Rygbi

RSS Icon
01 Mehefin 2017

Pedwar cyn-Lew yn dweud eu dweud am garfan 2017

Gydag S4C yn darlledu uchafbwyntiau o bob gêm yn Nhaith Llewod Prydain ac Iwerddon 2017, mae'r sianel wedi cael cymorth pedwar cyn-Lew ar gyfer yr ymgyrch hyrwyddo.

Gyda 24 cap prawf y Llewod rhyngddyn nhw, bydd Syr Gareth Edwards, Gerald Davies, Dwayne Peel a Stephen Jones yn ymddangos yn yr ymgyrch aml-lwyfan, i adrodd eu hanesion yn y crys coch enwog yn ogystal â rhoi eu barn am y garfan bresennol.

Eleni fe fydd y daith yn cychwyn oddi cartref yn erbyn Barbariaid Taleithiau Seland Newydd ddydd Sadwrn, 3 Mehefin, gydag uchafbwyntiau yn cael eu dangos ar S4C am 8.30yh

 Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau gêm rhwng Llewod Prydain ac Iwerddon a'r Auckland Blues yn Eden Park, am 10.00yh. Catrin Heledd fydd yn arwain y tîm cyflwyno ar gyfer y ddwy gêm, gyda Gareth Rhys Owen yn y blwch sylwebu.

Felly, beth oedd gan y pedwar Llew i'w ddweud?

Syr Gareth Edwards – 3 taith, 10 gêm prawf

"Rwy'n credu bod y garfan yn un o'r rhai cryfa' sydd wedi gadael Prydain ac Iwerddon. Mae'r garfan yn llawn chwaraewyr arbennig. Mae'r Crysau Duon 'di bod gyda'i gilydd ers blynyddoedd. Er bod carfan y Llewod yn gryf ac er bod 'na unigolion arbennig yno, a oes gan Warren Gatland yr amser i'w tynnu nhw at ei gilydd? Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i weld beth yw'r ateb.

"Rwy'n mynd i edrych yn fanwl ar Maro Itoje - fydd hi'n ddiddorol gweld os bydd e'n chwarae yn y rheng ôl neu yn yr ail reng. Mae 'na lawer o redwyr cryf ac mae Iain Henderson yn un dwi'n edrych ymlaen at ei weld. Byddaf i'n edrych ymlaen at weld hefyd shwt mae'r rheng ôl yn mynd i chwarae, achos fydd hynny'n hollbwysig i weld pa ffordd mae pethau'n gweithio mas."

Gerald Davies – 2 daith, 5 gêm prawf, 3 chais, a chyn-reolwr taith a chadeirydd y Llewod

"Mae'r ffaith eu bod nhw 'di dewis Sam fel capten yn rhywbeth gwych iddo fe ond hefyd i ni fel Cymry. Wrth gwrs, dyma'r ail dro iddo gael ei ddewis, felly mae'n amlwg eu bod nhw'n hoff o'i bersonoliaeth ac mae e wedi chwarae'n gryf yn ddiweddar.

"Dwi'n gobeithio bod y bobl ifanc sy'n mynd ar y daith yn mynd yno i fwynhau'r wlad a'i phobl. Os nad wyt ti'n hapus ac yn gyfforddus, dwyt ti ddim yn mynd i ennill. Bydd y pwysau'n drwm a bydd y chwaraewyr yn nerfus. Bydd yr awyrgylch mas yn Seland Newydd yn un heb drugaredd, felly mae eisiau iddyn nhw fod yn gyfforddus yn eu hunain, a gyda'i gilydd."

Dwayne Peel – 1 daith, 3 gêm prawf

"Mae hi'n garfan gref a chyffrous. Bydd hi'n ddiddorol iawn gweld sut mae'r Llewod yn chwarae a shwt maen nhw'n mynd i ymdopi gyda chyflymder Seland Newydd. Yn Super Rugby ar y funud mae timoedd Seland Newydd yn chwarae'n arbennig o dda hefyd. Chwarae yn y steil cywir fydd yn hollbwysig os ni moyn ennill gemau ar y daith."

Stephen Jones – 2 daith, 6 gêm prawf, 53 pwynt

"Mae'r Crysau Duon yn dda oherwydd bod eu doniau yn wych, ond maen nhw'n gorfforol hefyd.  Maen nhw'n gallu chwarae mewn sawl ffordd wahanol ac mae hynny'n achosi problemau i unrhyw amddiffyn. Pob clod i'w hyfforddwyr nhw, maen nhw hefyd wedi creu diwylliant rygbi llwyddiannus hefyd.

"Dwi'n meddwl y gall Sam gael effaith enfawr ar y daith. Fe yw'r capten ac mae e mor gorfforol a mor effeithiol yn ardal y dacl. Mae'r ffordd mae Seland Newydd yn chwarae'r gêm yn dibynnu gymaint ar gyflymder y bêl, felly mi fydd rhywun fel Sam yn medru arafu pêl Seland Newydd fel bod ni'n gallu trefnu ein hamddiffyn ni."

Bydd S4C yn dangos rhagor o rygbi ym mis Mehefin wrth i Gymru deithio i Georgia i gymryd rhan ym Mhencampwriaethau Dan 20 y Byd. Bydd pob gêm tîm Jason Strange i'w gweld yn fyw ar y sianel. Yr wythnos hon, bydd Cymru yn herio Lloegr ddydd Sul, 4 Mehefin, cyn eu gêm grŵp olaf ddydd Iau, 8 Mehefin yn erbyn Samoa.

Taith y Llewod 2017: Provincial Union XV v Y Llewod

Nos Sadwrn 3 Mehefin 8.30, S4C

Taith y Llewod 2017: Blues v Y Llewod

Nos Fercher 7 Mehefin 10.00, S4C

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill
Cyd-gynhyrchiad Sunset + Vine Cymru and Sports Media Services i S4C

Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 Y Byd: Lloegr v Cymru

Dydd Sul 4 Mehefin 5.15, S4C

Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 Y Byd: Cymru v Samoa

Dydd Iau 8 Mehefin 9.45, S4C

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill
Cyd-gynhyrchiad Sunset + Vine Cymru and Sports Media Services i S4C

Llun: Gerald Davies a Sam Warburton

Rhannu |