Rygbi

RSS Icon
26 Awst 2016

Clwb Rygbi yn dychwelyd i amserlen nos Sadwrn

Mae rygbi byw yn ôl ar nos Sadwrn ar S4C gyda thîm Clwb Rygbi yn barod am yr her o daclo gemau byw Pencampwriaeth y Guinness PRO12.

Gyda’r gic gyntaf am 7.35, bydd Clwb Rygbi yn rhan o amserlen gyffrous nos Sadwrn fydd hefyd yn cynnwys gêm bêl-droed fyw ar Sgorio, ac yna adloniant wedi 9.00.

Mae'r cyfan yn dechrau gyda'r ornest rhwng y Gleision a Chaeredin ym Mharc yr Arfau BT Sport nos Sadwrn 3 Medi. Fe fydd gemau i gyd ar gael i'w gwylio mewn HD ar blatfformau Sky a Freesat. Mae'r gemau ar gael i'w gwylio ar alw ac ar-lein ledled y DU ar s4c.cymru ac ar BBC iPlayer.

Mae cyflwynydd newydd, Gareth Rhys Owen, yn arwain rhaglen Clwb Rygbi, sy’n cael ei chynhyrchu gan BBC Cymru.

Mae Gareth yn wyneb a llais cyfarwydd i nifer fawr o wylwyr, ac yntau’n ohebydd chwaraeon ar deledu a radio ac yn sylwebu ar gemau rygbi a seiclo ers blynyddoedd.

Mae'n ystyried y cyfle i angori'r rhaglen yn fraint wrth ddilyn ôl troed Gareth arall, y cyn gyflwynydd Gareth Roberts.

"Mae Gareth Roberts wedi arwain y gad o ran darlledu yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf. Felly mae'n dipyn o her i'w ddilyn ond mae'n un rwy'n edrych ymlaen amdani," meddai Gareth Rhys Owen, sy'n wreiddiol o Gydweli ac nawr yn byw yng Nghaerdydd.

Mae'n ymuno â thîm cyflwyno profiadol sy'n cynnwys y tîm sylwebu Gareth Charles, Gwyn Jones ar sylwebwyr Deiniol Jones, Dafydd Jones ac Andrew Coombs. Maen nhw i gyd yn eiddgar i weld rhanbarthau Cymru yn cystadlu am y teitl a'r safleoedd uchaf.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld os gall rhanbarthau Cymru gamu i'r lefel nesaf," ychwanega Gareth. "Rwy'n meddwl bod 'na chwyldro tawel yn digwydd gyda Danny Wilson a'r Gleision. Yr un hen her sydd o flaen y Dreigiau, gyda diffyg cyllid a charfan lai profiadol, ond os yw Kingsley Jones yn medru rhoi tân yn eu calonnau, dwi'n meddwl bydden nhw'n medru cystadlu."

Connacht oedd pencampwyr y llynedd ond a fydd dau ranbarth gorllewinol Cymru yn gallu eu herio nhw a thimau mawr eraill Iwerddon a'r Alban?

"Gyda Jonathan Davies yn dychwelyd at y Scarlets a Rhys Patchell yn ymuno â nhw, mae ganddyn nhw linell ôl ddisglair. A phan da chi'n ystyried Olly Cracknell, Owain Watkin a Sam Underhill, mae 'na gnewyllyn o chwaraewyr dylanwadol ifanc gyda'r Gweilch. Os yw Steve Tandy'n medru defnyddio nhw'n effeithiol, fe all y Gweilch gystadlu am y safleoedd uchaf."

Clwb Rygbi: Gleision v Caeredin

Nos Sadwrn 3 Medi 7.15, S4C

HD ar Sky a Freesat

Isdeitlau a sylwebaeth Saesneg

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad BBC Cymru

Rhannu |