyffrous sy’n sicr o greu argraff ffafriol wedi eu dewis ar gyfer yr ornest yfory, gydag enwau cyfarwydd fel Hallam Amos, Tyler Morgan a Dan Baker yn ddigon amlwg bellach tra bod Ross Moriarty yn aelod o deulu fu’n allweddol yn ymgyrch gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ym 1987.

Amser a ddengys os gwireddir yr addewid, ond pob clod i Gatland am wobrwyo Scott Williams a Justin Tipuric gyda’r capteniaeth a’r is-gapteniaeth yfory yn dilyn eu hymroddiad llwyr i’r achos ar hyd y blynyddoedd heb fod yn ddewisiadau cyntaf bob amser.

Gydag hyfforddwyr Cymru yn bygwth rhyddhau 10-12 chwaraewr o’r garfan estynedig yn dilyn gêm yfory, mae’n amlwg y bydd pawb sydd wedi ei dewis y tro hwn yn awyddus i gadw’u gobeithion yn fyw ar gyfer y cymal nesaf o’r paratoi.

Tîm Cymru i wynebu’r Iwerddon yfory: Hallam Amos (Dreigiau); Alex Cuthbert (Gleision), Tyler Morgan (Dreigiau), Scott Williams (Sgarlets, [capten]), Eli Walker (Gweilch); James Hook (Caerloyw, Michael Phillips (Raçing Métro); Nicky Smith (Ospreys), Richard Hibbard (Caerloyw), Aaron Jarvis (Gweilch), Jake Ball (Sgarlets), Dominic Day (Caerfaddon), Ross Moriarty (Caerloyw), Justin Tipuric (Gweilch[is-gapten]), Dan Baker (Gweilch).

Eilyddion: Rob Evans (Sgarlets), Kristian Dacey (Gleision), Scott Andrews (Gleision), James King (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau), Lloyd Williams (Gleision), Gareth Anscombe (Gleision), Matthew Morgan (Bryste).

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/2644/
2015-08-07T00:00:00+1:00Amddiffyn allweddol
Cymru 23 Iwerddon 16

Ydy, mae ymgais ein tîm rygbi cenedlaethol i ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015 yn parhau yn fyw yn dilyn un o’r gemau mwyaf rhyfeddol a welwyd erioed gyda gwaith amddiffynnol y Cochion yn allweddol ar ddiwrnod yn llawn emosiwn i Sam Warburton (yn gapten ar Gymru am y 34ain tro) a Paul O’Connell (capten Iwerddon yn ennill ei 100 cap).

Na, o edrych nôl dros yr 80 munud o chwarae, doedd `na ddim digon o chwarae agored ond, am unwaith ac yn arbennig i ninnau Gymry, roedd `na fwy na digon o ddiddanwch er y bydd y Gwyddelod, yn chwaraewyr a dilynwyr, yn rhyfeddu na fu’r crysau gwyrddion yn fuddugol.

Yn dwyn i gof cyfnodau o fuddugoliaeth ym Mharis ddeng mlynedd yn ôl, bu llinell gais Cymru dan warchae ddydd Sadwrn diwethaf am funudau hirion o bryd i’w gilydd ar hyd yr ornest gydag un cyfnod parhaol o 8 munud pan ymddangosai’n amhosib cadw’r Gwyddelod rhag sgorio cais.

Gorfodwyd chwaraewyr Cymru i daclo yn ddi-baid gyda’r ailrengwr, Luke Charteris, yn gosod record newydd (31) o dacliadau cyflawn mewn gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a’r tîm yn ei gyfanrwydd yn cyflawni mwy na dwbl nifer y Gwyddelod.

Bu cryn drafod dros y dyddiau ers yr ornest am safon y rygbi gyda chewri Cymreig y gamp, fel “Y Brenin” ei hunan, Barry John, yn cyfeirio ati fel un o’r gwir uchafbwyntiau yn hanes y gêm yn ein gwlad.

