Rygbi

RSS Icon
20 Hydref 2011
Androw Bennett

Dinistr!

Rhaid i bawb gydnabod fod ffeinal Cwpan y Byd fore drennydd wedi’i dibrisio oherwydd absenoldeb Cymru o’r ornest a thrwy hynny dibrisiwyd yr holl gystadleuaeth. Doedd `na ddim amheuaeth nad oedd ein tîm cenedlaethol wedi datblygu’n un o’r goreuon ar hyd yr wythnosau diwethaf a, petai’r cicwyr wedi mwynhau ychydig mwy o lwyddiant, byddem yn awchu am eu gweld yn herio’r Teirw Duon fore drennydd yn lle chwarae heddiw.

Yn anffodus i ni wladgarwyr pybyr, rhaid derbyn fod penderfyniad y dyfarnwr wythnos diwethaf, y Gwyddel Alain Rolland, yn llygad ei le yn anfon Sam Warburton o’r cae am ei “dacl peryglus” ar asgellwr Ffrainc, Vincent Clerc, ar ryw 18 munud o chwarae.

Do, fe leisiodd rhai o fawrion y gamp, yn cynnwys capten De Affrica pan enillon nhw Gwpan y Byd ym 1995, François Pienaar, y farn nad oedd tacl Warburton yn haeddu mwy na cherdyn melyn a threulio cyfnod o 10 munud yn y cell callio. Does gan neb ohonom yn gwylio, fodd bynnag, yn fyw yn y stadiwm, ar sgrîn fawr mewn stadiwm arall 12,000 o filltiroedd bant o’r digwyddiad, mewn stiwdio deledu neu ar y soffa’n ein cartref clyd, yr hawl i benderfynu ar beth sy’n datblygu ar y cae chwarae.

Mae cyfreithiau’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn berffaith glir am bwy sy’n meddu ar yr hawl i ddyfarnu a rheoli, yn wir i deyrnasu ar ddigwyddiadau ar y maes chwarae ac mae’n hen bryd i bob un ohonom ddygymod â’r dyfyniad hwn o Gyfraith 6.A.4(a) “The referee is the sole judge of fact and of Law during a match.” Gallwn ddadlau am y digwyddiad yn Auckland am flynyddoedd i ddod, ond gwastraffu’n hanadl fyddai hynny, yn arbennig yn dilyn penderfyniad Rolland, y dyfarnwr sy’n cael ei gydnabod fel y gorau’n y byd.

Siomedig oedd clywed hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn ymddangos fel petai’n gofyn am driniaeth arbennig yn achos Warburton gan taw yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd y digwyddodd y drosedd. Petai Rolland wedi ildio i’r demtasiwn o ddefnyddio hynny fel esgus y tro hwn, byddai’n euog o agor y llifddorau i ddyfarnwyr wneud hynny ar wahanol achlysuron yn y dyfodol a, falle, drwy hynny’n peryglu iechyd neu hyd yn oed fywyd rhywun

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |