Rygbi

RSS Icon
04 Mawrth 2011
Sian Couch

Mae'n rhaid gwella yn gyflym

CRUSADERS 26

BRADFORD BULLS 30


TRECHWYD y Crusaders am yr eilwaith y tymor hwn wrth i Bradford Bulls ennill 30-26 ar y Cae Ras yng ngêm gartref gyntaf y tymor i fechgyn Iestyn Harris.

Sgoriwyd ceisiau gan Andy Lynch a Michael Witt i ddod a’r sgôr yn gyfartal yn gynnar cyn i fantais Bradford gael ei gynyddu wrth i Shad Royston a Shaun Ainscough groesi’r llinell gais.

Aeth Matt Diskin trosodd ar ôl yr egwyl a phylu wnaeth gobeithion o unrhyw fuddugoliaeth i’r Crusaders wedi’r sgôr gan Heath L’Estrange.

Fodd bynnag, ymladdodd y Crusaders yn ôl wrth i Gareth Thomas, Jarrod Sammut, Clint Schifcofske a Tony Martin dorri’r fantais i bedwar pwynt yn unig rhyngddynt gyda munudau i fynd.

Bydd Iestyn Harris heb amheuaeth yn gobeithio y bydd Michael Witt yn parhau gyda’i sgorio wrth iddo gael ei bedwaredd cais ers dychwelyd o anaf a orfododd Witt i fethu rhan fwyaf o ail hanner y tymor yn 2010.

Fodd bynnag, nid oedd Harris yn fodlon iawn gyda’i chwaraewyr: “Nid oedd ein sgiliau yn dda iawn heno. Camgymeriadau sydd wedi dod i law dros y bythefnos ddiwethaf – ni fyddwn yn gallu cystadlu gyda’r timau gorau.

“Mae’n rhaid i ni wella hyn yn gyflym iawn ond mae’n rhaid dweud fod yr angerdd dal yno i lwyddo ac mae hynny’n beth mawr i mi.’”

Bydd y Crusaders yn teithio i wynebu Hull FC heno yn y cyntaf o ddwy gêm i ffwrdd yn erbyn timau Hull yng nghynghrair y Super League. Bydd y gêm yn Stadiwm KC gyda’r gic gyntaf am 8.00pm. Bydd y Crusaders yn herio Hull Kingston Rovers yn Craven Park ddydd Sul, Mawrth 13,(cic gyntaf 3.00pm. Bydd gem gartref nesaf y Crusaders yn cymryd lle ar y Cae Ras nos Wener 18 Mawrth yn erbyn Catalans Dragons (cic gyntaf 8.00pm).

 

Llun: Gareth Thomas yn dathlu ar ôl sgorio cais hwyr

Rhannu |