Rygbi

RSS Icon
16 Mawrth 2012
Androw Bennett

Camp lawn arall

GWERTHWYD yr holl docynnau ar gyfer gêm rygbi Cymru’n erbyn Ffrainc yfory fisoedd yn ôl wrth i gefnogwyr y ddwy wlad feddwl am Gamp Lawn yn dilyn eu llwyddiant o fod ymhlith y pedwar olaf yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd.

Yn achos y Cymry, wrth gwrs, daw’r cyfle i dalu’r pwyth nôl am y golled o 9-8 yn y Rownd Gynderfynol ym mis Hydref, â’r briwiau’n parhau wedi i gapten Cymru, Sam Warburton, dderbyn cerdyn coch am ei dacl peryglus ar Vincent Clerc yn gynnar yn y gêm yn Auckland.

Mae’r cyffro wedi cynyddu ers y diwrnod du hwnnw ym mhen draw’r byd ac fe fydd yfory’n ddiwrnod mawr yn Stadiwm y Mileniwm er bod y Ffrancod wedi hen chwythu’u plwc o ran cipio Camp Lawn eu hunain yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn yr Iwerddon bythefnos yn ôl a cholled syfrdanol o 22-24 i Loegr ym Mharis ddydd Sul diwethaf.

Bu hyfforddwr Ffrainc, Phillippe Saint-André, yn hallt yn ei feirniadaeth o sawl agwedd o chwarae’i garfan yn erbyn Lloegr, yn arbennig gwendidau taclo sawl Ffrancwr yn ildio tri chais a sgorio un yn unig. Adlewyrchwyd ymateb Saint-André’n ei benderfyniad drannoeth y golled ddydd Sul i newid chwe aelod o’i garfan tra bu raid iddo weld sut y byddai rhai eraill o’i chwaraewyr yn ymateb i anafiadau.

Yn y cyfamser, mae Cymru wedi camu’n nes at gyflawni trydedd Camp Lawn o fewn saith mlynedd a’r ail yn ystod teyrnasiad Warren Gatland yn hyfforddwr ar ein tîm cenedlaethol.

Er dioddef ychydig o drafferth yn yr hanner cynta’n erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn diwethaf, roedd y fuddugoliaeth a sgôr terfynol o 24-3 yn adlewyrchiad teg o’r ornest yn ei chyfanrwydd.

Dim ond 9-3 oedd hi ar yr egwyl wrth i Leigh Halfpenny gicio tair gôl gosb a chael a chael oedd hi yn ystod y munudau cyn hynny wrth i’r Eidalwyr fygwth yn rymus am gyfnod.

Mae’r to ifanc presennol o olwyr ifanc Cymreig yn dal i ddatblygu ac aeddfedu ac, er i gryfder corfforol yr Eidalwyr ddal i fygwth yn achlysurol, llwyddodd Gethin Jenkins (y capten am y dydd yn absenoldeb Warburton gydag anaf) a’i chwaraewyr i wrthsefyll y bygythiad.

Ymhlith y blaenwyr y mae’r frwydr ar ei ffyrnicaf bob amser a doedd dydd Sadwrn diwethaf ddim yn eithriad gyda rheng ôl sgrym Cymru’n serennu, hyd yn oed yn absenoldeb Warburton, wrth i Dan Lydiate, Justin Tipuric a Toby Faletau arddangos eu holl sgiliau o gwmpas y cae.

Mae nerth a chryfder yn hollbwysig i flaenwyr ar y cae rygbi ac roedd gweld profiad Matthew Rees a thaldra Luke Charteris nôl wedi’u hanafiadau hwythau i’w hychwanegu at ymdrechion hoelion wyth rhan tynn y pac megis Jenkins, Adam Jones, Ian Evans ac Alun Wyn Jones yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol, er taw gwrthsefyll grym yr Eidalwyr a gosod sylfaen ar gyfer gwell ail hanner oedd bwysicaf yn y 40 munud cyntaf ddydd Sadwrn.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |