Rygbi

RSS Icon
28 Medi 2016

Gwyliwch dîm Rygbi’r Gynghrair Cymru ar S4C

Fe fydd gêm ragbrofol Cwpan y Byd tîm Rygbi’r Gynghrair Cymru yn erbyn Serbia yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C, o Barc Stebonheath, Llanelli ddydd Sadwrn, 15 Hydref.

Dyma’r tro cyntaf i’r darlledwr ddangos gêm fyw Rygbi’r Gynghrair ers 2008 a’r tro cyntaf i gêm tîm cenedlaethol gael ei dangos yn fyw ers Cwpan y Byd 1995.

Bydd y rhaglen yn dechrau am 2.45, gyda’r gic gyntaf am 3.00. Yn ogystal â sylwebaeth Gymraeg, fe fydd sylwebaeth Saesneg ar gael trwy’r gwasanaeth botwm coch.

Enillodd tîm Cymru Bencampwriaeth Ewrop y llynedd ar ôl buddugoliaethau dros Ffrainc, Yr Alban ac Iwerddon, a’r tro hwn byddan nhw’n cystadlu mewn grŵp rhagbrofol o dri thîm. Ar gyfer yr unig gêm arall yn eu grŵp, fe fydd tîm Cymru yn teithio i Monza yn Yr Eidal ddydd Sadwrn, 29 Hydref.

Bydd enillydd y grŵp yn sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair 2017 yn Awstralia a Papua New Guinea, tra bydd y tîm sy’n ail yn cystadlu mewn gêm ail gyfle yn erbyn y tîm sy’n ail yng ngrŵp sy’n cynnwys timau Iwerddon, Sbaen a Rwsia. Bydd y gêm yna’n cael ei chwarae yn stadiwm y tîm Super League, Leigh Centurions, ar Dachwedd 4.

Mae hyfforddwr tîm Cymru, John Kear, wrth ei fodd fod S4C wedi dewis darlledu’r gêm fawr a bod mwy o Rygbi’r Gynghrair i’w weld ar deledu.

“Mae hyn yn newyddion gwych. Fe ddangosodd S4C uchafbwyntiau o’n hymgyrch llwyddiannus ym Mhencampwriaeth Ewrop ac mae’r ffaith fod nhw wedi dewis dangos ein gêm Cwpan y Byd yn erbyn Serbia, i’w gweld yn fyw ac yn rhad ac am ddim, yn tanlinellu’r cynnydd mae’r garfan wedi ei wneud yn ddiweddar.

“Os ydan ni’n chwarae cystal ag y gwnaethon ni'r llynedd, fe wnawn ni ennill.

“Bydd S4C yn dangos y gamp i gynulleidfa newydd ac mae angen i ni greu argraff ar y gwylwyr. Mae’n rhaid i ni sicrhau fod y stadiwm yn llawn yn ogystal, er mwyn ychwanegu at yr awyrgylch.”

Dywedodd Golygydd Chwaraeon S4C, Sue Butler: “Rydym yn falch iawn i gynnwys y gêm Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair yn ein portffolio chwaraeon. Rydym ni’n edrych ymlaen at ddangos y gêm yma’n fyw ac yn ecsgliwsif, ac yn dymuno pob lwc i’r tîm wrth iddyn nhw gynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.”

Bydd tocynnau i’r gêm yn £10 i oedolion, £8 am gonsesiynau a £5 i blant. Bydd y tocynnau ar gael i’w brynu ar http://www.walesrugbyleague.co.uk/wales/match_tickets. Nodwch mai 6.00 oedd amser y gic gyntaf yn wreiddiol.

Llun: John Kear

Rhannu |