Rygbi

RSS Icon
Androw Bennett

Anafiadau

ER y dathlu haeddiannol wedi buddugoliaeth ein tîm rygbi cenedlaethol o 19-9 dros Loegr yn Stadiwm y Mileniwm bnawn Sadwrn diwethaf, islais o siom oedd i’w glywed erbyn dechre’r wythnos hon yn dilyn y newyddion siomedig am nifer o anafiadau i aelodau blaenllaw o garfan Warren Gatland.

Roedd hi’n hysbys ers yr ornest yn erbyn y Saeson yn Nhwicenham bythefnos yn ôl na fyddai Morgan Stoddart yn teithio i Seland Newydd ar gyfer Cwpan y Byd wedi iddo dorri’i goes. Fore dydd Llun, daeth y newyddion fod capten y garfan, y bachwr Matthew Rees, i fethu’r daith i “Wlad y Cwmwl Hir” am fod angen llawdriniaeth ar ei wddf ag yntau’n dioddef poen difrifol a pharhaol.

Tua’r un amser ddydd Llun, clywyd fod Gavin Henson wedi datgymalu asgwrn yn ei arddwrn dde ac felly heb unrhyw obaith o deithio ar gyfer cymal cynta’r gystadleuaeth yn Hemisffer y De. Am y trydydd tro’n olynol, felly, caewyd y drws ar obeithion “Yr Un Oren” i fod yn rhan o her Cwpan y Byd ac, o fod yn hollol onest, ofer yw dechre meddwl y gallai fod ar gael petai Cymru ymhlith yr wyth olaf, hyd yn oed os bydd ein ffefrynnau’n symud ymlaen i’r cymal nesaf.

Gwelir y prop, Gethin Jenkins, mewn sefyllfa debyg i Henson, yn sicr, yn ôl pob sôn, o fethu gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y byd yn erbyn De Affrica ar 11 Medi yn Hamilton. Mor bwysig yw Jenkins i gynlluniau Warren Gatland, fodd bynnag, yn sylfaen ac yn gonglfaen i’r pac, fel y bydd yr hyfforddwr am symud môr a mynydd er mwyn cael y prop yn ei garfan ar gyfer hyd yn oed un o’r gêmau yng nghymal cyntaf y gystadleuaeth yn Seland Newydd.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |