Rygbi

RSS Icon
25 Chwefror 2011
Sian Couch

Harris yn feirniadol


HARLEQUINS RL 20     CRUSADERS RL 18


ROEDD y Crusaders yn llawn hyder yn dilyn eu buddugoliaeth gampus yn erbyn Salford City Reds yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf ond fe’u trechwyd o drwch blewyn ddydd Sul gan Harlequins yn stadiwm y Stoop.

Sgoriodd Jarrod Sammut ddau gais allan o dri y sgoriwyd gan y Crusaders ond nid oedd yn ddigon, gyda’r hyfforddwr Iestyn Harris, yn y llun, yn dweud fod y Quins yn haeddu’r fuddugoliaeth. Sgoriodd Ben Flower y trydydd cais i'r Crusaders.

Yn ôl Iestyn Harris: “I ennill gêmau mae’n rhaid adeiladu pwysau ar dimau ond fe wnaed gormod o gamgymeriadau.

“Nid oeddwn yn hapus gyda’r dyfarnwr ond does dim y gellir ei wneud am hynny nawr.

“Nid oedd yna ddigon o ymosod ac i fod yn deg, roedd Harlequins yn haeddu’r fuddugoliaeth."

Stori lawn yn Y Cymro

Rhannu |