Yn y cyfamser, dirmyg a gwawd am y gêm a safon chwarae Cymru oedd prif nodweddion rhai sylwebyddion o’r Iwerddon a thu hwnt i Glawdd Offa er gorfod cydnabod pa mor ddygn a llwyddiannus y bu ymdrechion amddiffynnol Warburton a’i griw.

Cyfaddefodd y capten taw hon oedd un o’r gemau mwyaf anodd y chwaraeodd ynddi ac yn cydnabod pa mor flinedig oedd y gwaith amddiffynnol wrth i’r Gwyddelod hyrddio drosodd a thro a gwneud popeth ond sgorio.

Oedd, roedd `na elfen fyrbwyll yn chwarae’r ymwelwyr yn ystod yr ail hanner, gyda’r blaenwyr yn dioddef o “haint y llinell wen” ac yn anwybyddu’r ffaith, fwy nag unwaith, fod ganddyn nhw ddynion yn rhydd yn agos at yr ystlys.

O ran yr anwybyddu hynny, ydy, mae’n wir fod y safon (safon y Gwyddelod, wrth reswm, nid safon Cymru!) wedi bod yn israddol ac wedi rhoi cyfle i’r amddiffynwyr i ad-drefnu a chreu amheuon ym meddyliau’r ymosodwyr.

Dechreuodd chwaraewyr Iwerddon yr ornest mewn modd tra siomedig, gan ildio cyfleoedd i Leigh Halfpenny gicio pedair gôl gosb cynnar a rhoi rhagoriaeth o 12-0 i Gymru o fewn y chwarter awr cyntaf, bron cyn i O’Connell a’i dîm setlo.

Yn wir, roedd chwarae’r Gwyddelod yn frith o gamgymeriadau a’u maswr, Jonny Sexton, mor euog â neb wrth iddo ganolbwyntio unwaith ar roi cyfarwyddyd i’w gyd-chwaraewyr ar draul derbyn pas.

Siom oedd gweld y prop grymus, Samson Lee, yn gadael y cae wedi ond 12 munud o chwarae gydag anaf sy’n mynd i’w gadw allan o’r gamp am rai misoedd a, gyda’r prop arall, y profiadol Gethin Jenkins, yn methu ag ymddangos ar gyfer yr ail hanner, edrychai pethau’n dywyll ar sgrymio Cymru wrth i’r Gwyddelod godi hwyl wedi’r egwyl.

Pob clod, felly, i’r chwaraewyr am eu hymdrechion dan amgylchiadau anodd, yn arbennig o weld y canolwr, Jamie Roberts, yn gadael y cae gydag 20 munud yn weddill i’w chwarae.

Yn fuan wedi iddo gamu i gymryd lle Roberts, sgoriodd ei eilydd, capten y Sgarlets Scott Williams, gais gwych gyda bylchiad ardderchog i ailadrodd ei gamp tebyg yn Nhwicenham dair blynedd yn ôl.

Mae’n anffodus i Williams bod Roberts a Jonathan Davies yn gyfoedion iddo neu mi fyddai’n sicr o chwarae llawer mwy o gemau dros ei wlad, ond, ar y llaw arall, mae ei allu i gamu o fainc yr eilyddion a newid cwrs gornest wedi profi’n allweddol i Gymru unwaith eto.

Gyda Halfpenny yn cicio cyfanswm o bump gôl gosb a’r maswr, Dan Biggar, yn cicio gôl adlam wych, cronnwyd digon o bwyntiau i wrthsefyll bygythiad yr Iwerddon a’u hunig gais yn un cosb amheus wedi’i ddyfarnu gan Wayne Barnes.

Oes felly, mae gan Gymru obaith tenau am orffen yn Bencampwyr er fod angen sgorio nifer fawr o bwyntiau draw yn Rhufain yfory yng ngêm gyntaf y gyfres olaf o gemau y tymor hwn a Warren Gatland wedi’i orfodi i gynnwys Rob Evans ac Aaron Jarvis yn lle Lee a Jenkins yn rheng flaen y sgr?m.

