Rygbi

RSS Icon
04 Mawrth 2011
Androw Bennett

Dwy o'r bron

GYDA’R gofid yn cynyddu wedi’r golled i Loegr fis yn ôl i heno y byddai rhediad Cymru o golli’n parhau, tipyn o ryfeddod yw gweld ein tîm rygbi cenedlaethol ar “rediad” o ddwy fuddugoliaeth o’r bron yn dilyn curo’r Eidal o 24-16 yn Rhufain bnawn Sadwrn diwethaf. Byddai unrhyw ganlyniad heblaw buddugoliaeth yn y Stadio Flaminio wedi bod yn ergyd drom i Warren Gatland a’i garfan ym mlwyddyn Cwpan y Byd, yn arbennig o gofio i Gymru golli yno yn 2003 a 2007.

Er ennill y dydd wythnos diwethaf, rhaid cydnabod nad oedd hi’n fuddugoliaeth hawdd o bell ffordd ac, o feddwl am lwyddiant syfrdanol Lloegr yn erbyn yr Eidalwyr bythefnos ynghynt, dydy pethe ddim yn argoeli’n dda ar yr wyneb ar hyn o bryd ar gyfer Cwpan y Byd yn Seland Newydd yn yr Hydref.

Rhaid cydnabod, wrth gwrs, absenoldeb nifer o chwaraewyr allai fod yn allweddol i ymgyrch Cymru yn ddiweddarach eleni ac roedd hi’n braf gweld George North nôl yng nghrys y Sgarlets wythnos diwethaf a’n ymddangos yn barod i gystadlu gyda Leigh Halfpenny a Morgan Stoddart am le ar yr asgell. Ymddangosai’n debyg ar ddechre’r wythnos hon hefyd y byddai’r prop pen tynn, Adam Jones, nôl ar gael i’r Gweilch ar gyfer eu gêm yn erbyn Glasgow nos yfory.

Erbyn hyn, sefydlodd Jones ei hunan yn gonglfaen pac Cymru a hynny er gwaetha cael ei drin fel tipyn o glown yn ei ddyddiau cynnar yng ngharfan Cymru gan Steve Hansen rai blynyddoedd yn ôl. Er i Gymru ennill yn Rhufain, gwelwyd eisiau Jones yn erbyn cryfder blaenwyr yr Eidal ac mae pac yr Iwerddon yn addo bod yn her tebyg yng Nghaerdydd wythnos i fory.

I ddarllen gweddill yr adroddiad CLICIWCH YMA

Llun: Adam Jones

Rhannu |