Rygbi

RSS Icon
06 Mawrth 2017

Gêm fawr i Ferched Cymru yn erbyn Iwerddon

Mae cyn-asgellwraig Cymru, Caryl James, yn credu bod tîm merched Cymru wedi tangyflawni hyd yn hyn ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad RBS 2017.

Wedi buddugoliaeth yn eu gêm gyntaf oddi cartref yn erbyn Yr Eidal o 20 pwynt i 8, mae tîm Rowland Phillips wedi colli eu dwy gêm ddiweddaraf; 0-63 mewn gêm gartref i bencampwyr y byd, Lloegr, ac o 14 bwynt i 15 oddi cartref yn erbyn yr Alban.

Bydd camerâu S4C ym Mharc yr Arfau BT Sport ar ddydd Sadwrn, 11 Mawrth wrth i'r tîm groesawu Iwerddon i Gaerdydd yn eu gêm nesaf o flaen tyrfa fydd yn sicr yn talu teyrnged i'r chwaraewraig Elli Norkett fu farw mor drasiediol o ifanc mewn damwain car ar ôl y gêm yn erbyn Yr Alban.

Bydd Caryl, a enillodd 27 cap rhyngwladol ac sy'n hanu o bentre' Login, Sir Gâr, yn rhan o'r tîm cyflwyno, tra bydd hi hefyd yn ymuno â Gareth Charles a chyn gapten Cymru, Gwyn Jones, yn y blwch sylwebu.

Dyma ei hasesiad hi o ganlyniadau Cymru hyd yma.

Faint fydd yr her yn erbyn Iwerddon?

Mae Iwerddon wedi ennill pob gêm hyd yn hyn, felly mae'n amlwg mai nhw yw'r tîm i guro nawr. Mae'r gemau dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn agos iawn; pwyntiau yn unig sydd wedi bod rhyngddynt, ac yn sicr, mae'r gallu yno gan Gymru i ennill y gêm.

Ar ôl bod 14-0 ar y blaen yn erbyn Yr Alban, colli 15-14 wnaethon nhw yn y diwedd. Pa mor boenus yw colli gêm fel yna?

Roedd e'n hollol annisgwyl iddyn nhw golli i'r Alban yn y ffordd wnaethon nhw ac mae'r golled yna'n mynd i frifo'n lot fwy na'r golled yn erbyn Lloegr.

Gwelwyd cymaint o ddiffyg disgyblaeth yn y gêm, a'r Alban yn manteisio ar bob cyfle.

Rhaid hefyd cwestiynu strategaethau'r tîm; cymaint o gicio meddiant yn ôl i'r Alban.

Buasai wedi bod yn wych gweld yr asgellwyr yn cael y cyfle i redeg at y gwrthwynebwyr. 

Mae 'na lot fwy o gwestiynau yn cael eu gofyn o'r tîm hyfforddi erbyn hyn, oherwydd mae'r canlyniadau yma'n adlewyrchiad arnyn nhw hefyd.

Felly ar ôl dwy golled ac un fuddugoliaeth, ydy'r tîm wedi tangyflawni hyd yma?

Yn sicr maen nhw wedi tangyflawni a byddan nhw'n teimlo'r siom yn enfawr.

Y cwestiwn ydy, pam maen nhw wedi tangyflawni?

Maen nhw'n cael yr arweiniad gorau maen nhw erioed wedi derbyn gan y tîm hyfforddiant a'r tîm wrthgefn llawn amser.

Mae Cwpan y Byd yn agosáu mewn ychydig o fisoedd, a dylai Rowland Phillips fod yn eithaf sicr o'i garfan erbyn hyn.

Ond mae dal angen gweithio allan y partneriaethau gorau a mwyaf effeithiol.

Maen nhw i gyd mewn tipyn bach o benbleth ar y funud, ond mae gen i bob ffydd ym mhotensial y tîm ifanc yma i ddatblygu a llwyddo.

Rhaid cofio, gyda thîm hyfforddi newydd, mae angen amser iddynt ymgyfarwyddo â'i gilydd.

Yn amlwg, mae marwolaeth ddiweddar Elli Norkett wedi rhoi pethau mewn persbectif i bawb. Sut effaith gaiff hynny ar dîm Cymru?

Mae'r garfan i gyd yn upset iawn – roedd rhai o'i ffrindiau gorau yn chwarae dros Gymru. Bydd e'n achlysur emosiynol iawn yn erbyn Iwerddon.

Yn hwyrach ymlaen ar yr un diwrnod, bydd S4C hefyd yn darlledu gêm tîm Cymru Dan 20 yn erbyn Iwerddon Dan 20, yn fyw ac yn ecsgliwsif o Barc Eirias, Bae Colwyn. Bydd y rhaglen yn cychwyn am 6.15 ar ddydd Sadwrn, 11 Mawrth.

Rygbi Merched: Cymru v Iwerddon

Dydd Sadwrn 11 Mawrth 11.15, S4C            

Cymru Dan 20 v Iwerddon Dan 20

Dydd Sadwrn 11 Mawrth 6.15, S4C              

Sylwebaeth Saesneg                                    
Ar gael ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad BBC Cymru

Rhannu |