Nôl ar y fainc y bydd Scott Williams yn erbyn yr Eidal, gyda dau gyd-Sgarlet, y bachwr Ken Owens a’r mewnwr Gareth Davies yno hefyd yn lle Richard Hibbard a Michael Phillips a bu rhaid ychwanegu Rhys Gill a Scott Andrews i’r garfan oherwydd anafiadau Lee a Jenkins.

Bydd pob Cymro ar bigau’r drain wedi’r gêm yn Rhufain, a phawb ohonom yn gorfod aros i weld canlyniadau’r gemau rhwng yr Alban a’r Iwerddon ym Murrayfield a rhwng Lloegr a Ffrainc yn Nhwicenham, gyda’r triawd o wledydd y’u henwyd olaf i gyd yn meddu ar gyfle i orffen yn uwch yn y tabl na Chymru.

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/2381/
2015-03-19T00:00:00+1:00Angen creu lwc
Yn hwyr ar nos Wener gyntaf mis Chwefror eleni, cerddodd y miloedd o gefnogwyr rygbi Cymru yn siomedig allan o Stadiwm y Mileniwm yn credu fod wythnosau diflas yn eu hwynebu gyda’r hunllef yn fyw o weld Lloegr ar y brig erbyn diwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Erbyn hyn, fodd bynnag, gyda phob un o’r gwledydd wedi chwarae tair gêm, dim ond yr Iwerddon sy’n meddu ar record 100% a hwnnw yn y fantol bnawn yfory pan ddaw Paul O’Connell a’i griw i Gaerdydd i geisio cadarnhau eu safle yn ffefrynnau i gipio Camp Lawn.

Yn dilyn perfformiad gwych y Gwyddelod bythefnos yn ôl yn curo’r Saeson yn gyfforddus o 19-9, y gri gan lawer o gefnogwyr Cymreig yw fod angen tipyn o lwc ar ein tîm cenedlaethol os am ennill yfory a chreu ychydig obaith am orffen yn Bencampwyr fel yn 2013 ar ôl curo Lloegr yn hawdd y flwyddyn honno o 30-3.

Y gwir yw, fodd bynnag, fod angen i Sam Warburton a’i gyd-chwaraewyr i greu eu lwc eu hunain yn hytrach nag aros iddo ddod i’w rhan.

Gyda blaenasgellwr y Gleision yn torri record Ryan Jones yfory drwy fod yn gapten ar ein tîm rygbi cenedlaethol am y 34ain tro, mae gan y garfan yn ei chyfanrwydd ddigon o brofiad i allu creu’r lwc angenrheidiol.

Bydd naw o’r XV llwyddiannus ddechreuodd y gêm dyngedfennol yn erbyn Lloegr ddwy flynedd yn ôl yn chwarae yfory ac, o gofio’r modd y crëwyd y lwc i guro’r ymwelwyr y diwrnod hwnnw, mae `na gynsail digonol ar gyfer ceisio ailadrodd y gamp eleni eto.

Bydd y Gwyddelod, wrth reswm, wedi bod yn astudio’r modd y llwyddodd y Saeson i lyffetheirio llinell tri-chwarter Cymru, ond mae George North, Jonathan Davies, Jamie Roberts a Liam Williams yn parhau yn arf grymus o bob rhan o’r cae a’r pedwarawd yn meddu ar y gallu i syfrdanu’r cefnogwyr a goroesi’r gwrthwynebwyr.

Heblaw am yr angen i fod ar eu gwyliadwriaeth i sgubo ambell friwsionyn o gyfle pan ddaw pêl rydd i’w rhan, gall y tri-chwarteri ddibynnu ar wasanaeth Dan Biggar, sy’n aeddfedu fel maswr amryddawn, yn basiwr, ciciwr, rhedwr a thaclwr grymus.

A dyna droi at Rhys Webb a’i allu i dwyllo amddiffynwyr yn gyson wrth fylchu yn agos at gymalau tynn y gamp ac amrywio’i chwarae’n gelfydd i ryddhau’r rhedwyr y tu allan iddo neu i ysbrydoli’r blaenwyr ym mhob agwedd o’r chwarae.

Tu ôl i’r tîm cyfan, mae Leigh Halfpenny yn ymddangos unwaith eto fel craig gadarn yn amddiffynnol, yn sicr o dan y bêl uchel, bob amser yn barod i wrthymosod (fel y byddid yn ei ddisgwyl gan gyn-asgellwr o’r safon uchaf) a’i gicio anhygoel at y pyst yn arf pwysig yn strategaeth Cymru.

O ran y blaenwyr, rhyfeddwyd llawer wrth weld Richard Hibbard yn colli’i le yn ddewis cyntaf yn safle’r bachwr, ond mae Scott Baldwin yn profi yn ddewis teilwng fydd yn ennill ei wythfed cap yfory, gyda Hibbard wrth gefn ar y fainc yn eilydd grymus pan ddaw’r angen.

Mae prop ifanc y Sgarlets, Samson Lee, yn parhau i’n rhyfeddu, wrth iddo ddatblygu i fod yn chwaraewr allweddol a chryf ac yn ffodus yn ei gyd-brop profiadol, Gethin Jenkins, wrth i hwnnw chwarae dros Gymru am y 114ed tro yfory.

Fel Jenkins, mae’r ailrengwr, Alun Wyn Jones, yn parhau i brofi’n gonglfaen yn chwarae tynn y pac a’i gyfraniadau achlysurol i’r chwarae rhydd yn elfen gwerthfawr o’i allu hefyd tra bod Luke Charteris, o’r diwedd i raddau helaeth, yn gyfrannwr teilwng i sawl agwedd o strategaeth Cymru yn hytrach nag ond yn neidiwr uchel yn y leiniau.

Wrth droi at reng ôl y sgr?m, mae taclo Dan Lydiate i’w gymharu â gwaith torrwr coed a hyrddiadau nerthol Taulupe Faletau o fôn y cymalau tynn yn llawn mor bwysig ag ymdrechion yr wythwr Gwyddelig, Jamie Heaslip, sy’n ymddangos yn holliach unwaith eto yn dilyn anaf peryglus i’w gefn.

Does `na ddim modd osgoi troi unwaith eto at gapten Cymru ac fe fyddai’n ddiwrnod mawr i Warburton petai ei dîm yn ei helpu i ddathlu achlysur hanesyddol yn ei hanes personol ac ni fydd neb yn fwy ymwybodol o’r angen iddo yntau ei hunan gyfyngu Jonathan Sexton, yn dilyn y newyddion fod maswr y Gwyddelod yn ddigon iach i wynebu Cymru.

O gofio fod Sexton yn cael ei gyfri fel y gorau yn y byd yn ei safle ar hyn o bryd gan lawer o ddilynwyr y gamp, bydd angen i Warburton fod ar ei orau, yn arbennig o weld y bydd ei wrthwynebydd fel capten, ailrengwr Iwerddon, Paul O’Connell, yn chwarae dros ei wlad am y 100ed tro.

Ond, trwy greu ei lwc ei hunan ac ysbrydoli gweddill tîm Cymru, gallwn ond dymuno’n dda i’r capten a gobeithio y daw’r fuddugoliaeth i agor y drws ar gyfle i deithio i Rufain ymhen wythnos a’r argoelion am fod yn Bencampwyr unwaith eto yn parhau yn fyw.

Tîm Cymru i wynebu’r Iwerddon:

Leigh Halfpenny (Toulon); George North (Northampton), Jonathan Davies (ASM Clermont Auvergne), Jamie Roberts (Raçing Métro), Liam Williams (Sgarlets); Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch); Gethin Jenkins (Gleision), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Sgarlets); Luke Charteris (Raçing Métro), Alun Wyn Jones (Gweilch); Dan Lydiate (Gweilch), Sam Warburton (Gleision) [Capten], Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Richard Hibbard (Caerloyw), Rob Evans (Sgarlets), Aaron Jarvis (Gweilch), Jake Ball (Sgarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Michael Phillips (Raçing Métro), Rhys Priestland (Sgarlets), Scott Williams (Sgarlets).

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/2376/
2015-03-13T00:00:00+1:00Rhoi cweir arall i Ffrainc?
Ar ôl rhoi cweir go iawn i Ffrainc â sgôr o 27-6 yng Nghaerdydd y llynedd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, curo’r un gwrthwynebwyr ym Mharis o 16-6 ddwy flynedd yn ôl a chipio Camp Lawn drwy ennill yn eu herbyn yn 2012, mae Sam Warburton a’i griw wedi teithio’n llawn hyder ar gyfer y gêm yn y Stade de France nos yfory.

Er colli i Loegr bythefnos cyn iddi fod yn gael a chael ar adegau yn erbyn yr Alban, mae’n tîm rygbi cenedlaethol wedi dangos fwy nag unwaith ar hyd y blynyddoedd diweddar eu bod yn gallu gwyrdroi dechreuad llipa a gorffen y Bencampwriaeth yn gystadleuol.

Dydy Cymru ddim wedi colli i Ffrainc ers y diwrnod tyngedfennol hwnnw yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd dair blynedd yn ôl yn Seland Newydd pan ddyfarnodd Alain Rolland gerdyn coch cynnar i Warburton am dacl peryglus.

Mae taclo sy’n cael ei dybio’n beryglus yn bwnc llosg ym myd rygbi ar hyn o bryd a rhai sylwebyddion a chyn-chwaraewyr yn argyhoeddedig fod chwaraewyr sy’n neidio’n uchel i feddiannu’r bêl yn creu’r perygl eu hunain ac ni ddylid beio’r chwaraewr sy’n dal i sefyll â’u traed ar y ddaear neu heb neidio mor uchel.

Gyda Finn Russell, maswr yr Alban, wedi derbyn gwaharddiad o bythefnos yn dilyn ei gerdyn melyn yn erbyn Cymru bythefnos yn ôl, mae’n amlwg y bydd y dyfarnwyr yn fwy gwyliadwrus nag arfer o hyn ymlaen, gyda Jaco Peyper o Dde Affrica wrth y llyw ym Mharis yfory.

Ar ddechrau’r wythnos hon, edrychai’n debyg y byddai George North a Samson Lee ill dau yn holliach ac yn barod i gymryd eu lle yn nhîm Cymru os mai dyna oedd dewis Warren Gatland ac, wrth gwrs, mae’r asgellwr grymus sydd bellach yn chwarae i Northampton yn anelu at sgorio cais yn ei drydedd gornest o’r bron yn erbyn y Ffrancod.

Ei gais hwyr ym Mharis ddwy flynedd yn ôl gadarnhaodd y fuddugoliaeth Gymreig a phwy all fyth anghofio gweld tad y chwaraewr o Ynys Môn yn rhedeg i’r cae i longyfarch ei fab ac i ymuno yn y dathlu?

Tra does `na ddim modd canmol y Bonwr North am ei weithred ffôl, roedd gweld ei fab yn sgorio cais cynnar y llynedd yn allweddol i dorri crib y Ffrancod bron cyn iddyn nhw gynefino â’r awyrgylch yn Stadiwm y Mileniwm a chais Warburton yn gynnar yn yr ail hanner yn creu ormod o fwlch rhwng ei dîm a’r gwrthwynebwyr.

Falle bydd rhaid i chwaraewyr Ffrainc fod ar eu gwyliadwriaeth yn fwy nag arfer yfory o gofio am drosedd erchyll eu clo a chyn-gapten, Pascal Papé, yn erbyn yr Iwerddon bythefnos yn ôl, trosedd sydd wedi arwain at waharddiad o ddeg wythnos i’r Ffrancwr.

