Rygbi

RSS Icon
16 Medi 2011
Androw Bennett

Un pwynt bychan

UN o fanteision yr Oes Dechnolegol yw’r gallu i ddarllen a chlywed beth mae pobl o bedwar ban byd yn ei ddweud a’i sgrifennu’n dilyn digwyddiadau mawr y byd. Cofio digwyddiadau erchyll 9/11 oedd ar feddwl llawer dros y Sul a hynny’n gosod Cwpan y Byd Rygbi mewn cyd-destun dwys, yn arbennig o wylio’r ornest rhwng yr Iwerddon ac Unol Daleithiau America.

Er i’r Gwyddelod gael ychydig o drafferth cyn ennill y dydd o 22-10, doedd ’na ddim llawer yn y perfformiad i blesio’u capten, Brian O’Driscoll, yn arbennig o gofio taw Awstralia yw eu gwrthwynebwyr nesaf nhw yn syth wedi’n hamser brecwast yfory.

Gyda’r Saeson yn llwyddo i atgyfodi o fod yn feirwon cyn curo’r Ariannin o 13-9 a’r Alban, er yn cael tipyn o drafferth, yn ennill pwynt bonws wrth sgorio pedwar cais a churo Romania o 34-24, ymddangosai taw ar ein tîm cenedlaethol ninnau yr oedd y pwysau mwyaf o blith gwledydd Ynysoedd Prydain ar benwythnos cynta’r gystadleuaeth.

Oedd, roedd hi’n gêm glòs, gyda’r golled o 17-16 yn boenus i’w dioddef yn dilyn perfformiad gwych gan bob aelod o dîm Cymru, ond rhaid cofio taw colled yw colled a hynny’n gosod ein gobeithion yn y fantol, gyda’r her o gyfeiriad Samoa i’w hwynebu’n oriau mân bore drennydd.

Os byth y bu cyfle ardderchog i Gymru guro De Affrica, dydd Sul diwethaf oedd y cyfle hwnnw, gyda thipyn o ddryswch ynglŷn â chapteniaeth y gwrthwynebwyr am gyfnod, wedi i’w bachwr a chapten, John Smit, adael y cae ar 57 munud. Yn y diwedd, doedd ’na fawr o wahaniaeth nad oedd Smit na’i ddirprwy, Victor Matfield, ar y cae na’r ffaith nad oedd ’na sicrwydd p ’un ai Johan Muller neu Schalk Burger oedd yn llywio tactegau’r buddugwyr wrth i ymdrech Cymru fethu wrth ymyl y lan unwaith eto.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |