Rygbi

RSS Icon
29 Medi 2011

Digon o athrylith

YN dilyn yr holl ymdrech a’r gwaith caled ar hyd y misoedd diwethaf, byddai’n dipyn o ryfeddod ac o siom petai tîm rygbi Cymru’n methu ag ennill lle ymhlith yr wyth olaf yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn Seland Newydd. Gwelwyd perfformiad amserol yn ystod yr ail hanner yn erbyn Namibia fore dydd Llun wrth sicrhau buddugoliaeth o 81-7 a phwynt bonws i’r fargen a gallwn obeithio y bydd pethe’n cael eu pennu’r bore `ma wrth i rai ohonom fwyta’n brecwast tra bydd eraill yn cnoi’u hewinedd wrth geisio canolbwyntio ar eu gwaith.

Bydd yr holl bosibiliadau am dynged Cymru wedi’u trafod hyd at syrffed dros y dyddiau diwethaf ac, os bydd De Affrica’n curo Samoa’r bore `ma ac atal gwŷr y Môr Tawel rhag cipio pwynt bonws, bydd y pwysau’n codi oddi ar Gymru ar gyfer y gêm yn erbyn Ffiji fore drennydd. Erys y posibilrwydd, wrth gwrs, fod y Ffijiaid wedi cadw’u gorau ar gyfer wynebu Cymru fore drennydd, ond gyda’r angen i’n gwrthwynebwyr ennill, sgorio pedwar cais a chadw’n ffefrynnau rhag dod o fewn saith pwynt ar ddiwedd yr ornest, anodd yw gweld sefyllfa lle na fydd Cymru’n camu ymlaen.

Doedd `na ddim amheuaeth ynglŷn â’r canlyniad wrth wynebu Namibia, ond roedd cronni’r pwynt bonws am sgorio pedwar neu fwy o geisiau’n angenrheidiol i wneud yn siŵr taw yn nwylo Cymru y byddai’r gobeithion, yn hytrach na gorfod dibynnu ar eraill. Gyda’r tri chais cynta’n dod i’r fei’n weddol gynnar, ar ryw 18 munud, dylid fod wedi sgorio’r pedwerydd a sicrau’r pwynt bonws yn fuan wedyn.

Am ryw reswm (seicolegol, falle) llaciwyd gafael ar yr ornest ac, o weld dim mwy o sgorio cyn yr egwyl, mae’n debyg fod y chwaraewyr wedi derbyn pryd o dafod amserol gan un o’r hyfforddwyr, Rob Howley, yn cynnwys rhybudd cryf y gallai tîm rygbi Cymru fod ar eu ffordd tuag adref ymhen yr wythnos. Derbyniwyd cerydd y cyn-fewnwr ac fe chwaraewyd ail hanner y gêm gyda thipyn o arddeliad gan ychwanegu naw cais i roi’r cyfanswm o ddwsin er ildio cais i Namibia o ryng-gipiad anffodus.

Bydd y cofnodion yn dangos fod y canolwr ifanc, Scott Williams, wedi sgorio tri o’r ceisiau a’r eilydd, George North, dau, ond ymdrech gan garfan o 22 ddaeth a’r llwyddiant gyda chyfuno ac ad-drefnu gwych i’w weld ym mhob adran o’r tîm. Gydag Aled Brew, Toby Faletau, Gethin Jenkins, Jonathan Davies, Lloyd Williams, Lee Byrne ac Alun Wyn Jones yn sgorio cais yr un a chwarae anhunanol gan y chwaraewyr eraill, gellir gweld sut y bu’r perfformiad yn hwb i obeithion Cymru trwy ddangos i Warren Gatland a’i gyd-hyfforddwyr fod ganddynt ddigon o dalent ar gael ar gyfer yr her i ddod.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Llun: George North

Rhannu |