Rygbi

RSS Icon
12 Ebrill 2017

Y penwythnos mwyaf o rygbi clwb yng Nghymru

Bydd y penwythnos mwyaf yng nghalendr clybiau a rhanbarthau Cymru yn ei ôl dros y Pasg, wrth i gemau Dydd y Farn a Diwrnod y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol gael eu cynnal yn y Stadiwm Principality.

Bydd y pedwar rhanbarth yn brwydro yn erbyn ei gilydd; bydd tîm mwyaf llwyddiannus yr Uwch Gynghrair yn herio tîm y Gogledd; bydd breuddwydion chwaraewyr clwb yn cael eu gwireddu wrth iddyn nhw gamu ar y cae - ac efallai bydd Shane Williams yn ei ôl.

Ar ddydd Sadwrn, 15 Ebrill, fe fydd Clwb Rygbi yn dangos y gêm Dydd y Farn rhwng Dreigiau Casnewydd Gwent a'r Scarlets yn fyw o 5.00. Yna ar ddydd Sul, 16 Ebrill, bydd S4C yn dangos tair gêm y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol yn fyw.

Am 12.45, bydd Yr Aman yn herio Caerffili yn rownd derfynol y Bowlen Genedlaethol; am 3.00, darlledir Rownd Derfynol y Plât Cenedlaethol rhwng Penallta ac Ystalyfera; ac i orffen am 5.15, cawn ddilyn holl gyffro gêm y Cwpan Cenedlaethol rhwng Pontypridd ac RGC 1404. Yn arwain y tîm cyflwyno bydd y cyflwynydd a'r dilynwr rygbi brwd sy'n hanu o Borthmadog, Owain Gwynedd.

Dywedodd Owain, sydd hefyd yn ddyfarnwr rygbi yn ei amser sbâr, "Tu allan i'r gemau rhyngwladol, hwn yw'r penwythnos rygbi mwyaf yng Nghymru erbyn hyn ac mi fydd 'na dorfeydd anferth yna dros y penwythnos. I'r chwaraewyr sy'n cystadlu ar y lefelau yma, dyma uchafbwynt eu tymor nhw os nad eu gyrfa nhw. Mae'n anrhydedd iddyn nhw fod ar y cae heb sôn am godi cwpan.

"Y gobaith i gefnogwyr Yr Aman fydd gweld Shane Williams yn troedio maes y Principality unwaith eto. Yn eu herbyn mae Caerffili, sy'n dîm â hanes disglair iawn, sy'n ceisio adennill eu safle tua'r uchelfannau. Mae Brett Davey wedi dychwelyd i'r clwb i hyfforddi, ac mae Matthew Nuthall yn chwarae ac yn hyfforddi ac mae hynny'n talu ffordd iddyn nhw.

"Yn y Plât mi fydd Penallta eisiau cywiro'r cam o'r llynedd, pan gollon nhw yn erbyn Bedlinog, ond mae Ystalyfera wedi edrych yn dda yn y Plât hyd yma."

Mae'r brif gêm ar ddydd Sul rhwng Pontypridd ac RGC yn addo bod yn gêm i'w chofio wedi i'r ddau dîm ennill eu lle ar ôl gemau rownd gynderfynol llawn cyffro. Fe lwyddodd Pontypridd i ddal ymlaen a threchu Cross Keys o 42 i 37, tra y gwnaeth RGC sicrhau buddugoliaeth funud olaf dros Ferthyr diolch i gais gan Sam Jones, mewn gêm a ddangoswyd ar S4C.

"Bydd hi'n gêm ddiddorol dros ben," meddai Owain. "Bydd Pontypridd, y clwb sydd wedi bod yn hawlio'r fraint i fod y pumed rhanbarth fel petai, yn erbyn RGC, y clwb sy'n tyfu yn eu statws a'u dilyniant ac sy'n hawlio mai nhw dylai fod y pumed rhanbarth yn y dyfodol.

"Mae'r Gogs yna am y tro cyntaf yn eu hanes, a dwi'n disgwyl bydd 'na dorf fawr yno o'r gogledd. Tu hwnt i bob disgwyl, maen nhw wedi bod yn hynod o lwyddiannus yn barod y tymor hwn ac wedi pasio unrhyw darged gafodd ei osod cyn dechrau'r tymor.

"Ond, maen nhw'n gorfod curo'r tîm sydd wedi gosod y safon dros y blynyddoedd diwethaf, Pontypridd. Ar ôl dechrau anodd, maen nhw wedi codi'r safon ar adeg iawn y tymor. Ac mi fyddan nhw'n siŵr o ddod â'u dilyniant brwd gyda nhw hefyd. Dwi'n rhagweld gêm eithaf hafal, a phwy bynnag sy'n delio â'r achlysur orau, mae'n debyg, fydd yn fuddugol.

Clwb Rygbi: Dreigiau Casnewydd Gwent v Scarlets

Sadwrn 15 Ebrill, 5.00, S4C
Cynhyrchiad BBC Cymru

Uchafbwyntiau dwy gêm Dydd y Farn nos Lun am 10.00, S4C

Diwrnod y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol

Rygbi: Yr Aman v Caerffili, 12.45, S4C
Rygbi: Penallta v Ystalyfera, 3.00, S4C
Rygbi: Pontypridd v RGC 1404, 5.15, S4C
Sylwebaeth Saesneg ar gael
Cynhyrchiad Sunset+Vine ac SMS ar gyfer S4C

Rhannu |