Yn sicr, does `na ddim lle i’r fath drosedd ar y cae rygbi, yn arbennig o weld yr effaith hirdymor y gall taro gwrthwynebydd yng ngwaelod ei gefn gyda phen-glin ei gael ar iechyd unrhyw un.

O droi at ragolygon mwy gobeithiol i rygbi yma yng Nghymru, roedd si ar led ar ddechrau’r wythnos y byddai’n debyg y gwelwn Jamie Roberts yn ymuno gydag un o Ranbarthau Cymru cyn Cwpan y Byd yn yr Hydref a hynny, falle, yn arwain at beri chwaraewyr ifanc i ailfeddwl am groesi’r môr i ennill eu crystyn yn y dyfodol.

Profodd rhedeg grymus Roberts yn allweddol ym Murrayfield bythefnos yn ôl ac, er fod y Ffrancwyr wedi dysgu tipyn amdano yn ystod ei gyfnod yn chwarae gyda Raçing Métro, mae ei allu anhygoel yng nghanol y cae yn denu taclwyr a hynny’n creu gofod i’w gyd-ganolwr, Jonathan Davies ac i’r asgellwyr, North ac Alex Cuthbert.

Mae’r Ffrancod wedi dysgu tipyn am Leigh Halfpenny dros y misoedd diwethaf hefyd, wrth i’r cefnwr greu argraff ffafriol gyda chlwb Toulon, a’i redeg twyllodrus a’i gicio cywir at y pyst yn elfen bwysig yn strategaeth pa bynnag dîm y mae’n chwarae ynddo.

Rhybuddiodd y mewnwr, Rhys Webb, ei hunan a’i gymdeithion yn ystod y dyddiau diwethaf i beidio â bod yn orhyderus yfory, ond fe fydd e a’i faswr, Dan Biggar, yn gobeithio elwa o ymdrechion y blaenwyr gydag Alun Wyn Jones, fel arfer, ar flaen y gad a’r ymdrech yn addo bod yn un llwyddiannus arall i ennill y dydd i Gymru.

Tîm Cymru v.Ffrainc: Paris, dydd Sadwrn 28 Chwefror am 17:00:

Olwyr: Leigh Halfpenny (Toulon), George North (Northampton Saints), Jonathan Davies (ASM Clermont Auvergne), Jamie Roberts (Racing Metro), Liam Williams (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch);

Blaenwyr: Gethin Jenkins (Gleision), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Luke Charteris (Racing Metro), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Sam Warburton (Gleision, CAPT), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Richard Hibbard (Caerloyw), Paul James (Caerfaddon), Aaron Jarvis (Gweilch), Bradley Davies (Wasps), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Priestland (Scarlets), Scott Williams (Scarlets).

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/2353/
2015-02-26T00:00:00+1:00Gatland yn arddangos hyder
Wrth gyhoeddi, bron 48 awr ynghynt na’r disgwyl, y tîm fydd yn wynebu Lloegr yng Nghaerdydd heno roedd y prif hyfforddwr, Warren Gatland, yn barod iawn i arddangos ei hyder yn y chwaraewyr sydd ar gael iddo ac i roi gwybod i bawb fod y garfan yn ei chyfanrwydd yn un sefydlog.

Oes, mae `na ddau newid o’r tîm gurodd De Affrica rhyw ddeufis yn ôl ac, er i Gatland godi ychydig o amheuaeth am allu George North i adennill ei le yn dilyn ei absenoldeb gydag anaf ar ddiwedd mis Tachwedd, mae’r asgellwr grymus yn meddu ar yr holl ddoniau angenrheidiol i chwarae rhan allweddol heno.

