Rygbi

RSS Icon
25 Awst 2011
Androw Bennett

Teithio'n llawn gobaith

ERBYN i ni allu darllen rhifyn wythnos nesaf o Y Cymro, bydd carfan Rygbi Cymru ar gyfer Cwpan y Byd wedi cychwyn ar y daith i Seland Newydd yn llawn gobaith o allu dod nôl o ben draw’r byd yn bencampwyr. Chwarae teg i bawb sy’n ymwneud â’r garfan a gydag Undeb Rygbi Cymru am fentro ar y daith yn llawn brwdfrydedd a gobaith, ond tybed pa mor real yw’n gobeithion yn y byd go-iawn?

Do, cafwyd dwy fuddugoliaeth o’r bron yn ystod y mis hwn, gyda churo Lloegr, fel y gellid ei ddisgwyl, bythefnos yn ôl, yn hwb i’r galon a’r llwyddiant o 28-13 dros yr Ariannin ddydd Sadwrn diwethaf yn foddhaol o gofio i’r gwrthwynebwyr orffen yn drydydd yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd bedair blynedd yn ôl. Digon siomedig a thila oedd hanner cynta’r ornest wythnos diwethaf, gyda’r ymwelwyr ar y blaen o 3-0 am gyfnod cyn i ddau gais hwyr gan Andy Powell ac Alun Wyn Jones a throsiadau James Hook roi blaenoriaeth o 14-3 i Gymru ar yr egwyl.

Rhannau allweddol y mewnwr ifanc, Tavis Knoyle, a’r asgellwr ifancach, George North, yn agor y drws i’r ddau flaenwr sgorio’u ceisiau, blesiodd fwyaf yn yr hanner cyntaf, er i redeg grymus Powell a Jones goroni gwaith eu cymdeithion. Gyda chanolwr y Sgarlets, Jonathan Davies, yn cydweithio’n dda gyda North i greu cais hwyr yn yr ail hanner i’r asgellwr a Hook yn cicio tair gôl gosb, ymddangosai’r fuddugoliaeth yn weddol gyfforddus er i’r cawr o Archentwr, Martin Scelzo, sgorio cais cysur i’r ymwelwyr ychydig cyn y chwiban olaf.

O ran dewisiadau Warren Gatland a’i gyd-hyfforddwyr ar gyfer y daith i Seland Newydd, mae’n amlwg fod y ddau ymweliad ddiweddar i Wlad Pwyl wedi chwarae rhan amlwg yn y penderfyniadau. Mae’n debyg taw’r mewnwyr ifainc, Knoyle a Lloyd Williams, fanteisiodd fwyaf ar y gyfundrefn haearnaidd draw yn Nwyrain Ewrop i gynyddu’u ffitrwydd, gyda’r ddau erbyn hyn yn dynn wrth sodlau Michael Phillips. Yn y cyfamser, talodd Dwayne Peel yn ddrud am adael Cymru’n llawn gobaith y byddai erwau Edgeley Park a chlwb Sale yn rhoi hwb i’w yrfa tra’n chwyddo cynnwys ariannol ei boced.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |