Rygbi
Rygbi 7 ar y cardiau yn Rio
19MAE ymroddiad blaenasgellwr y Sgar-lets, James Davies, i’r ffurf 7-bob-ochr o rygbi dros yr wythnosau diwethaf wedi talu ar ei ganfed wedi iddo gael ei gynnwys yng ngharfan Prydain ar gyfer cystadleuaeth gynta’r bêl hirgron yn y Gemau Olympaidd ers 1924.
Siomwyd Davies pan na chafodd ei ddewis i deithio i Seland Newydd gyda charfan Cymru, ond mae teithio i Rio yn fwy o lawer na gwobr cysur i un o berfformwyr mwyaf cyson Rhanbarth y De Orllewin.
Sam Cross yw’r unig Gymro arall yng ngharfan Prydain er y bydd Luke Treharne yn teithio fel eilydd wrth gefn ar ôl i Cory Allen dderbyn y newyddion siomedig nad yw yntau wedi ei ddewis.
Jasmine Joyce yw’r unig ferch Gymreig i’w dewis yng ngharfan merched Prydain a’r fyfyrwraig 20 mlwydd o Hwlffordd yn cael ei gwobrwyo am gymryd blwyddyn yn rhydd o’i chyfnod ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i ganolbwyntio ar geisio ennill lle ymhlith y criw sy’n teithio i Frasil.