Bu cryn drafod ynglŷn â’r posibilrwydd y byddai Liam Williams, chwaraewr mwyaf cyffrous y Sgarlets ar hyd y tymor hyd yn hyn, yn disodli North, ond, gydag ambell agwedd o chwarae Williams yn dueddol o fod, ar adegau, yn chwit-chwat, rhaid i gefnwr/asgellwr Rhanbarth y De Orllewin fodloni ar le ymhlith yr eilyddion y tro hwn.

Gyda’r bachwr, Richard Hibbard, nôl yng nghanol rheng flaen y sgrym hefyd a’r capten, Sam Warburton yn ennill ei gap rhif 50, bydd hyder Gatland yn cael ei adlewyrchu ymhlith y cefnogwyr yn Stadiwm y Mileniwm pan ddaw hi’n amser y gic gyntaf am 8.05 heno.

Rhaid bod yn wyliadwrus, fodd bynnag, rhag bod yn rhy hyderus, yn arbennig o ddwyn i gof beth ddigwyddodd yn y gêm gyfatebol ddwy flynedd yn ôl, pan gyrhaeddodd y Saeson ein Prifddinas ar drothwy Camp Lawn ac yn llawn hyder cyn i’n ffefrynnau ninnau chwalu’r ymwelwyr â sgôr o 30-3.

Er i Stuart Lancaster, prif hyfforddwr tîm Lloegr, weld cryn ddwsin o’i ddewisiadau cyntaf yn tynnu allan o’r garfan gydag amryw anafiadau, mae dyfnder y gamp ar yr ochr arall i Glawdd Offa yn golygu fod ganddo ddewis ehangach na Gatland, ynghyd â’r cyfle i roi blas ar rygbi rhyngwladol i chwaraewyr newydd.

Gohiriodd Lancaster gyhoeddi ei ddewis tan fore echdoe er y bydd e’n sicr o fod wedi defnyddio’r wythnos ddiwethaf i hogi strategaethau a symudiadau’r tîm llawn cymaint ag y bu Gatland, Rob Howley a Robin McBryde yn ei wneud.

Gyda chynifer o dîm Cymru wedi chwarae droeon gyda’i gilydd yn barod, mae eu strategaethau a’u cynlluniau yn sicr o fod yn rhai digon sefydlog er yr angen i amrywio o bryd i’w gilydd er mwyn arddangos rhywbeth annisgwyl i’r gwrthwynebwyr.

Roedd `na gyfnodau yn hanes rygbi Cymru pan oedd chwarae twyllodrus canolwyr ac asgellwyr fel Cyril Davies, Gerald Davies ac, yn fwy diweddar, Shane Williams, yn nodweddiadol o’r gamp yma’n ein gwlad, ond mae’r rhod wedi troi i raddau helaeth, dros dro o leiaf.

Prin iawn y gwelir aelod o linell tri-chwarter gyfoes Cymru yn ochrgamu, ond mae Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts a North yn chwaraewyr nerthol yn meddu ar y gallu i dorri drwy bopeth heblaw taclo cywir a grymus.

Er ei fod yn llai o gorff na’r pedwarawd uchod, mae’r cefnwr, Leigh Halfpenny, yn fwy o chwaraewr “traddodiadol Gymreig” yn ei allu i arallgyfeirio ymosodiad, hyd yn oed o sefyllfa anaddawol amddiffynnol, tra bod y tri-chwarteri wedi datblygu’r gallu i fanteisio ar gyfleoedd prin sy’n dod o hynny.

Tra bod llawer o’m cenhedlaeth innau hefyd yn gallu hel atgofion am ddewiniaid o faswyr fel Cliff Morgan, Barry John, Phil Bennett a’r Jonathan Davies arall, mae Dan Biggar (a’r eilydd presennol, Rhys Priestland) yn chwaraewyr eu hoed a’u hamser, yn gweithredu fel cadfridog neu bypedwr yn tynnu’r llinynnau.

