Rygbi
Nepell o’r Colisëwm
CAIFF nifer sylweddol o ymwelwyr Cymreig i Rufain ddigon o gyfle dros y penwythnos i sefyll ochr yn ochr gydag ambell gleddyfwr yng ngwisg draddodiadol y gladiator tu allan i’r Colisëwm hynafol ym Mhrifddinas yr Eidal, gan obeithio na fydd aelodau’n tîm rygbi cenedlaethol yn cael eu bwydo i lewod ychydig gilometrau oddi yno. Er na fydd ’na lew (gobeithio!) yn y Stadio Flaminio bnawn yfory, bydd yr Eidalwyr eu hunain yn ysu am lyncu gobeithion Cymru yng ngornest gynta trydydd cymal Pencampwriaeth RBS y 6 Gwlad.
Dylai carfan Warren Gatland fod yn llawn hyder yn dilyn y fuddugoliaeth yng Nghaeredin bythefnos yn ôl, tra bydd y tîm cartref, gyda’u hyfforddwr hwythau, Nick Mallett, wedi’i siomi gan y modd yr ildiodd yr Eidalwyr 59 o bwyntiau yn Nhwicenham ar yr un diwrnod. Er gwaetha ymdrechion glew capten yr Eidal, Sergio Parisse, a chicio cywir Mirco Bergomasco, doedd gan yr Azzurri ddim digon o sgiliau nac o nerth i wrthsefyll y Saeson ac fe fydd y modd byddan nhw’n ymateb yfory’n allweddol.
Mae Cymru wedi baglu yn Rhufain o’r blaen, wrth gwrs, gyda’r Eidal yn ennill o 23-20 dan amgylchiadau dadleuol bedair blynedd yn ôl. Dryswyd y chwaraewyr Cymreig gan benderfyniad y dyfarnwr Seisnig, Chris White, i chwibanu i orffen y gêm tra’r oedd pac Cymru’n cynnal pwyllgor i benderfynu ar dactegau’r lein arfaethedig. Dysgwyd gwers boenus y diwrnod hwnnw, er bod ’na dueddiad i bwyllgora wrth drefnu lein hyd y dydd heddiw, a hynny’n boendod mawr i gefnogwyr sydd wedi talu am docynnau o’u pocedi hanner-gwag i wylio’r chwarae yn hytrach na’r trafodaethau hir wyntog.
Oes, mae ’na angen trefnu’n dactegol ar gyfer pob agwedd o’r chwarae, ond mae angen gwneud hynny’n gywir, ond yn gyflym hefyd wrth geisio drysu’r gwrthwynebwyr. Dylai’r capten, Matthew Rees a’i gyd-flaenwyr fod wedi’u trwytho’n yr hyn y mae Gatland am iddyn nhw ei gyflawni ym mhob agwedd o’r chwarae tynn ymhell cyn y gic gyntaf ac, os bydd Cymru mewn perygl o faglu unwaith eto, dylai fod ganddyn nhw Gynllun B, Gynllun C, neu hyd yn oed Gynllun Z wedi’i baratoi’n barod…….
Yn dilyn anaf i’r canolwr ifanc, Jonathan Davies, gorfodwyd Gatland i symud James Hook o safle’r maswr unwaith eto, gan roi cyfle arall i Stephen Jones, yn y llun, fydd yn gorffen y prynhawn ddau ymddangosiad yn brin o gyrraedd y 100 dros Gymru.
Stori lawn yn Y Cymro