Rygbi

RSS Icon
24 Tachwedd 2011
Androw Bennett

Trwch blewyn

I GEFNOGWYR rygbi Cymreig cadarnhaol, roedd ein pedwarawd o Ranbarthau o fewn trwch blewyn i gyflawni’r gamp o ennill math o gamp lawn wythnos diwethaf am yr eildro’n olynol. I’r negyddol yn ein plith, daeth y Gweill o fewn trwch blewyn i golli’u gornest hwythau a dim ond rhagaeddfedrwydd eu heilydd o faswr, Matthew Morgan, achubodd y dydd iddyn nhw.

Tan eu buddugoliaethau bythefnos yn ôl, doedd y pedwar Rhanbarth i gyd ddim wedi ennill gyda’i gilydd yn Ewrop ar yr un penwythnos ers 2007 ac fe ddechreuodd pethe’n ddigon llewyrchus wythnos i neithiwr yng Nghasnewydd. Cyn y gêm ar faes Rodney Parade wythnos i neithiwr, doedd `na fawr o obaith am weld llwyddiannau tebyg i’r wythnos cynt, ond mae’n dechre ymddangos fod llwyddiant Cymru yng Nghwpan y Byd falle wedi dechre tywallt lawr at y Rhanbarthau.

Roedd perfformiad y Dreigiau yn erbyn Perpignan yng Nghwpan Her Amlin yn wefreiddiol wrth iddyn nhw ennill o 23-13 yn erbyn clwb yn cynnwys James Hook ar ei ymweliad cyntaf nôl i Gymru wedi iddo symud i Ffrainc. Ymddangosai’r Ffrancod a Hook fel nad oedd llawer o awch arnynt, tra roedd y Gwentiaid ar eu gorau’n achlysurol, ond heb fethu â chyflawni’r ergyd farwol a sgorio mwy o geisiau wedi i Lewis Evans ac Adam Jones groesi a Jason Tovey’n sgorio gweddill y pwyntiau,
24 awr yn ddiweddarach a rhyw ddwsin o filltiroedd i’r Gorllewin o Rodney Parade, llwyddodd y Gleision i oroesi Gwyddelod Llundain â sgôr o 24-18 yng Nghwpan Heineken. Croesodd T Rhys Thomas a seren y gêm, Lloyd Williams, am geisiau i Ranbarth y Brifddinas yn yr hanner cyntaf ond, er i Dan Parks gicio’r 14 pwynt arall, roedd hi ychydig yn siomedig ildio pwynt bonws i’r ymwelwyr.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Llun: James Hook yn gwisgo lliwiau Perpignan

Rhannu |