Wrth fôn y sgrym ac yn gyswllt rhwng y blaenwyr a’r olwyr, mae’r mewnwr, Rhys Webb, wedi cymryd camau breision yn ystod y misoedd diwethaf i ddisodli Michael Phillips ac addo bod yn gonglfaen i’r tîm am dipyn o amser os gall e gadw’n rhydd o anafiadau a chadw rhag troseddi’n ormodol.

O droi at y blaenwyr, y rheng flaen yn gyntaf, stori’r hen a’r ifanc yw’r ddau brop fydd yn cychwyn heno, gyda Gethin Jenkins wedi chwarae dros Gymru 110 o weithiau yn barod a’r crwt ifanc Samson Lee yn gwisgo’r crys rhyngwladol ond am y 10ed tro wrth gamu i’r cae heno a hynny’n ei gadw’n gyfartal â Webb o ran ymddangosiadau.

Cymharol ddibrofiad ar lefel ucha’r gamp yw ailrengwr y Sgarlets, Jake Ball, hefyd, fydd yn chwarae yn ei nawfed gêm ryngwladol heno, ond, gydag Alun Wyn Jones wrth ei ochr yn y sgrymiau ac yn creu tipyn o derfysg o gwmpas y cae ar ei 85ed ymddangosiad dros Gymru, yn arbennig yn absenoldeb dau Sais grymus yn Joe Launchbury a Courtney Lawes, bydd eu gwrthwynebwyr, Dave Attwood a George Kruis, yn wynebu bedydd tân.

O gofio am gamp Warburton yn cyrraedd ei nod yntau heno, yr elfen fwyaf sefydlog yn y tîm yw rheng ôl y sgrym, gyda thaclo Dan Lydiate weithiau’n ymdebygu i fforestwr wrth ei waith yn torri coed a Taulupe Faletau yn ymddangos fel arloeswr yn sgubo drwy anialwch trwchus.

Y gobaith am heno, felly, yw y bydd y Saeson yn ddim llawer mwy na rhyw ddryswig fydd yn chwalu yn wyneb Warburton a’i griw a, pwy a ŵyr, falle y caiff Justin Tipuric gyfle i gamu o’r fainc i’n gwefreiddio fel y gwnaeth ddwy flynedd yn ôl i redeg fel canolwr wrth greu cais i Cuthbert a hynny’n cyfrannu at fuddugoliaeth ryfeddol arall?

Tîm Cymru:

Leigh Halfpenny (Toulon); Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (ASM Clermont Auvergne), Jamie Roberts (Raçing Métro), George North (Northampton); Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch); Gethin Jenkins (Gleision), Richard Hibbard (Caerloyw), Samson Lee (Sgarlets); Jake Ball (Sgarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch); Dan Lydiate (Gweilch), Sam Warburton (Gleision [Capten]), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Scott Baldwin (Gweilch), Paul James (Caerfaddon), Aaron Jarvis (Gweilch), Luke Charteris (Raçing Métro), Justin Tipuric (Gweilch), Michael Phillips (Raçing Métro), Rhys Priestland (Sgarlets), Liam Williams (Sgarlets).

Tîm Lloegr:

Mike Brown (Harlequins); Anthony Watson (Caerfaddon), Jonathan Joseph (Caerfaddon) Luther Burrell (Northampton), Jonny May (Caerloyw); George Ford (Caerfaddon), Ben Youngs (Caerlŷr); Joe Marler Harlequins), Dylan Hartley (Northampton), Dan Cole (Caerlŷr); Dave Attwood (Caerfaddon), George Kruis (Saraseniaid); James Haskell (Picwns), Chris Robshaw (Harlequins [Capten]), Billy Vunipola (Saraseniaid).

Eilyddion: Tom Youngs (Caerlŷr), Mako Vunipola (Saraseniaid), Kieran Brookes (Newcastle), Nick Easter (Harlequins), Tom Croft (Caerlŷr), Richard Wigglesworth (Saraseniaid), Danny Cipriani (Sale), Billy Twelvetrees (Caerloyw)

http://www.y-cymro.com/rygbi/i/2320/
2015-02-06T00:00:00+1:00